Mae Blackboard wedi ymrwymo i ddefnyddioldeb a hygyrchedd pob un o'n cynhyrchion a gwasanaethau. I gyd-fynd â'n traddodiad cryf o arweinyddiaeth ym maes hygyrchedd, mae ein cynhyrchion wedi'u dylunio a'u datblygu'n gyffredinol gan ystyried Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) a gydnabyddir yn rhyngwladol yn ogystal ag Adran 508 Deddf Adsefydlu 1973, fel y'i diwygiwyd. Mae Blackboard yn gwneud pob ymdrech i gwrdd â meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 Lefel AA a gydnabyddir yn fyd-eang ac yn cynnal profion hygyrchedd trydydd parti ar gyfer ei gynhyrchion i asesu a ydynt yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant.
Mae'r holl ddogfennau ar gael yn y Saesneg yn unig.
Cydymffurfiaeth hygyrchedd: Anthology Ally
Llywio Fformatau Amgen
Ar dudalen cynnwys y cwrs, ar ôl cynnwys y cwrs neu ddolen ffeil, byddwch yn gweld dolen Fformatau Amgen neu Lawrlwytho Fformatau Amgen. Pan fydd wedi'i dewis, bydd y ddolen hon ar gyfer fformatau amgen yn agor y ddeialog Lawrlwytho fformatau amgen gyda’r opsiynau hyn:
- PDF Wedi’i Dagio: Mae’n lawrlwytho i ddyfais
- HTML: Mae’n agor mewn ffenestr pori newydd
- ePub: Mae’n lawrlwytho i ddyfais
- Braille electronig: Mae’n lawrlwytho i ddyfais
- Sain: Mae’n lawrlwytho i ddyfais
- BeeLine Reader: Mae’n agor yn y ffenestr pori
- Fersiwn Cyfieithiedig: Mae’n lawrlwytho i ddyfais
Nodwedd archwilio a phrofion swyddogaethol Ally
Gweld rhestr o nodweddion a brofiwyd yn ystod ein proses archwilio.
Rhagor am y Nodwedd Archwilio Hygyrchedd Ally a’r Profion Swyddogaethol a Berfformiwyd
Llywio Ally Fel Hyfforddwr  Darllenydd Sgrin
Agor cynnwys i wella’r sgôr hygyrchedd
Ar dudalen cynnwys eich cwrs, mae gan bob delwedd a dogfen un o’r dolenni statws hyn sy’n gysylltiedig ag hi:
- Sgôr Hygyrchedd: Perffaith
- Sgôr Hygyrchedd: Uchel, Cliciwch i’w wella
- Sgôr Hygyrchedd: Canolig, Cliciwch i'w wella
- Sgôr Hygyrchedd: Isel, Cliciwch i’w wella
Llywiwch i ddolen enw’r ddelwedd neu ddogfen i ddilysu bod gennych yr eitem rydych eisiau ei hagor.
Llywiwch yn ôl i ddolen y Sgôr Hygyrchedd.
Pwyswch Enter i agor ffenestr deialog y Sgôr Hygyrchedd ar gyfer y mathau hyn o gynnwys:
Llywio i ffenestr deialog Adborth i Hyfforddwyr Delwedd
Pan fyddwch yn agor y panel Adborth i Hyfforddwyr, bydd yn ffocysu ar Sgôr Hygyrchedd y ffeil delwedd. Er enghraifft, enw_delwedd.fformat neu Helo.png.
Wrth lywio trwy’r deialog, daw'r nodweddion a swyddogaethau hyn ar gael:
- Sgôr hygyrchedd: [gwerth] %
- Er enghraifft, 20%
- Botwm Dangos pob problem, wedi’i gwympo (cyflwr diofyn)
- Disgrifiad o'r broblem
- Er enghraifft, “Mae disgrifiad y ddelwedd hon ar goll”
- Botwm Beth mae hyn yn ei olygu
- Botwm Sut i ysgrifennu disgrifiad da
- Cyfarwyddiadau am ychwanegu disgrifiad testun neu farcio fel addurniadol
- Maes golygu Nodwch ddisgrifiad ar gyfer y ddelwedd hon
- Botwm Ychwanegu
- Botwm Dynodi bod y ddelwedd yn addurniadol
- Wedi’i ddilyn gan “Defnyddir y ddelwedd hon at ddibenion addurniadol yn unig a does dim angen disgrifiad”
- Dolen Help
- Botwm Cau
Sleidiau Beth mae hyn yn ei olygu – ar gyfer Delweddau
Pan fydd y botwm Beth mae hyn yn ei olygu wedi cael ei ddewis, bydd yn ffocysu ar y pennawd Beth yw disgrifiad delwedd.
