Rydym yma i'ch helpu i ddod o hyd i'r hyn rydych yn edrych amdano.

Gallwch weld yr help ar gyfer unrhyw gynnyrch a chynulleidfa heb fewngofnodi. Mae chwilio addasol a thagio yn eich helpu i ddod o hyd i atebion eich cwestiynau.


Sut ydwyf yn dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnaf?

Mae gennych rai opsiynau i ddod o hyd i'r hyn rydych yn edrych amdano.

  • Dewiswch gynnyrch, gynulleidfa neu bwnc o'r ddewislen llywio.
  • Dywedwch wrthym pa fath o help rydych yn edrych am. Mae hyn yn ddefnyddiol os nad ydych yn gwybod enw eich cynnyrch.
  • Chwiliwch am air neu ymadrodd, yna lleihewch y canlyniadau yn ôl cynnyrch neu gynulleidfa.

I'ch helpu i wybod lle rydych, amlygir y dudalen a ddewiswch yn y ddewislen.


Sut ydwyf yn mewngofnodi i help.blackboard.com?

Does dim angen i chi! Mae ein gwybodaeth i gyd ar gael yn gyhoeddus.


Allwch roi gwybod i fi pan ddiweddarir pwnc?

Gallwch! Tanysgrifio i dudalennau help.blackboard.com sydd o ddiddordeb i chi. Byddwn yn anfon neges e-bost pan fyddwn yn eu diweddaru.

I ddilyn tudalen, sgroliwch i waelod y dudalen. Teipiwch eich cyfeiriad e-bost a dewiswch Dilyn. Ar ôl i chi gofrestru, gallwch ddilyn tudalennau ychwanegol. Dewiswch Rheoli Eich Tudalennau i newid eich dewisiadau hysbysiadau.

Pan fyddwn yn diweddaru tudalen, byddwch yn derbyn hysbysiad trwy e-bost gyda dolen i'r dudalen. Ni allwn rannu manylion am newidiadau i’r cynnwys mewn hysbysiadau trwy e-bost ar yr adeg hon.

Ni chefnogir y nodwedd Dilyn Tudalennau yn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr arall.


Allaf weld yr help yn fy iaith fy hun?

Mae mwyafrif y cynnwys ar y safle cymorth ar gael mewn 15 iaith ar wahân i'w iaith wreiddiol, Saesneg (en-us). Os yw'ch porwr wedi'i osod i iaith a gefnogir gan y safle, byddwch yn gweld elfennau'r safle yn eich iaith eich hun ac ychydig o'r cynnwys cymorth yn eich iaith eich hun.

I newid yr iaith, dewiswch iaith o dop y dudalen.

Cynnwys ar gael mewn amryw ieithoedd

  • Ally
  • Ap Blackboard
  • Blackboard Instructor
  • Collaborate: Profiad Ultra
  • Learn
  • SafeAssign
  • Ynghylch Help
  • Hygyrchedd
  • Adnoddau Cleientiaid
  • Diogelwch Cynnyrch

Yr ieithoedd sydd ar gael

Gall cynnwys myfyrwyr a hyfforddwyr, yn ogystal â chynnwys nad sy'n ymwneud â chynnyrch, fod ar gael yn yr ieithoedd canlynol gan ddibynnu ar y marchnadoedd lle gwerthir y cynnyrch.

  • Arabeg (ar-sa)
  • Catalaneg (ca-es)
  • Tsieinëeg, Syml (zh-hans)
  • Iseldireg (nl-nl)
  • Saesneg (en-us)
  • Ffinneg (fi-fi)
  • Ffrangeg (fr-fr)
  • Almaeneg (de-de)
  • Hebraeg (he)
  • Japaneg (ja-jp)
  • Eidaleg (it-it)
  • Corëeg (ko-kr)
  • Norwyeg Bokmål (nb-no)
  • Portiwgaleg Brasil (pt-br)
  • Rwsieg (ru-ru)
  • Sbaeneg (es-es)
  • Swedeg (sv-se)
  • Tyrceg (tr-tr)
  • Cymraeg (cy-gb)

Mae cynnwys gweinyddwyr ar gael yn yr ieithoedd canlynol yn unig.

  • Arabeg (ar-sa)
  • Iseldireg (nl-nl)
  • Saesneg (en-us)
  • Ffrangeg (fr-fr)
  • Japaneg (ja-jp)
  • Portiwgaleg Brasil (pt-br)
  • Rwsieg (ru-ru)
  • Sbaeneg (es-es)

Eithriadau

Mae'r cynnwys canlynol ar gael yn Saesneg (en-us) ac yn Sbaeneg (es-es) yn unig.

Mae rhai o gynnwys gweinyddwyr ar gyfer defnyddiau hunan-letya a lletya a reolir Blackboard Learn ar gael yn Saesneg (en-us) yn unig).


