Mae'r trosolwg yn dangos i chi sut mae cynnwys cwrs digidol yn eich sefydliad yn perfformio fesul mis, tymor neu flwyddyn academaidd. Mae'n dangos i chi y sgôr hygyrchedd gyffredinol, cyfanswm y cyrsiau a'r cynnwys a grëwyd, yn ogystal â phroblemau hygyrchedd a ganfuwyd.

Defnyddiwch y ddewislen math o gyfnod i weld yr adroddiad fesul mis, tymor neu flwyddyn academaidd. Allforiwch yr adroddiad i gael rhagor o fanylion.

Mae cyrsiau a ddilëwyd yn ymddangos yn yr adroddiadau mis ac academaidd yn unig ac fe nodir eu bod wedi'i dileu. Nid yw cyrsiau a ddilëwyd yn ymddangos yn yr adroddiad tymor.

Rhagor am yr allforyn CSV


Sgôr hygyrchedd

Mae'r graff llinell hwn yn dangos y sgôr hygyrchedd ar gyfer holl gynnwys y cwrs LMS dros gyfnod dethol. Dewiswch Yn ôl mis i gymharu'r sgôr ar draws nifer o fisoedd, Yn ôl tymor i gymharu tymhorau, neu Yn ôl blwyddyn academaidd.

  • Sgôr hygyrchedd y mis: Cyfartaledd sgoriau hygyrchedd yr holl eitemau o gynnwys a ychwanegwyd yn ystod y mis hwnnw.
  • Sgôr hygyrchedd tymor: Cyfartaledd sgoriau hygyrchedd yr holl eitemau o gynnwys sy'n berthnasol i gyrsiau'r tymor hwnnw.
  • Tymhorau gyda chyrsiau a chynnwys cysylltiedig yn unig a ddangosir yn yr adroddiad. Caiff tymhorau heb unrhyw gyrsiau neu gynnwys eu cuddio o'r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a ddilëwyd. Nid yw cyrsiau a ddilëwyd yn yr adroddiad tymor nac yn cyfrannu at sgôr hygyrchedd y tymor.

  • Sgôr hygyrchedd blwyddyn academaidd: Cyfartaledd sgoriau hygyrchedd yr holl eitemau o gynnwys a ychwanegwyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno.

Po uchaf y sgôr y gorau mae eich cynnwys yn perfformio. Pwyntiwch at gyfnod ar y graff llinell i weld y sgoriau fel canran %. Gallwch hefyd dicio neu ddad-dicio'r blychau WYSIWYG, Ffeiliau neu Cyffredinol i gymharu data penodol mewn unrhyw gyfnod penodol.

  • WYSIWYG: Sgôr ar gyfartaledd cynnwys (HTML) a grëir trwy olygydd cynnwys y System Rheoli Dysgu (LMS).
  • Ffeiliau: Sgôr ar gyfartaledd cynnwys y ffeiliau a uwchlwythwyd. Er enghraifft, ffeiliau PDF, dogfennau Word, cyflwyniadau PowerPoint, delweddau ac ati.
  • Cyffredinol: Sgôr hygyrchedd ar gyfartaledd cynnwys ffeiliau a chynnwys WYSIWYG.

Â'ch bysellfwrdd, pwyswch Tab i lywio drwy bob cyfnod ar y graff. Pwyswch y Bylchwr i'w ddewis.

 


Cyfanswm o gyrsiau a chynnwys a grëwyd

Gallwch weld cyfanswm nifer yr eitemau o gynnwys newydd ac a ddiweddarwyd yn adroddiad Yr holl gynnwys a grëwyd. Gallwch weld nifer y cyrsiau sydd ag eitemau o gynnwys newydd a ddiweddarwyd yn yr adroddiadCyfanswm y cyrsiau. Mae pob adroddiad yn cymharu'r cyfnod presennol â'r cyfnod blaenorol.

Yn yr adroddiad Cyfanswm y cynnwys a grëwyd , mae lliw yn cynrychioli gwahanol fathau o gynnwys. Pwyntiwch at fath o gynnwys i weld y cyfanswm a grëwyd a sgôr hygyrchedd ar gyfer y math hwnnw.

Gall defnyddwyr darllenwr sgrîn bwyso Tab i symud drwy'r tabl Cudd cyfanswm a grëwyd.