Yn y sleidiau hyn, mae gennych yr opsiwn i glywed am ddisgrifio delweddau gan ysgogi’r botymau hyn:
- Sleid 1 o 2: Beth yw disgrifiad delwedd? (sleid ddiofyn)
- Sleid 2 o 2: Pam mae disgrifio delweddau’n bwysig
- Pan ddewisir y botwm, bydd y ffocws yn parhau i fod ar y botwm, ond darllenir y testun “Yn dangos sleid: Pam mae disgrifio delweddau’n bwysig”.
Ar Sleid 2 o 2: Pam mae disgrifio delweddau’n bwysig, gallwch wneud unrhyw un o'r gweithredoedd hyn:
- Llywiwch i'r botwm Sut i ysgrifennu disgrifiad da i agor y sleidiau Sut i ysgrifennu disgrifiad da
- Llywiwch i'r botwm Cau neu defnyddiwch y fysell ESC i gau'r sleidiau
- Bydd yn ffocysu ar y Sgôr Hygyrchedd ar gyfer: Pennawd [enw_delwedd.fformat] yn y ffenestr deialog Hyfforddwr
- Dychwelyd i Sleid 1 o 2: Beth yw disgrifiad delwedd?
- Bydd y ffocws yn parhau i fod ar y botwm, ond darllenir y testun “Yn dangos sleid 1 o 2: Beth yw disgrifiad delwedd darllen”.
Sleidiau Sut i ysgrifennu disgrifiad da - ar gyfer Delweddau
Pan fydd y botwm Sut i ysgrifennu disgrifiad da wedi cael ei ddewis, bydd yn ffocysu ar bennawd Sut i ysgrifennu disgrifiad da panel y tab.
Yn y sleidiau hyn, gallwch glywed am ysgrifennu disgrifiadau da gan ysgogi'r botymau hyn:
- Sleid 1 o 5: Darparwch ddewis amgen ar ffurf testun (sleid ddiofyn)
- Sleid 2 o 5: Darparwch ddisgrifiad ystyrlon
- Sleid 3 o 5: Cadwch hi’n gryno ac yn berthnasol i'r cyd-destun
- Sleid 4 o 5: Darparwch grynodeb ar gyfer siartiau, graffiau a mapiau cymhleth
- Sleid 5 o 5: Delweddau addurniadol
Pan fyddwch yn llywio i sleid newydd, byddwch yn clywed “Yn dangos sleid:” wedi’i ddilyn gan deitl y sleid. Er enghraifft, “Yn dangos sleid 2 o 5: Darparwch ddisgrifiad ystyrlon.”
Ar Sleid 5 o 5: Delweddau addurniadol, gallwch wneud un o’r gweithredoedd hyn wedyn:
- Llywiwch i’r botwm Dynodi bod y ddelwedd yn addurniadol
- Llywiwch i'r botwm Cau i gau'r sleidiau
- Bydd yn ffocysu wedyn ar y Sgôr Hygyrchedd ar gyfer: Pennawd [enw_delwedd.fformat] yn y ffenestr deialog Hyfforddwr
- Dychwelyd i Sleid 1 o 5: Darparwr ddewis amgen ar ffurf testun
- Bydd y ffocws yn parhau i fod ar y botwm, ond darllenir y testun “Yn dangos sleid 1 o 5: Darparwch ddewis amgen ar ffurf testun”.
- Dychwelyd i Sleid 4 o 5: Darparwch grynodeb ar gyfer siartiau, graffiau a mapiau cymhleth
- Bydd y ffocws yn parhau i fod ar y botwm, ond darllenir y testun “Yn dangos sleid 4 o 5: Darparwch grynodeb ar gyfer siartiau, graffiau a mapiau cymhleth”.
