Mae Ally yn darparu adroddiadau hygyrchedd yn ôl adran yn seiliedig ar yr hierarchaeth sefydliadol a ffurfweddwyd yn eich System Rheoli Dysgu (LMS). Defnyddio’r adroddiadau lefel adran i ddeall sut mae rhannau gwahanol o’ch sefydliad yn perfformio o ran hygyrchedd, pennu lle i dargedu eich ymdrechion a chael mewnwelediadau.

Gall gweinyddwyr craidd neu weinyddwyr cyffredinol ddewis y tab Cyfeiriadur yn yr adroddiad sefydliadol i gael mynediad at yr adroddiadau lefel adran.

Ffurfweddu’r adroddiadau adrannol ar eich LMS i ddangos adrannau a chyrsiau cysylltiedig i’r gweinyddwyr sy’n gallu rheoli’r adrannau hynny.

Rhagor am sut i ffurfweddu adroddiad adrannol

 

Cyfeiriadur

Mae’r cyfeiriadur yn rhestru’r adrannau neu nodau yn eich sefydliad. Ar gyfer pob adran byddwch yn gweld cyfanswm y cyrsiau newydd a’r cyrsiau wedi’u diweddaru, cyfanswm yr eitemau cynnwys newydd a’r eitemau cynnwys wedi’u diweddaru, a’r sgôr hygyrchedd ar gyfer yr adran.

Mae’r cyfansymiau a'r sgorau yn seiliedig ar y cyfnod o amser wedi’i ddewis yn y tab Trosolwg.

Os oes gan adran fwy nag un lefel, bydd botwm Is-lefelau ar gael i fireinio’r hyn a welwch i lefel penodol yn yr adran.

Gweld yr adroddiad

Mae adroddiad hygyrchedd ar gyfer pob adran yn y cyfeiriadur. Dewiswch Gweld yr adroddiad i weld pa mor dda mae’r adran o ran hygyrchedd.

Mae’r adroddiad adrannol yn debyg i’r adroddiad sefydliadol cyffredinol ond mae’n dangos data am yr adran yn unig. Holltir yr adroddiad yn y tabiau hyn:

  • Trosolwg: Mae’n dangos i chi sut mae cynnwys cwrs digidol yn yr adran yn perfformio fesul mis, tymor neu flwyddyn academaidd. Mae'n dangos i chi y sgôr hygyrchedd gyffredinol, cyfanswm y cyrsiau a'r cynnwys a grëwyd, yn ogystal â phroblemau hygyrchedd a ganfuwyd.
  • Cyrsiau: Mae’n dangos sut mae cynnwys cwrs digidol yn yr adran yn perfformio fesul cwrs a thymor. Mae'r tabl yn dangos pob cwrs yn yr adran sydd â phroblemau hygyrchedd.
  • Defnydd: Mae’n dangos pa mor aml mae myfyrwyr yn lawrlwytho fformat amgen ac mae hyfforddwyr yn trwsio problemau hygyrchedd yn yr adran.
  • Cyfeiriadur: Bydd hyn ond yn dangos pan fydd is-lefelau yn yr adran.

Gosod hierarchaeth sefydliadol eich LMS

Mae adroddiad adrannol Ally yn seiliedig ar yr hierarchaeth sefydliadol a ffurfweddwyd yn eich System Rheoli Dysgu (LMS). Mae rhaid gosod yr hierarchaeth yn eich LMS i orffen gosod er mwyn i weinyddwyr weld yr adroddiadau adrannol.

  • Blackboard Learn: Hierarchaeth sefydliadol a ffurfweddwyd
  • Instructure Canvas: Strwythur is-gyfrifon a ffurfweddwyd
  • Moodle: Categorïau a ffurfweddwyd
  • D2L Brightspace: Unedau cyfundrefnol “Adran” a ffurfweddwyd
  • Schoology: Yn defnyddio'r ffurffweddiad "Ysgolion" yn awtomatig.

Ni fydd y tab “Cyfeiriadur” yn dangos os na ffurfweddwyd hierarchaeth sefydliadol yn yr LMS.

Mae’r adroddiad adrannol yn defnyddio'r wybodaeth o hierarchaeth sefydliadol yr LMS i ddangos adrannau a chyrsiau cysylltiedig i’r gweinyddwyr sy’n gallu rheoli'r adrannau hynny. Bydd gweinyddwyr cyffredinol yn gweld popeth. Bydd gweinyddwyr adrannol neu nodau ond yn gweld yr adroddiad ar gyfer yr adrannau maent wedi lansio ohonynt.