Mae rhestr wirio hygyrchedd Ally yn seiliedig ar WCAG 2.2 AA (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We). Mae hon yn safon hygyrchedd ryngwladol, ac mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth a'r gofynion cyfreithiol newydd ledled y byd yn cyd-fynd â'r safon hon.
Yn ogystal, mae Ally hefyd yn ychwanegu nifer o wiriadau ychwanegol ar ben hyn sy'n dechrau targedu defnyddioldeb ac ansawdd y cynnwys ychydig yn fwy.
Pa gynnwys mae Ally yn ei wirio?
Mae Ally yn gwirio’r mathau hyn o gynnwys ar hyn o bryd:
- Tudalennau gwe/cynnwys HTML
- Delweddau
- Ffeiliau PDF
- Ffeiliau Microsoft® Word
- Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®
- Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
- Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
Cynnwys y golygydd cynnwys (WYSIWYG)
Ar hyn o bryd, nid yw golygyddion yn gweld sgôr hygyrchedd ar gyfer cynnwys a grëwyd yn eu golygydd cynnwys system.
Mae Ally hefyd yn gwirio cynnwys a grëwyd trwy olygydd cynnwys WYSIWYG y system am broblemau hygyrchedd. Mae'r data yn ymddangos yn adroddiad y safle ar ffurf HTML. Mae'n ymddangos yn y ffeil allgludo CSV fel application/x-page.
Rhestr Wirio Hygyrchedd Gweinyddwr Ally
Rhestr wirio HTML
- Mae rhaid i'r gwerth priodoledd bysellmynediad fod yn unigryw
- WCAG 2.2 - 2.1.1 Bysellfwrdd
- Mae rhaid bod gan elfennau <area> gweithredol destun amgen
- WCAG 2.2 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
- Mae rhaid i elfennau ond ddefnyddio priodoleddau ARIA a ganiateir
- WCAG 2.1 - 4.1.1 Dosrannu
- WCAG 2.2 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
- Mae rhaid darparu'r priodoleddau ARIA gofynnol
- WCAG 2.2 - 4.1.1 Dosrannu
- WCAG 2.2 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
- Mae rhaid i rai rolau ARIA gynnwys is-eitemau penodol
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Mae rhaid i rai rolau ARIA gael eu cynnwys gan eitemau gwreiddiol
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Mae rhaid i rolau ARIA a ddefnyddiwyd gydymffurfio â gwerthoedd dilys
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- WCAG 2.1 - 4.1.1 Dosrannu
- WCAG 2.2 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
- Mae rhaid i briodoleddau ARIA gydymffurfio ag enwau dilys
- WCAG 2.1 - 4.1.1 Dosrannu
- Mae rhaid i briodoleddau ARIA gydymffurfio â gwerthoedd dilys
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- WCAG 2.1 - 4.1.1 Dosrannu
- WCAG 2.2 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
- Mae elfennau <blink> wedi'u hanghymeradwyo ac mae rhaid peidio â'u defnyddio
- WCAG 2.2 - 2.2.2 Oedi, Stopio, Cuddio
- Mae rhaid bod gan fotymau destun dirnadwy
- WCAG 2.2 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
- Mae rhaid bod modd i dudalen fynd heibio i flociau cynnwys niferus
- WCAG 2.2 - 2.4.1 Mynd Heibio i Flociau
- Mae rhaid i fewnbynnau blychau ticio â'r un gwerth priodoledd enw fod yn rhan o grŵp
- Mae rhaid bod gan elfennau testun gyferbyniad lliw digonol rhyngddynt a'r cefndir
- WCAG 2.2 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
- Problem fawr
- Mae rhaid i elfennau <dl> ddim ond gynnwys grwpiau <dt> a <dd>, neu elfennau <script> neu <template> wedi'u trefnu'n gywir yn uniongyrchol (Bach)
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Mae rhaid cynnwys elfennau <dt> a <dd> mewn <dl>
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
Mae rhaid bod gan elfennau <audio> fideo YouTubeTM wedi'i blannu <track> ar gyfer capsiynau
Ni chaiff capsiynau YouTube a gynhyrchwyd yn awtomatig eu hystyried i fod yn gapsiynau dilys.