Dynodi bod y ddelwedd yn addurniadol
Mae ysgogi’r botwm Dynodi bod y ddelwedd yn addurniadol yn dychwelyd y ffocws i'r Sgôr Hygyrchedd ar gyfer: Pennawd [enw delwedd.fformat]
Llywiwch i'r deialog i glywed y canlynol:
- Sgôr hygyrchedd: 100 %
- Marciwyd fel addurniadol
- Botwm Dadosod y faner addurniadol
- Pennawd Perffaith
- Disgrifiad testun “Rydych wedi llwyddo marcio'r ddelwedd hon fel un addurniadol”
- Botwm Cau
Dadosod y faner addurniadol
Os ydych yn gosod y ddelwedd fel un addurniadol yn anfwriadol neu wedi penderfynu bod angen iddi gynnwys testun amgen, gallwch ei hailosod gan ysgogi’r botwm Dadosod y faner addurniadol. Bydd yn ffocysu wedyn ar y botwm Sut i ysgrifennu disgrifiad da a newidir y Sgôr Hygyrchedd yn ôl i’w gwerth gwreiddiol.
Help
Bydd yn ffocysu ar y botwm Cau pan fydd y ddolen Help wedi cael ei dewis. Gall eich gweinyddwr newid yr hyn sy’n ymddangos yn y cynnwys Help.
Wrth lywio cynnwys Help diofyn Ally, byddwch yn clywed y nodweddion a swyddogaethau hyn:
- Pennawd Help
- Pennawd Pori dogfennaeth
- Dolen Pori’r help
- Bydd yn agor Help Ally ar gyfer LMS Cymorth i Hyfforddwyr mewn tab porwr newydd
- Pennawd Gofyn am gymorth
- Maes golygu Disgrifiwch eich cwestiwn neu broblem
- Botwm Yn ôl
- Bydd yn ffocysu ar y Sgôr Hygyrchedd ar gyfer: Pennawd [enw_delwedd.fformat] yn y ffenestr deialog Hyfforddwr pan fydd yn cael ei ddewis
- Botwm Anfon
Anfon cais am gymorth
- Disgrifiwch eich cwestiwn neu broblem yn y maes golygu
- Llywiwch i’r botwm Anfon
- Defnyddiwch y bylchwr i ddewis y botwm Anfon
- Bydd neges â’r testun “Anfonwyd yn llwyddiannus” ar gael
- Dewiswch y botwm Yn ôl i fynd yn ôl i ddeialog Adborth i Hyfforddwyr neu'r botwm Cau
Llywio ffenestr deialog Adborth i Hyfforddwyr PDF, Word, neu PowerPoint
Pan fyddwch yn agor y panel Adborth i Hyfforddwyr, bydd yn ffocysu ar Sgôr Hygyrchedd y ffeil. Er enghraifft, enw_ffeil.fformat neu Helo.docx.
Wrth lywio trwy ddeialogau, daw'r nodweddion a swyddogaethau hyn ar gael:
- Sgôr hygyrchedd: [gwerth] %
Er enghraifft, 20%
- Disgrifiad o'r broblem
Er enghraifft, “Mae disgrifiad y ddelwedd hon ar goll”
- Botwm Dangos pob problem, wedi’i gwympo (cyflwr diofyn, ar gael yn amodol)
- Botwm Beth mae hyn yn ei olygu
- Sut i [drwsio problem]
Er enghraifft, Sut i drwsio cyferbyniad
- Uwchlwytho fersiwn gyda [phroblem a drwsiwyd]
Er enghraifft, Uwchlwytho fersiwn gyda chyferbyniad digonol disgrifiad testun
- Gollyngwch y ffeil i’w huwchlwytho neu’r
- Botwm Pori
- Botwm Cau
- I gyrchu swyddogaethau’r ddogfen yn y ffordd fwyaf hwylus, bydd angen i chi Dabio i ffocysu ar faes golygu’r dudalen bresennol. Tabiwch eto i lywio i'r botwm Tudalen nesaf. Peidiwch â defnyddio'r fysell Esc oherwydd bydd hyn yn cau’r ffenestr deialog. Ar ôl i’r ffocws fod ar y botwm Tudalen nesaf, llywiwch fel y byddech yn arferol.