Ydw i'n gallu cael y cynnwys mewn fformatau eraill?

Ydych. Gallwch wneud unrhyw un o'r canlynol:

  • Argraffu dogfennau PDF yn uniongyrchol o'r safle trwy ddewis eicon yr argraffydd yn y bar llwybr byr neu trwy bwyso Ctrl +P (Windows) neu Command + P (Mac). Yna, gallwch argraffu'r dogfennau PDF i gael copïau caled neu drosi'r dogfennau PDf rydych yn eu creu i Word neu HTML gan ddefnyddio offeryn trydydd parti.
  • Creu dolen at dudalennau trwy gopïo URL y dudalen.
  • Copïo'r testun yn uniongyrchol o'r dudalen HTML.
  • "Drychweddu'r safle gan ddefnyddio offeryn pry cop megis HTTrack (ar gael yn Saesneg a Ffrangeg yn unig) neu SiteSucker (ar gael yn Saesneg yn unig). Gallwch wedyn olygu'r cynnwys a lletya'r ffeiliau eich hun.
  • Creu dogfennau Word® o'r tudalennau help gan ddefnyddio estyniadau porwyr megis Save Webpage As Word Doc extension for ChromeTM.

Gweinyddwyr: I ddysgu mwy am greu dolenni i'ch cynnwys yn hytrach na'r wefan hon mewn defnyddiau Blackboard Learn a hunan-letyir neu a reolir, gweler Personoli'r Profiad Help.


Sut ydwyf yn darparu adborth am y safle Help?

Nid oes gan Blackboard fynediad at wefan Blackboard eich sefydliad, felly ni allwn eich helpu gyda materion sy’n ymwneud â dosbarthiadau neu'r wefan yn benodol. Bydd rhaid i chi gysylltu â'ch hyfforddwr neu ddesg gymorth TG eich sefydliad. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar Google am enw eich sefydliad + desg gymorth neu gymorth TG.

I roi adborth am dudalen benodol, copïwch URL y dudalen (y ddolen i'r dudalen) a'i gyflwyno gyda’ch sylwadau ar ein tudalen Cysylltu â ni. Mae’r wybodaeth hon yn mynd yn uniongyrchol at y timau sy’n rheoli’r wefan gymorth a’i chynnwys.

Os dewch ar draws dolen doredig i Blackboard Help o wefan Blackboard eich sefydliad, gallwch gyflwyno ble rydych wedi gweld y ddolen doredig (yn cynnwys sgrinlun os yn bosibl) gyda’ch sylwadau ar ein tudalen Cysylltu â ni. Ni all Blackboard drwsio dolenni toredig ar wefan eich sefydliad.


Sut ydwyf yn diweddaru fy nolenni i'r safle Help blaenorol?

Diweddarodd Blackboard y safle help hwn (help.blackboard.com) i system rheoli cynnwys newydd yn seiliedig ar Drupal ar Ebrill 5, 2017.

O safbwynt ymarferol, ni newidiodd profiad y defnyddiwr. Mae dyluniad y pen blaen bron union yr un fath â'r hen safle help, a dylai defnyddwyr sy'n cyrraedd o ddolen y tu mewn i Ryngwyneb Defnyddiwr eu cynnyrch dal i ddod i'r lleoliad cywir. Yn y cefn, mae'r isadeiledd newydd yn helpu darogan a chofio dewisiadau cynnyrch defnyddiwr, sy'n cyflwyno cynnwys mwy defnyddiol i ddefnyddwyr.

NID yw rhai o "hen" ddolenni help Learn yn gweithio fel y disgwylir ar y safle newydd. Yn hytrach na phwyntio at dudalen benodol, maen nhw nawr yn pwyntio at y dudalen lanio gywir yng nghangen fwyaf newydd Learn.

Mae'r help Learn newydd yn "agnostig o ran fersiwn", sy'n golygu ein bod wedi ailysgrifennu'r cynnwys i gynnwys help ar gyfer profiadau a gweddau cwrs Ultra a Gwreiddiol. Mae popeth sydd ei angen arnoch chi a'ch defnyddwyr ar gyfer unrhyw fersiwn o Learn yn y lleoliad hwn. Dyma'r unig help Learn ar y safle newydd. Nid yw dogfennaeth help hŷn Learn 9.1 ar gael bellach.

I ddiweddaru dolenni, bydd angen i chi ddiweddaru unrhyw "hen" ddolenni i ddefnyddio'r gangen fwyaf newydd o Help Learn.