- WCAG 2.2 - 1.2.2 Capsiynau (A recordiwyd o'r blaen)
- Problem fawr
- Mae rhaid i werth priodoledd y cyfeirnod fod yn unigryw
- WCAG 2.2 - 2.4.2 Tudalen â theitl
- Dylai penawdau fod yn bresennol
- Problem fawr
- Nid yw'r strwythur penawdau'n dechrau ar un
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
- Ni ddylai penawdau fod yn wag
- WCAG 2.2 – 2.4.6 Penawdau a Labeli
- Problem fawr
- Mae rhaid bod gan fframiau briodoledd teitl unigryw
- WCAG 2.2 - 2.4.1 Mynd Heibio i Flociau
- Mae rhaid bod gan elfen <html> briodoledd iaith
- WCAG 2.2 - 3.1.1
- Nid yw'r strwythur penawdau yn briodol, dylai’r lefelau gynyddu fesul un yn unig
- Problem fach
- Mae rhaid bod gan ddelweddau ddisgrifiad testun amgen
- WCAG 2.2 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
- Problem fawr
- Ni ddylid ailadrodd testun botymau neu ddolenni yn nisgrifiad amgen y ddelwedd
- Problem fawr
- Mae rhaid bod gan fotymau delwedd destun amgen
- WCAG 2.2 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
- Problem fawr
- Mae rhaid bod gan elfennau ffurflen labeli
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- WCAG 2.2 - 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau
- Problem fawr
- Dylai elfennau ffurflen gynnwys label gweladwy
- Problem fawr
- Mae rhaid bod gan elfen <html> werth dilys ar gyfer y priodoledd iaith
- WCAG 2.2 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
- Problem fach
- Mae rhaid i dablau cynllun beidio â defnyddio elfennau tablau data
- WCAG 2.1 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasau
- Mae rhaid bod gan ddolenni destun dirnadwy
- WCAG 2.2 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
- WCAG 2.2 - 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
- Problem fach
Mae dolenni yn gweithio ac nid ydynt yn doredig
Mae’r gwiriad hwn ar gyfer Ally ar gyfer Gwefannau a Web Community Manager (WCM) yn unig ar hyn o bryd.
- Mae rhaid i <ul> a <ol> ddim ond gynnwys elfennau cynnwys <li> yn uniongyrchol
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Mae rhaid cynnwys elfennau <li> mewn <ul> neu <ol>
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Mae elfennau <marquee> wedi'u hanghymeradwyo ac mae rhaid peidio â'u defnyddio
- WCAG 2.2 - 2.2.2 Oedi, Stopio, Cuddio
- Mae rhaid i adnewyddu amseredig beidio â bodoli
- WCAG 2.2 - 2.2.1 Amseru Addasadwy
- WCAG 2.2 - 2.2.4 Ymyriadau
- WCAG 2.2 - 3.2.5 Newid ar Gais
- Mae rhaid peidio ag analluogi chwyddo a graddio (2x)
- WCAG 2.2 - 1.4.4 Ailfeintio testun
- Dylai chwyddo a graddio ganiatáu graddfa uchaf o 5
- Mae rhaid bod gan elfennau <object> destun amgen
- WCAG 2.2 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
- Mae rhaid i fewnbynnau radio â'r un gwerth priodoledd enw fod yn rhan o grŵp
- Dylai cynnwys gael ei gynnwys mewn ardal arwyddnod
- Dylid defnyddio priodoledd cwmpas yn gywir ar dablau
- Mae rhaid peidio â defnyddio mapiau delweddau ochr y gweinydd
- WCAG 2.2 - 2.1.1 Bysellfwrdd
- Dylai dolen gyntaf y dudalen fod yn ddolen neidio
- Ni ddylai fod gan elfennau tabindex sy'n uwch na sero
- Ni ddylai'r elfen <caption> gynnwys yr un testun â'r priodoledd crynodeb
- Ni ddylid defnyddio celloedd data neu benawdau i gapsiynu tabl data
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
- Mae rhaid bod gan bob elfen <td> nad yw'n wag mewn tabl sy'n fwy na 3 wrth 3 bennawd tabl cysylltiedig
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
- Mae rhaid i bob cell mewn elfen <table> sy'n defnyddio'r priodoledd penawdau gyfeirio at gelloedd eraill o fewn yr un tabl hwnnw yn unig
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Mae rhaid bod gan bob elfen <th> ac elfennau gyda rôl=pennawdcolofn/pennawdrhes gelloedd data maent yn eu disgrifio
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Mae rhaid bod gan ddogfennau elfen <title> i gynorthwyo llywio
- WCAG 2.2 - 2.4.2 Tudalen â theitl
- Mae rhaid bod gan briodoledd iaith werth dilys
- WCAG 2.2 - 3.1.2 Iaith y Rhannau
- Problem fach
- Mae rhaid bod gan elfennau <video> YouTubeTM wedi'i blannu <track> ar gyfer capsiynau
- WCAG 2.2 - 1.2.2 Sain yn unig a Fideo yn unig (A recordiwyd ymlaen llaw)
- WCAG 2.2 - 1.2.3 Sain Ddisgrifiad neu Ddewis Cyfrwng Arall (A recordiwyd ymlaen llaw)
- Problem fawr
- Mae rhaid bod gan elfennau <video> drac disgrifiad sain
- WCAG 2.2 - 1.2.5 Disgrifiad Sain (A recordiwyd ymlaen llaw)
- Problem fawr
Rhestr wirio delweddau
Mae hyn yn cynnwys ffeiliau JPG, JPEG, GIF, PNG, BPM, a TIFF.