- Botwm Tudalen flaenorol (analluogwyd yn ddiofyn)
- Tudalen 1 o [#]
Er enghraifft, Tudalen 1 o 17 (diofyn)
- Botwm Tudalen nesaf
- [#] [math o broblem]
Er enghraifft, 17 o Ddarnau o destun â chyferbyniad annigonol (ar gael yn amodol)
- Botwm Amlygiad blaenorol (analluogwyd yn ddiofyn, ar gael yn amodol)
- Botwm Amlygiad nesaf (ar gael yn amodol)
- Yn dangos amlygiad 1 o [#] ar dudalen [#]
Er enghraifft, Yn dangos amlygiad 1 o 17 ar dudalen 1 (ar gael yn amodol)
- Botwm toglo Cuddio’r amlygiadau (diofyn, ar gael yn amodol)
- Botwm Pellhau
- Botwm Nesáu
- Dolen Lawrlwytho'r ffeil wreiddiol
- Wrth barhau i lywio, bydd modd i chi glywed cynnwys y ddogfen.
Sleidiau Beth mae hyn yn ei olygu – ar gyfer PDF, Word a PowerPoint
Mae gan bob esboniad bynciau sleidiau unigryw. Yn gyffredinol, bydd llywio'r sleidiau hyn fel y canlyn:
- Pennawd [pwnc]
- Cynnwys [pwnc]
- Dangos sleid 2 o 2: Botwm [pwnc y sleid]
Er enghraifft, Dangos sleid 2 o 2: Pam defnyddio penawdau?
- Dangos sleid 2 o 2: Botwm [pwnc y sleid]
Er enghraifft, Dangos sleid 2 o 2: Pam defnyddio penawdau?
- Mae gan y mwyafrif o sleidiau Beth mae hyn yn ei olygu 2 sleid, felly mae’r hyn sy’n ymddangos yn weledol fel botymau blaenorol a nesaf yn mynd i'r un sleid yn wirioneddol. Dyna pam darllenir enw'r botwm dwywaith.
- Pan fyddwch yn llywio i’r ail sleid, bydd y ffocws yn symud i’r Dangos sleid 1 o 2: [pwnc y sleid]
Er enghraifft, Dangos sleid 1 o 2: Nid yw pennawd yn bennawd bob tro.
- Y ffordd fwyaf effeithiol i ffocysu ar y sleid fydd defnyddio bysell hwylus eich pennawd. Llywiwch fel y byddech yn arferol o yno i glywed cynnwys y sleid.
- Ar yr ail sleid, gallwch wedyn wneud un o'r gweithredoedd canlynol:
- Cau'r sleidiau gan lywio i’r botwm Cau neu ddefnyddio'r fysell Esc
- Bydd yn ffocysu wedyn ar y Sgôr Hygyrchedd ar gyfer: Pennawd[enw_delwedd.fformat] yn y ffenestr deialog Hyfforddwr
- Dychwelyd i Sleid 1 o 2: [pwnc y sleid]
- Bydd y ffocws yn parhau i fod ar y botwm ond darllenir darllen “Dangos sleid 2 o 2: Botwm [pwnc y sleid]”
Er enghraifft, Dangos sleid 2 o 2: Pam defnyddio penawdau?
- Bydd y ffocws yn parhau i fod ar y botwm ond darllenir darllen “Dangos sleid 2 o 2: Botwm [pwnc y sleid]”
- Cau'r sleidiau gan lywio i’r botwm Cau neu ddefnyddio'r fysell Esc
Sleidiau Sut i [drwsio’r broblem] – ar gyfer PDF
Bydd gan bob argymhelliad bynciau sleid unigryw ei hun a nifer o sleidiau unigryw, heblaw ffeiliau PDF wedi'u sganio. Yn gyffredinol, bydd llywio'r sleidiau hyn fel y canlyn:
- Sut i [drwsio problem]
- Pennawd Cam 1: Dod o hyd i'r ddogfen wreiddiol
- Testun “A ydych chi'n gallu cael gafael ar fersiwn gwreiddiol neu seiliedig ar destun o'r ffeil hon?”
