Gwelwch sut mae cynnwys eich gwefan yn perfformio yn ôl parth. Mae’r tabl hwn yn nodi pob un parth sydd â phroblem o ran ei hygyrchedd.
Os byddwch yn defnyddio Ally ar gyfer Rheolwr Cymuned y We, bydd Ally yn dangos gwybodaeth yn ôl adrannau yn hytrach na pharthau. I ddysgu rhagor, trowch at Adroddiad hygyrchedd yn Ally ar gyfer Rheolwr Cymuned y We.
Ar gyfer pob parth, byddwch yn gweld yr enw, nifer yr eitemau yn y parth gyda phroblem, yr URL sylfaenol a'r sgôr hygyrchedd ar gyfer y parth.
Mae modd canfod parth penodol, allgludo adroddiad y parth neu ddewis parth arall i dderbyn rhagor o wybodaeth yn ei gylch.
Adroddiad parth unigol
O adroddiad unigol y parth, gallwch weld holl ffeiliau'r parth, yr holl dudalennau gwe, y sgôr hygyrchedd gyffredinol, a'r problemau hygyrchedd yn y parth.
Cliciwch ar Allgludo’r parth i lawrlwytho adroddiad unigol y parth. Dewiswch eitem i weld y dudalen gwe neu ffeil. Cliciwch Mynd i’r parth i ymweld â’r parth.
Cyfanswm ffeiliau, tudalennau, a sgôr hygyrchedd y wefan.
Yn yr adroddiad Cyfanswm y ffeiliau , mae lliwiau'n cynrychioli'r gwahanol fathau o gynnwys. Pwyntiwch at fath o gynnwys i weld y cyfanswm a grëwyd a sgôr hygyrchedd ar gyfer y math hwnnw.
Mae defnyddwyr darllenydd sgrin yn gallu pwyso Tab i symud trwy'r tabl Cyfanswm y ffeiliau cudd.
Gallwch weld sawl tudalen sydd wedi cael eu creu yn y parth yn adroddiad Cyfanswm y tudalennau .
Gallwch dderbyn gwybodaeth ar lwyddiant eich gwefan yn adroddiad Cyfanswm y sgôr hygyrchedd Po uchaf y sgôr y gorau mae eich cynnwys yn perfformio.
Problemau hygyrchedd
Gweld rhestr o’r problemau hygyrchedd a ganfuwyd yn y parth. Caiff y problemau eu rhestru yn ôl amlder. Y sawl ar dop y rhestr yw'r rhai mwyaf cyffredin. Dewiswch Difrifol, Mawr, neu Bach i hidlo'r problemau yn ôl difrifoldeb. Dylid mynd i'r afael â phroblemau difrifol yn gyntaf.
Ar gipolwg gallwch chi benderfynu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer pob problem.
- Math o Gynnwys
- Problem hygyrchedd
- Difrifoldeb
- Cyfanswm yr eitemau sydd â’r un broblem.
Dewiswch broblem i weld disgrifiad llawn o’r broblem a’r eitemau sy’n cael eu heffeithio ganddi. Gweld pob un eitem a’i sgôr hygyrchedd.
Cliciwch ar Dychwelyd i’r broblem i ddychwelyd i adroddiad y parth. Cliciwch ar eitem i weld y ffeil sy’n gysylltiedig ag ef. Cliciwch Mynd i’r parth i ymweld â’r parth.
Gwella hygyrchedd eitem
Ewch i’r adroddiad hygyrchedd. O dabl Problemau hygyrchedd, dewch o hyd i eitem benodol o gynnwys mewn parth sydd â phroblem hygyrchedd. Dewiswch ddangosydd sgôr hygyrchedd yr eitem o gynnwys i agor y panel adborth.