Ymlusgwr Ally ar gyfer Gwefannau
Mae ymlusgwr Ally ar gyfer Gwefannau yn cynnwys mynegiadau Disallow mewn ffeil robots.txt gwefan. Mae’r mynegiadau hyn yn helpu i atal yr ymlusgwr rhag methu â gadael dolennau diddiwedd ar fathau penodol o gynnwys megis tudalennau chwilio, rhaglenni calendr ac ati.
Mae ymlusgwr Ally ar gyfer Gwefannau yn cadw at Safon eithrio robotiaid. Asiant y defnyddiwr penodol mae Ally yn ei ddefnyddio yw: blackboardally
Analluogi fformatau amgen
Gallwch analluogi fformatau amgen ar gyfer eitemau unigol o gynnwys, os ydych eisiau gwneud hynny. Ychwanegwch y briodoledd data-ally-af-disabled at y ffeiliau cysylltiedig yn eich HTML. Mae’r briodoledd hon yn atal y ffeil rhag ymddangos yn y panel Fformatau amgen.
Er enghraifft, os ydych yn ei hychwanegu at ffeil gysylltiedig, ni fydd y ffeil gysylltiedig hon yn ymddangos yn y rhestr: <a data-ally-af-disabled href:"https://filename.pdf">PDF file</a>.
Tynnwch y briodoledd ar unrhyw adeg, os ydych eisiau i’r eitem o gynnwys ymddangos yn y panel Fformatau amgen.
Enghraifft:
<!doctype html>
<html lang="en">
<head></head>
<body>
<p><a href="/example1.pdf">This link will show up</a></p>
<p><a data-ally-af-disabled href="/example2.pdf">This link will not show up</a></p>
</body>
</html>
Eithrio rhannau o dudalen we
Gallwch eithrio rhannau penodol o dudalen we o gynnwys y fformat amgen. Ychwanegwch y briodoledd data-ally-exclude at yr elfen cynnwys yn eich HTML. Mae’r briodoledd hon yn atal y cynnwys rhag ymddangos yn y fformat amgen penodol.
Er enghraifft, os ydych yn ychwanegu'r briodoledd at ddelwedd ar y dudalen, ni fydd y ddelwedd hon yn ymddangos yn fformat amgen BeeLine Reader pan fyddwch yn ei hagor.
Os oes elfen <main> ar y wefan, dim ond y peth sydd o fewn y brif elfen honno yn ymddangos yng nghynnwys y fformat amgen. Eithrir unrhyw beth sydd y tu allan i'r brif elfen yn awtomatig. Gallwch barhau i ddefnyddio'r briodoledd data-ally-exclude i eithrio elfennau o fewn y brif elfen honno.
Enghraifft:
<!doctype html>
<html lang="en">
<head></head>
<body>
<p>This will show up</p>
<p data-ally-exclude>This will not show up</p>
</body>
</html>
Ffurfweddu eicon lawrlwytho fformatau amgen
Penderfynwch sut rydych eisiau i eicon lawrlwytho'r fformatau amgen edrych. Dewiswch un o'r opsiynau hyn:
- Eicon bach ar ochr chwith y dudalen: data-ally-af-style="flag_small"
- Eicon mawr ar ochr chwith y dudalen: data-ally-af-style="flag_large"
- Bar ar waelod y dudalen: data-ally-af-style="bar_bottom"
Defnyddiwch y sgript hon i addasu golwg a naws yr eicon.
<!--
Sgript Integreiddiad Gwefan Ally.
Gall "data-ally-af-style" fod yn un o’r gwerthoedd canlynol i addasu golwg a naws yr eicon:
- flag_small
- flag_large
- bar_bottom
-->
<script
data-ally-loader
data-ally-platform-name="web"
data-ally-client-id="8366"
data-ally-af-style="flag_small"
src="https://prod.ally.ac/integration/api/ally.ui.js">
</script>
Ffurfweddu adborth i olygyddion cynnwys
Ffurfweddwch eich safle i weld ble yn union mae’ch problemau hygyrchedd. Ar ôl ffurfweddu’r tudalennau ar eich safle, ewch i’r adroddiad hygyrchedd a dewch o hyd i barth sydd â phroblem. Dewiswch y dangosydd sgôr ar yr eitem sydd â'r broblem hygyrchedd i agor panel adborth i olygyddion cynnwys. Gallwch weld y problemau a amlygir ar eich tudalen yn ffenestr y rhagolwg.
Mae angen i dudalennau ar eich safle gynnwys y gosodiadau hyn, os ydych eisiau i gynnwys y dudalen ymddangos yn ffenestr y rhagolwg.
- Cefnogi HTTPS
- Ychwanegu’r sgript AllyJS
Bydd angen cael y sgript hon ar gyfer fformatau amgen hefyd. Os ydych eisiau gweld y problemau a amlygir yn ffenestr y rhagolwg, ond nid ydych eisiau ychwanegu’r fformatau amgen at eich safle, defnyddiwch y briodwedd data-ally-af-style=none.