- Botwm Na
- Botwm Ie
- Disgrifiad testun ar y ffordd orau i drwsio'r broblem
- Dolen Help
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
Dim dogfen wreiddiol – PDF
Pan ddewisir y botwm Na ar sleid Cam 1: Dod o hyd i'r ddogfen wreiddiol, rhoddir y wybodaeth hon i chi:
- Pennawd Mae'r ddogfen hon angen rhagor o sylw
- Testun “Bydd fformatau amgen ar gael i fyfyrwyr ar gyfer y ddogfen hon. Fodd bynnag, gall y dull hwn fod yn anfanwl iawn a ni ddylid meddwl amdano fel datrysiad terfynol.”
- Pennawd Pori dogfennaeth
- Dolen Pori’r help
- Bydd yn agor Help Ally ar gyfer LMS Cymorth i Hyfforddwyr mewn tab porwr newydd
- Pennawd Gofyn am gymorth
- Maes golygu Disgrifiwch eich cwestiwn neu broblem
- Botwm Yn ôl
- Bydd yn ffocysu ar Sgôr hygyrchedd ar gyfer pennawd y ffeil yn y ffenestr deialog Hyfforddwr pan fydd wedi’i dewis.
Er enghraifft, [enw_delwedd.fformat] neu Helo.pdf.
- Botwm Anfon
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
Ie, dogfen wreiddiol – PDF
Pan ddewisir Ie ar sleid Cam 1: Dod o hyd i'r ddogfen wreiddiol, rhoddir y wybodaeth hon i chi:
- Pennawd Sut i [drwsio problem]
Er enghraifft, Sut i ychwanegu disgrifiad at ddelweddau mewn PDF
- Cam 2: Agor y ddogfen wreiddiol
- Rhestr o hoff feddalwedd:
- Dolen Word ar gyfer Microsoft Office 365
- Dolen Word ar gyfer Microsoft Office 2016
- Dolen PowerPoint ar gyfer Microsoft Office 365
- Dolen PowerPoint ar gyfer Microsoft Office 2016
- Dolen Writer ar gyfer LibreOffice 5.2
- Dolen Impress ar gyfer LibreOffice 5.2
- Pan fydd wedi’u hagor, mae sleidiau’r mathau hyn o feddalwedd yn dilyn patrwm tebyg:
- Pennawd Cam 3: [Trwsio] gan ddefnyddio [meddalwedd]
Er enghraifft, Cam 3: Ychwanegu disgrifiad delwedd gan ddefnyddio LibreOffice Impress 5.2
- Rhestr camau
- Botwm gydag awgrymiadau ychwanegol
Er enghraifft, Awgrymiadau ar gyfer creu tablau
- Mae’r botymau hyn yn agor sleidiau sy’n dilyn camau sy’n debyg i’r sleidiau Sut i ysgrifennu disgrifiad - ar gyfer Delweddau
- Dolen Argraffu'r cyfarwyddiadau
- Botwm Nesaf
- Botwm Yn ôl
- Dolen Help
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
- Pennawd Cam 3: [Trwsio] gan ddefnyddio [meddalwedd]
- Trwy ysgogi'r botwm Nesaf ar gyfer math o feddalwedd yng Ngham 3, bydd gennych yr ymadrodd canlynol yng ngham 4 ar sail y feddalwedd a ddewiswyd:
- Cam 4: Cadw fel PDF wedi’i dagio gan ddefnyddio [meddalwedd]
- Microsoft Word 365, Microsoft Word 2016, a LibreOffice Writer 5.2
- Cam 4: Uwchlwytho'r ddogfen wreiddiol
- Microsoft PowerPoint 365, Microsoft PowerPoint 2016, a LibreOffice Impress 5.2
- Cam 4: Cadw fel PDF wedi’i dagio gan ddefnyddio [meddalwedd]
Cam 4: Cadw fel PDF wedi'i dagio
Bydd dewis y botwm Nesaf o Gam 3 yn mynd â chi i sleid sy’n cynnwys y canlynol:
- Cam 4: Cadw fel PDF wedi’i dagio gan ddefnyddio [meddalwedd]
Er enghraifft, PowerPoint Microsoft Office 2016
- Rhestr camau
- Dolen Argraffu'r cyfarwyddiadau
- Botwm Nesaf
- Botwm Yn ôl
- Botwm Uwchlwytho dogfen wreiddiol
- Dolen Help
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
Cam 4: Uwchlwytho'r ddogfen wreiddiol
Bydd dewis y botwm Nesaf o Gam 3 ar gyfer Microsoft PowerPoint 365, Microsoft PowerPoint 2016, neu LibreOffice Impress 5.2, neu’r Uwchlwytho dogfen wreiddiol o’r Cam 4: Cadw fel PDF wedi'i dagio yn mynd â chi i sleid sy’n cynnwys y canlynol:
- Pennawd Cam 4 neu 5: Uwchlwytho'r ddogfen wreiddiol
- Disgrifiad testun sy’n esbonio pam mae angen i chi uwchlwytho'r ddogfen wreiddiol
- Gollyngwch y ffeil i’w huwchlwytho neu’r
- Botwm Pori
- Testun “Bydd y fersiwn hwn yn disodli’r ddogfen PDF wreiddiol.”
