Creu Adroddiad Defnydd Ally

Mae’r adroddiadau Defnydd yn dangos manylion am sut mae’ch myfyrwyr a hyfforddwyr yn defnyddio Ally. Dysgu pa mor aml mae myfyrwyr yn lawrlwytho fformat amgen ac mae hyfforddwyr yn trwsio problemau hygyrchedd.

Mae’r adroddiad yn daenlen sydd wedi cael ei rhannu ym mhum taflen waith.

  1. Lansiadau Fformatau Amgen
  2. Fformatau Amgen Wythnosol
  3. Lansiadau Adborth i Hyfforddwyr
  4. Adborth i Hyfforddwyr Wythnosol
  5. Data

Mae gan bob taflen waith fanylion sy’n gysylltiedig ag ystod dyddiadau a ddewiswch.


Creu adroddiad Defnydd

  1. O Adroddiad Hygyrchedd Sefydliadol Ally dewiswch y tab Defnydd.
  2. Dewiswch ystod dyddiadau o'r adroddiad.
  3. Dewiswch y botwm Lawrlwytho’r adroddiad defnydd.

Efallai na fyddwch yn gweld data pan fyddwch yn agor yr adroddiad am y tro cyntaf. Efallai gwarchodir y ffeil wedi’i lawrlwytho. Galluogwch olygiadau i weld y data.


Lansiadau Fformatau Amgen

Mae’r daflen waith Lansiadau Fformatau Amgen yn dangos defnydd a dosbarthiad o fformatau amgen dros ystod dyddiadau penodol.

Defnydd Fformatau Amgen

Mae’r daflen waith yn dechrau gyda manylion am y nifer o weithiau mae’r panel Fformatau Amgen wedi’i agor a pha mor aml mae fformat amgen wedi’i lawrlwytho.

Mae graddfa drosi yn dangos y canran o lawrlwythiadau allan o'r cyfanswm o amserau y mae'r panel wedi’i agor.

Dosbarthiad yn ôl Fformatau Amgen

Gweld pa fformatau amgen sy’n boblogaidd, neu wedi’u lawrlwytho amlaf, gan eich myfyrwyr. Rhestrir pob fformat amgen gyda'r nifer o weithiau mae wedi cael ei lawrlwytho.

Lawrlwythiadau Cyrsiau gyda Fformatau Amgen

Gweld y cyrsiau o le mae myfyrwyr wedi lawrlwytho fformatau amgen.

Defnydd Ally Fformatau Amgen Wythnosol ac Adborth i Hyfforddwyr


Fformatau Amgen Wythnosol

Mae’r daflen waith Fformatau Amgen Wythnosol yn dangos gweithgarwch wythnosol dros ystod dyddiadau'r adroddiad. Gallwch weld y nifer o weithiau mae myfyrwyr wedi agor y panel bob wythnos. Gallwch hefyd weld y nifer o weithiau maent wedi lawrlwytho fformat amgen bob wythnos.

Mae wythnosau yn dechrau ar ddydd Llun. Ni allwch greu adroddiad ar y diwrnod presennol.


Lansiadau Adborth i Hyfforddwyr

Mae’r daflen waith Lansiadau Adborth i Hyfforddwyr yn dangos defnydd a dosbarthiad o adborth i hyfforddwyr dros ystod dyddiadau penodol.

Defnydd Adborth i Hyfforddwyr

Mae’r daflen waith yn dechrau gyda manylion am y nifer o weithiau mae’r panel Adborth i Hyfforddwyr wedi’i agor a pha mor aml mae hyfforddwyr wedi trwsio problem hygyrchedd o ganlyniad i hyn.

Mae graddfa drosi yn dangos y canran o drwsiadau allan o'r cyfanswm o amserau y mae'r panel wedi’i agor.


Lansiadau Adborth i Hyfforddwyr

Mae’r daflen waith Lansiadau Adborth i Hyfforddwyr yn dangos defnydd a dosbarthiad o adborth i hyfforddwyr dros ystod dyddiadau penodol.

Defnydd Adborth i Hyfforddwyr

Mae’r daflen waith yn dechrau gyda manylion am y nifer o weithiau mae’r panel Adborth i Hyfforddwyr wedi’i agor a pha mor aml mae hyfforddwyr wedi trwsio problem hygyrchedd o ganlyniad i hyn.

Mae graddfa drosi yn dangos y canran o drwsiadau allan o'r cyfanswm o weithiau mae'r panel wedi cael ei agor.

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos y nifer o weithiau mae’r Adroddiad Hygyrchedd Cwrs wedi’i agor o gwrs.

Cyrsiau sydd wedi gwneud gwelliannau

Gweld y cyrsiau lle mae hyfforddwyr wedi trwsio problemau hygyrchedd.