- Caniatáu i’r dudalen gael ei phlannu mewn iframe gan y parth Ally
- Caniatáu sgriptiau, arddulliau, delweddau ac iframes is a letyir gan y parth Ally
Caniatáu i Ally blannu eich tudalennau mewn iframe
Os ydych eisiau manteisio’n llawn ar banel adborth i olygyddion cynnwys, fel partner cymeradwy, mae angen rhoi caniatâd i Ally blannu’ch cynnwys mewn iframe. Mae'r caniatâd hwn yn caniatáu i Ally ddangos eich cynnwys yn ffenestr rhagolwg panel adborth i olygyddion cynnwys. Mae ond modd cyrchu'r panel o’ch Adroddiad hygyrchedd.
Os ydych yn cyfyngu’ch tudalen we rhag cael ei phlannu yn iframes (er enghraifft, â’r penawdau X-Frame-Options neu Content-Security-Policy), bydd angen i chi ychwanegu neu newid eich pennawd Content-Security-Policy i ychwanegu https://*.ally.ac at y gyfarwyddeb frame-ancestors.
Enghreifftiau
Ffurfweddiad presennol | Ychwanegu neu ddiweddaru’r gyfarwyddeb frame-ancestors |
---|---|
Pennawd X-Frame-Options gyda’r gwerth DENY | Content-Security-Policy: frame-ancestors https://*.ally.ac; |
Pennawd X-Frame-Options gyda’r gwerth SAMEORIGIN | Content-Security-Policy: frame-ancestors 'self' https://*.ally.ac; |
Content-Security-Policy gyda chyfarwyddeb frame-ancestors o 'none' | Content-Security-Policy: frame-ancestors https://*.ally.ac; |
Content-Security-Policy gyda chyfarwyddeb frame-ancestors gyda rhestr parthau | Content-Security-Policy: frame-ancestors 'self' https://*.anothersite.com https://*.ally.ac; |
Creu defnyddwyr grŵp parth
Mae gan ddefnyddwyr grŵp parth ganiatâd i weld yr adroddiad hygyrchedd ar gyfer y parthau sydd wedi’u neilltuo iddynt. I greu defnyddwyr grŵp parth a grwpiau o barthau, mae angen i uwch weinyddwyr Ally ar gyfer y We fewngofnodi i ddangosfwrdd ffurfweddu Ally ar gyfer y We.
Darparwyd y ddolen i'r dangosfwrdd yn ystod y broses gweithredu. Bydd yn edrych fel /launchclientconfig/yourclientID. Defnyddiwch eich manylion adnabod gweinyddwr presennol i fewngofnodi.
O ddangosfwrdd ffurfweddu Ally ar gyfer y We, gall yr uwch weinyddwr gwreiddiol ffurfweddu grwpiau o barthau ac ychwanegu defnyddwyr newydd cyn neilltuo grwpiau penodol o barthau i'r grwpiau hynny.
Fel gweinyddwr, gallwch roi mynediad at bopeth, gan gynnwys y gallu i ffurfweddu, i ddefnyddwyr newydd. Neu gallwch roi mynediad rhannol at grwpiau penodol o barthau. Gellir ychwanegu mwy nag un grŵp parthau at fynediad defnyddwyr.
Os yw’r uwch weinyddwr yn neilltuo sawl parth, bydd y defnyddiwr yn dewis pa adroddiad grŵp parthau mae eisiau ei weld wrth fewngofnodi. Os mai dim ond un grŵp parthau sydd wedi’i neilltuo, bydd y defnyddiwr yn mynd yn uniongyrchol i'r adroddiad ar gyfer y grŵp hwnnw.
Ar ôl creu defnyddwyr a’i neilltuo i grwpiau parth, bydd angen i chi roi gwybod i’r defnyddiwr bod ganddynt gyfrif.
Gallwch ddefnyddio ein templed e-bost i roi gwybod i ddefnyddwyr bod ganddynt gyfrifon.
Templed e-bost defnyddiwr newydd
Helo [name],
Crëwyd cyfrif Ally i chi â’ch cyfeiriad e-bost: [[email protected]]
Gan ddefnyddio'r cyfrif hwn, bydd modd i chi gael mynediad at [Ally for Web - Reporting] / [Ally for LMS - Config]/...
Cyn bydd modd i chi gael mynediad at y wefan, bydd angen i chi gysylltu’r cyfeiriad e-bost hwn â chyfrif GoogleTM. Mae angen cael cyfrif Google er mwyn mewngofnodi. Dim ond uwch weinyddwyr neu weinyddwyr craidd sy’n gallu defnyddio’r opsiwn mewngofnodi i Uwch Weinyddwyr ar y dudalen.
Os yw’ch cyfeiriad e-bost eisoes wedi’i gysylltu, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os nad yw’ch cyfeiriad wedi’i gysylltu, dilynwch y camau hyn.
- Ewch i Creu eich Cyfrif Google.
- Llenwch y meysydd. Defnyddiwch [[email protected]] ym maes Eich cyfeiriad e-bost.
- Ar ôl i chi lenwi’r wybodaeth, bydd Google yn anfon neges e-bost i’ch cyfeiriad e-bost i’w ddilysu. Cwblhewch y broses dilysu yn y neges e-bost i’w gysylltu â’r cyfrif Google rydych newydd ei greu.
Ar ôl cysylltu'ch cyfeiriad e-bost, gallwch ddefnyddio'r opsiwn mewngofnodi Google ar [Ally for Web - Reporting] / [Ally for LMS - Config]/... i gael mynediad at eich adroddiadau.
Ewch i gynnwys help Blackboard i olygwyr i ddysgu rhagor am yr adroddiad a sut i drwsio problemau hygyrchedd.