- Botwm Yn ôl
- Dolen Help
Sut i drwsio PDF wedi’i sganio
Ar y sleid Sut i drwsio PDF wedi’i sganio, bydd y canlynol ar gael:
- Pennawd Sut i drwsio PDF wedi’i sganio
- Pennawd Cam 1: Dod o hyd i'r ddogfen wreiddiol
- Testun “A ydych chi'n gallu cael gafael ar fersiwn gwreiddiol neu seiliedig ar destun o'r ffeil hon?”
- Botwm Na
- Botwm Ie
- Testun “Mae fersiwn electronig, sy'n seiliedig ar destun, megis ffeil PDF, Word neu PowerPoint, yn llawer mwy hygyrch a hawdd ei defnyddio na PDF wedi'i sganio.”
- Dolen Help
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
Dim dogfen wreiddiol – PDF wedi’i sganio
Pan ddewisir y botwm Na, bydd sleid newydd yn agor gyda’r canlynol:
- Pennawd Sut i drwsio PDF wedi’i sganio
- Pennawd Neu darparwch gyfeirnod
- Botwm Na
- Botwm Ie
- Botwm Yn ôl
- Dolen Help
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
Nid oes modd canfod y ddogfen yn y llyfrgell
Pan ddewisir y botwm Na ar y sleid Neu darparwch gyfeirnod, rhoddir y wybodaeth ganlynol i chi:
- Pennawd Mae'r ddogfen hon angen rhagor o sylw
- Testun “Bydd fersiwn OCR ar gael i fyfyrwyr o dan yr opsiwn “Fformatau Amgen”. Defnyddir OCR (Adnabod Nodau Gweledol) i echdynnu testun o ddelweddau. Fodd bynnag, gall y dull hwn fod yn anfanwl iawn a ni ddylid meddwl amdano fel datrysiad terfynol.”
- Pennawd Pori dogfennaeth
- Dolen Pori’r help
- Bydd yn agor Help Ally ar gyfer LMS Cymorth i Hyfforddwyr mewn tab porwr newydd
- Pennawd Gofyn am gymorth
- Maes golygu Disgrifiwch eich cwestiwn neu broblem
- Botwm Yn ôl
- Bydd yn ffocysu ar Sgôr hygyrchedd ar gyfer pennawd y ffeil yn y ffenestr deialog Hyfforddwr pan fydd wedi’i dewis.
- Botwm Anfon
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
Mae modd canfod y ddogfen yn y llyfrgell
Pan ddewisir y botwm Ie ar y sleid Neu darparwch gyfeirnod, rhoddir y wybodaeth ganlynol i chi:
- Pennawd Darparwch ddolen i'r ddogfen yn y llyfrgell
- Testun “Helpwch fyfyrwyr i ddarganfod y ddogfen yn y llyfrgell trwy ddarparu cymaint o fetaddata â phosib.”
- Maes golygu URL
- Maes golygu Teitl
- Maes golygu Pennod, cyfrol, rhif tudalen
- Maes golygu Awdur(on)
- Maes golygu Dyddiad cyhoeddi
- Maes golygu Cyhoeddwr neu ddyddlyfr
- Botwm Ychwanegu cyfeirnod
- Botwm Yn ôl
- Dolen Help
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
Ie, dogfen wreiddiol – PDF wedi’i sganio
Pan ddewisir Ie o’r sleid Cam 1: Dod o hyd i'r ddogfen wreiddiol, rhoddir y wybodaeth ganlynol i chi:
- Pennawd Sut i drwsio PDF wedi’i sganio
- Pennawd Cam 2: Uwchlwytho'r ddogfen wreiddiol
- Testun “Mae fersiwn electronig, sy'n seiliedig ar destun, megis ffeil PDF, Word neu PowerPoint, yn llawer mwy hygyrch a hawdd ei defnyddio na fersiwn wedi'i sganio.”