Dewiswch gyfnod arall o graff llinell Sgôr hygyrchedd neu o ddewislen y cyfnod presennol i ddangos cyfnod gwahanol.


Sgôr hygyrchedd gyffredinol

Gweld y sgôr hygyrchedd ar gyfer y cyfnod a ddewiswyd. Gweld sut mae’ch cynnwys yn perfformio ac a yw’r sgôr gyffredinol wedi mynd i fyny neu i lawr wedi’i chymharu â'r cyfnod blaenorol.

Dewiswch gyfnod arall o graff llinell Sgôr hygyrchedd neu o ddewislen y cyfnod presennol i ddangos cyfnod gwahanol.


Problemau hygyrchedd

Gweld rhestr o broblemau hygyrchedd a ganfuwyd yn ystod y cyfnod a ddewiswyd. Dewiswch gyfnod arall o graff llinell Sgôr hygyrchedd neu o ddewislen y cyfnod presennol i ddangos cyfnod gwahanol.

Rhestrir problemau yn nhrefn blaenoriaeth o ddifrifol i fach. Dylid cychwyn trwy ymdrin â’r hyn a nodir yn gyntaf ar y rhestr. Mae Ally yn ystyried y nifer o fyfyrwyr a effeithir, pa mor aml mae'r broblem yn digwydd, a'r sgôr hygyrchedd er mwyn penderfynu'r flaenoriaeth. Dewiswch Difrifol, Mawr, neu Mân i ddatrys y problemau yn ôl difrifoldeb.

  • Difrifol. Y problemau hyn sy’n cyflwyno’r risg fwyaf i hygyrchedd ac mae arnynt angen y sylw mwyaf.
  • Mawr. Mae'r materion hyn yn effeithio ar hygyrchedd, ac er nad ydynt yn ddifrifol, mae arnynt angen sylw.
  • Bach. Dylid ystyried y problemau hyn er mwyn cael sgôr hygyrchedd well.

Ar gipolwg gallwch chi benderfynu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer pob problem.

  • Problem math o gynnwys a hygyrchedd
  • Difrifoldeb
  • Cyfanswm y cynnwys â'r broblem

Dewiswch broblem i weld disgrifiad llawn o'r broblem a’r cyrsiau yr effeithir arnynt.

O'r Cyrsiau â'r tabl problemau hygyrchedd hwn , gwelwch ID ac enw'r cwrs, nifer y myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru a'u heffeithio gan y broblem, nifer yr eitemau yn y cwrs â'r broblem, a'r sgôr hygyrchedd .

Dewiswch Yn ôl i'r trosolwg i ddychwelyd i drosolwg adroddiad sefydliadol Ally. Dewiswch ddewislen cyfnod yr adroddiad i gymharu cyrsiau â'r broblem hon mewn cyfnod gwahanol.

Dewiswch gwrs i weld eitemau'r cwrs â'r broblem hon.

Gweld nifer y myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn y cwrs a rhestr o eitemau â'r broblem hygyrchedd.

Dewiswch Yn ôl i’r broblem i ddychwelyd i'r cwrs â'r rhestr hon o broblemau hygyrchedd . Dewiswch Allforio Cwrs i lawrlwytho'r adroddiad cwrs unigol. Dewiswch eitem i weld yr eitem dan sylw. Dewiswch Mynd i'r cwrs i ymweld â hafan cwrs a defnyddiwch adborth hyfforddwr Ally i wella hygyrchedd yr eitem.


Gwella hygyrchedd eitem

Ewch i'r adroddiad sefydliadol yn eich LMS. O dabl Materion hygyrchedd, dewch o hyd i eitem benodol o gynnwys mewn cwrs sydd â phroblem hygyrchedd. Dewiswch ddangosydd sgôr hygyrchedd yr eitem o gynnwys i agor y panel adborth.

Mae'r nodwedd hon wedi'i hanalluogi yn ddiofyn. Cyflwynwch gais ar Behind the Blackboard er mwyn ei alluogi. Mae'r nodwedd hon ar gael wrth gyrchu'r adroddiad sefydliadol o'r LMS yn unig ac nid wrth ddefnyddio'r URL i gael mynediad uniongyrchol.

Mwy ar y sgoriau a gwella hygyrchedd eitem