- Gall y ddelwedd beri trawiadau
- WCAG 2.2 - 2.3 Trawiadau
- Problem ddifrifol
- Nid oes gan y ddelwedd ddisgrifiad amgen
- WCAG 2.2 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
- Problem fawr
- Mae gan y ddelwedd destun nad yw'n rhan o ddisgrifiad amgen
- WCAG 2.2 - 1.4.5 Delweddau testun
- Problem fach
- Mae gan y ddelwedd broblemau cyferbyniad
- WCAG 2.2 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
- WCAG 2.2 - 1.4.6 Cyferbyniad (Gwell)
- Problem fawr
Rhestr wirio PDF
- Mae'r PDF wedi'i gam-ffurfio
- Problem ddifrifol
- Mae'r PDF wedi'i amgryptio
- Problem ddifrifol
- Mae'r PDF wedi'i sganio
- WCAG 2.2 - 1.4.5 Delweddau testun
- Problem ddifrifol
- Mae'r PDF heb ei dagio
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- WCAG 2.2 - 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon
- Problem fawr
- Nid oes gan y PDF iaith wedi'i gosod
- WCAG 2.2 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
- Problem fach
- Nid oes gan y PDF yr iaith gywir wedi'i gosod
- WCAG 2.2 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
- Problem fach
- Mae gan y PDF ddelweddau heb ddisgrifiadau amgen
- WCAG 2.2 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
- Problem fawr
- Mae gan y PDF broblemau cyferbyniad
- WCAG 2.2 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
- WCAG 2.2 - 1.4.6 Cyferbyniad (Gwell)
- Problem fawr
Nid oes gan y PDF benawdau
Gorfodir y gwiriad hygyrchedd hwn ar ffeiliau PDF sydd ag isafswm o 3 tudalen yn unig ar hyn o bryd.
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
- Nid oes gan y PDF strwythur penawdau priodol
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fach
- Nid yw strwythur penawdau'r PDF yn dechrau ar un
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
- Mae strwythur penawdau'r PDF yn mynd yn uwch na chwe lefel
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fach
- Mae gan y PDF dablau sydd heb benawdau
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
- Nid oes gan y PDF deitl
- WCAG 2.2 – 2.4.2 Tudalen â Theitl
- Problem fach
Rhestr wirio dogfen Office
Mae hyn yn cynnwys Microsoft® Word a LibreOffice Writer.
- Mae'r ddogfen wedi'i cham-ffurfio
- Problem ddifrifol
- Mae'r ddogfen wedi'i hamgryptio
- Problem ddifrifol
- Nid oes gan y ddogfen iaith wedi'i gosod
- WCAG 2.2 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
- Problem fach
- Nid oes gan y ddogfen yr iaith gywir wedi'i gosod
- WCAG 2.2 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
- Problem fach
Mae gan y ddogfen ddelweddau heb ddisgrifiadau amgen
Wrth ddefnyddio fersiwn gwe Office 365, sicrhewch eich bod yn llenwi'r maes "Disgrifiad" yn y panel Testun Amgen.
- WCAG 2.2 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
- Problem fawr
- Mae'r ddogfen hon yn cynnwys testun gyda chyferbyniad annigonol
- WCAG 2.2 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
- WCAG 2.2 - 1.4.6 Cyferbyniad (Gwell)
- Problem fawr
Nid oes gan y ddogfen benawdau
Gorfodir y gwiriad hygyrchedd hwn ar ddogfennau Word sy'n cynnwys isafswm o 12 paragraff yn unig ar hyn o bryd.
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
- Nid oes gan y ddogfen strwythur penawdau penodol
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fach
- Nid yw strwythur penawdau'r ddogfen yn dechrau ar un
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
- Mae strwythur penawdau'r ddogfen yn mynd yn uwch na chwe lefel
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fach
- Mae gan y ddogfen dablau sydd heb benawdau
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
Rhestr wirio sleidiau cyflwyno
Mae hyn yn cynnwys Microsoft® PowerPoint® a LibreOffice Impress.
- Mae'r cyflwyniad wedi'i gam-ffurfio
- Problem ddifrifol
- Mae'r cyflwyniad wedi'i amgryptio
- Problem ddifrifol
- Nid oes iaith wedi'i gosod ar gyfer y cyflwyniad
- WCAG 2.2 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
- Problem fach
- Nid yw’r iaith gywir wedi'i gosod ar gyfer y cyflwyniad
- WCAG 2.2 - 3.1.1 Iaith y Dudalen
- Problem fach
- Mae gan y cyflwyniad ddelweddau heb ddisgrifiadau amgen
- WCAG 2.2 - 1.1.1 Cynnwys Nad Yw'n Destun
- Problem fawr
- Mae'r cyflwyniad hwn yn cynnwys testun gyda chyferbyniad annigonol
- WCAG 2.2 - 1.4.3 Cyferbyniad (Isaf)
- WCAG 2.2 - 1.4.6 Cyferbyniad (Gwell)
- Problem fawr
Nid oes gan y cyflwyniad unrhyw benawdau
Mae'r gwiriad hygyrchedd hwn yn gorfodi isafswm o 1 teitl ar gyfer pob 7 sleid mewn dogfen PowerPoint.
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr
- Mae gan y cyflwyniad dablau heb unrhyw benawdau
- WCAG 2.2 - 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
- Problem fawr