Esiampl o URL "hŷn" sy'n ailgyfeirio at brif dudalen lanio Learn ar help.blackboard.com/Learn:

  • https://en-us.help.blackboard.com/Learn/9.1_Older_Versions/9.1_2014_and_2015

Esiampl o URL "hŷn" sy'n ailgyfeirio at brif dudalen lanio Learn i fyfyrwyr ar help.blackboard.com/Learn/Student:

  • https://en-us.help.blackboard.com//Learn/9.1_Older_Versions/9.1_SP_14/Student/015_Browser_Support

Rhaid i chi ddiweddaru'r dolenni hyn er mwyn defnyddio'r URL ar gyfer y dudalen gywir yn help.blackboard.com/Learn.

Sut ydw i'n dod o hyd i ddolenni help newydd Learn?

Rydym wedi creu rhestr o'r URLs diweddaraf ar gyfer y 30 pwnc help Learn a Collaborate yr ymwelir â hwy fwyaf ar gyfer hyfforddwyr a myfyrwyr. Gall hyn eich helpu i ddiweddaru'ch dolenni os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.

Prif Bynciau ac URLs
Nodwedd Pwnc/Cwestiwn URL
Aseiniadau Creu a golygu aseiniadau Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Assignments/Create_and_Edit_Assignments
  Cyhoeddi aseiniadau Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Assignments/Create_and_Edit_Assignments#create
  Cynnig ymgais arall ar aseiniad Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Assignments/Multiple_Assignment_Attempts#additional_attempts
  Cyflwyno aseiniadau Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/Assignments/Submit_Assignments
  A gafodd fy aseiniad ei gyflwyno? Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/Assignments/Assignments_FAQ#submitted
  SafeAssign Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Assignments/SafeAssign
Cyfrinair Wedi colli neu anghofio eich cyfrinair Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Getting_Started/Log_In_to_Learn#password
Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/Getting_Started/Log_in_to_Learn#password
Cyfathrebu Cysylltu â'ch hyfforddwr Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/Getting_Started/Contact_Your_Instructor
Argaeledd Cyrsiau Rhoi fy nghwrs ar gael Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/FAQ/Course_FAQs
  Gollwng neu ychwanegu cwrs Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/FAQ/Course_FAQ#drop
  Mae fy nghwrs ar goll Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/FAQ/Course_FAQ#correct
Cynnwys y cwrs Cyhoeddi cynnwys Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Course_Content/Create_Content/Create_Course_Materials/Create_Content_Items_or_Documents#item
  Ychwanegu cynnwys Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Course_Content/Create_Content/Create_Course_Materials
  Tynnu cynnwys Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Course_Content/Create_Content/Edit_and_Manage_Content#delete
  Dydw i'n methu gweld rhai darnau o gynnwys Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/FAQ/Course_FAQ#find
Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/Content/Types_of_Course_Content#see
Profion, arolygon a chasgliadau Clirio ymgais prawf Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Tests_Pools_Surveys/Resolve_Issues_With_Tests#clear
  Cyhoeddi profion Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Tests_Pools_Surveys/Create_Tests_and_Surveys#deploy
  Gosodiadau/Opsiynau profion Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Tests_Pools_Surveys/Test_and_Survey_Options
  Canlyniadau profion Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Tests_Pools_Surveys/Test_and_Survey_Results
Trafodaethau Creu trywyddion Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Interact/Discussions/Reply_to_Discussion_Posts
Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/Interact/Discussions/Reply_to_Discussion_Posts
  Opsiynau trafodaethau Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Interact/Discussions/Create_Forums
  Cyhoeddi trafodaethau Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Interact/Discussions/Create_Forums#create_page
  Golygu a dileu postiadau Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Interact/Discussions/Manage_Discussions
Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/Interact/Discussions/Manage_Discussions#edit
Graddio Cyfrifo graddau Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Grade/Grading_Tasks/Calculate_Grades
  Colofnau graddau Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Grade/Grade_Columns
  Llywio graddau Hyfforddwr: https://help.blackboard.com/Learn/Instructor/Grade/Navigate_Grading
  Ble mae fy ngraddau? Myfyriwr: https://help.blackboard.com/Learn/Student/Grades
Blackboard Collaborate Cefnogi porwyr Cymedrolwr: https://help.blackboard.com/Collaborate/Ultra/Moderator/Support
Cyfranogwr: https://help.blackboard.com/Collaborate/Ultra/Participant/Support
  Cysylltu â Chefnogaeth Dechnegol Blackboard Collaborate Cymedrolwr: https://help.blackboard.com/Collaborate/Ultra/Moderator/Support/Report_An_Issue
Cyfranogwr: https://help.blackboard.com/Collaborate/Ultra/Participant/Support/Report_An_Issue
  Lawrlwytho'r lansiwr Cymedrolwr: https://help.blackboard.com/Collaborate/v12/Moderator/Join_a_Session/Blackboard_Learn/The_Blackboard_Collaborate_Launcher
Cyfranogwr: https://help.blackboard.com/Collaborate/v12/Participant/Join_a_Session/The_Blackboard_Collaborate_Launcher

Cwestiynau?

Cyflwynwch eich cwestiynau ar ein tudalen Cysylltu â ni.