Adborth i Hyfforddwyr Wythnosol

Mae’r daflen waith Adborth i Hyfforddwyr Wythnosol yn dangos gweithgarwch wythnosol dros ystod dyddiadau'r adroddiad. Gallwch weld y nifer o weithiau mae hyfforddwyr wedi agor y panel Adborth i Hyfforddwyr a'r Adroddiad Hygyrchedd Cwrs pob wythnos. Gallwch hefyd weld y nifer o weithiau maent wedi trwsio problemau hygyrchedd bob wythnos.

Mae wythnosau yn dechrau ar ddydd Llun. Ni allwch greu adroddiad ar y diwrnod presennol.


Data

Mae'r daflen waith Data yn dangos manylion penodol am bob tro mae’r panel wedi’i agor, lawrlwythwyd fformat a thrwsiwyd problem hygyrchedd.

  • ID: ID unigryw y rhes/digwyddiad.
  • ID y Cwrs: ID y cwrs.
  • Cod y Cwrs: Cod y cwrs.
  • Enw'r Cwrs: Enw’r cwrs.
  • ID y Tymor: ID y tymor.
  • Enw’r Tymor: Enw’r tymor.
  • ID Cynnwys: ID y cynnwys.
  • Digwyddiad: Yn disgrifio’r weithred. Er enghraifft, os fydd rhywun yn agor y panel Fformatau Amgen neu Adborth i Hyfforddwyr.
  • AFLaunch: Mae'n dangos a yw rhywun wedi agor y panel Fformat amgen neu beidio. Mae 1 yn golygu y cafodd y panel ei agor. Mae 0 yn golygu bod y panel wedi aros ar gau.
  • Lawrlwytho: Mae'n dangos a yw rhywun wedi lawrlwytho fformat amgen. Mae 1 yn golygu y lawrlwythwyd un neu fwy o fformatau. Mae 0 yn golygu ni lawrlwythwyd fformatau amgen.
  • IFLaunch: Mae'n dangos a yw rhywun wedi agor y panel Adborth i Hyfforddwyr neu beidio. Mae 1 yn golygu y cafodd y panel ei agor. Mae 0 yn golygu bod y panel wedi aros ar gau.
  • Trwsio: Mae'n dangos a yw rhywun wedi trwsio problem hygyrchedd o'r panel Adborth i Hyfforddwyr. Mae 1 yn golygu y trwsiwyd un neu fwy o broblemau. Mae 0 yn golygu ni chafodd unrhyw beth ei drwsio.
  • Stamp amser: Yn dangos pryd ddigwyddodd digwyddiad. Y stamp amser yw’r nifer o eiliadau ers Ionawr 1, 1970.
  • Cleient: ID y cleient.
  • Math o Ffeil: Yn dynodi'r math o ffeil yn y digwyddiad. Er enghraifft, delwedd neu gyflwyniad.
  • Math o Fformat: Yn dynodi’r fformat amgen a lawrlwythwyd. Mae’r Math o Fformat yn wag pan fydd Lawrlwytho yn 0.

    Mae Tts yn cynrychioli’r fformat sain.

  • Sgôr Cyn: Sgôr hygyrchedd y cwrs cyn gwelliannau i'r cynnwys. Mae Sgôr Cyn yn wag pan fydd Trwsio yn 0.
  • Sgôr Ar Ôl: Sgôr hygyrchedd y cwrs ar ôl gwelliannau i'r cynnwys. Mae Sgôr Ar Ôl yn wag pan fydd Trwsio yn 0.
  • Wedi Gwella: Mae'n dangos a yw'r sgôr hygyrchedd wedi gwella ers trwsio'r ffeil. Mae 1 yn golygu bod y sgôr wedi gwella. Mae 0 yn golygu nad yw'r sgôr wedi gwella. Mae Wedi Gwella yn wag pan fydd Trwsio yn 0.
  • Wythnos: Yn dangos diwrnod cyntaf yr wythnos pan ddigwyddodd y digwyddiad. Yr wythnos yw'r nifer o ddiwrnodau, hyd at ddechrau'r wythnos, ers Rhagfyr 30, 1899.
  • AF: Mae'n dangos gweithgarwch yn y panel Fformat Amgen. Mae 1 yn golygu roedd gweithgarwch. Efallai agorwyd y panel neu lawrlwythwyd fformat. Mae 0 yn golygu nad oedd gweithgarwch.
  • IF: Mae'n dangos gweithgarwch yn y panel Adborth i Hyfforddwyr. Mae 1 yn golygu roedd gweithgarwch. Efallai agorwyd y panel neu trwsiwyd problemau. Mae 0 yn golygu nad oedd gweithgarwch.