- Gollyngwch y ffeil i’w huwchlwytho neu’r
- Botwm Pori
- Testun “Bydd y fersiwn hwn yn disodli’r ddogfen PDF wreiddiol.”
- Botwm Yn ôl
- Dolen Help
Sleidiau Sut i [drwsio’r broblem] – ar gyfer Word a PowerPoint
Ar ôl i chi ddewis y botwm Sut i [drwsio problem] o'r deialog Adborth i Hyfforddwyr, bydd sleid sy’n cynnwys y canlynol yn agor:
- Sut i [drwsio problem]
Er enghraifft, Mae’r ddogfen hon yn cynnwys delweddau gyda disgrifiad coll
- Pennawd Cam 1: Dod o hyd i'r ddogfen wreiddiol
- Testun “Dewch o hyd i leoliad y ddogfen wreiddiol neu ei lawrlwytho. Agorwch hi gan ddefnyddio'ch hoff feddalwedd:”
- Dolen Word ar gyfer Microsoft Office 2016
- Dolen Word ar gyfer Microsoft Office 2016
- Dolen PowerPoint ar gyfer Microsoft Office 365
- Dolen PowerPoint ar gyfer Microsoft Office 2016
- Dolen Writer ar gyfer LibreOffice 5.2
- Dolen Impress ar gyfer LibreOffice 5.2
- Botwm Yn ôl
- Dolen Help
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
- Pan fydd wedi’u hagor, mae sleidiau’r mathau hyn o feddalwedd yn dilyn patrwm tebyg:
- Pennawd Cam 3: [Trwsio] gan ddefnyddio [meddalwedd]
Er enghraifft, Cam 3: Ychwanegu disgrifiad delwedd gan ddefnyddio LibreOffice Impress 5.2
- Rhestr camau
- Botwm gydag awgrymiadau ychwanegol
Er enghraifft, Awgrymiadau ar gyfer creu tablau
- Mae’r botymau hyn yn agor sleidiau sy’n dilyn camau sy’n debyg i’r sleidiau Sut i ysgrifennu disgrifiad - ar gyfer Delweddau
- Dolen Argraffu'r cyfarwyddiadau
- Botwm Nesaf
- Botwm Yn ôl
- Dolen Help
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
- Pennawd Cam 3: [Trwsio] gan ddefnyddio [meddalwedd]
- Bydd dewis y botwm Nesaf eto yn eich arwain i’r canlynol:
- Cam 3: Uwchlwytho fersiwn gyda [phroblem a drwsiwyd]
Er enghraifft, Uwchlwytho fersiwn gyda disgrifiadau delweddau
- Gollyngwch y ffeil i’w huwchlwytho neu’r
- Botwm Pori
- Testun “Bydd y fersiwn hwn yn disodli’r ddogfen wreiddiol.”
- Botwm Yn ôl
- Dolen Help
- Botwm Cau neu'r fysell Esc
- Cam 3: Uwchlwytho fersiwn gyda [phroblem a drwsiwyd]
Pob problem
Mae'r botwm Pob problem ar gael pan fydd sawl problem mewn dogfen. Pan fydd wedi’i ddewis, bydd yn ehangu i ddangos rhestr problemau gyda’r mathau canlynol o wybodaeth:
- Disgrifiad o'r broblem
- Cynyddu'r sgôr hyd at [##]%
Er enghraifft, 20%
- Botwm Trwsio neu neges Arweiniad yn dod yn fuan
- Bydd yn ffocysu eto ar bennawd y Sgôr hygyrchedd
- Dangosir y botymau Beth mae hyn yn ei olygu a Sut i [drwsio problem]
- Bydd Pob problem yn dychwelyd i’r botwm Dangos pob problem, mewn cyflwr wedi’i gwympo
Cau ffenestr deialog Adborth i Hyfforddwyr
Pan ddewisir y botwm Cau hwn, bydd yn ffocysu eto ar dudalen cynnwys y cwrs. Gallwch hefyd ddefnyddio'r fysell Esc. Deialog Cau GORFFEN