Mae’r trosolwg yn nodi llwyddiant eich gwefan yn ôl mis neu flwyddyn. Mae'n dangos y sgôr hygyrchedd gyffredinol, cyfanswm nifer y parthau a chynnwys, ynghyd ag unrhyw broblemau hygyrchedd a ddaethpwyd o hyd iddynt.

Os byddwch yn defnyddio Ally ar gyfer Rheolwr Cymuned y We, bydd Ally yn dangos cyfanswm yr adrannau yn hytrach na chyfanswm nifer y parthau. I ddysgu rhagor, trowch at Adroddiad hygyrchedd yn Ally ar gyfer Rheolwr Cymuned y We.

Defnyddiwch y ddewislen cyfnod i ddangos yr adroddiad yn ôl mis neu flwyddyn. Allforiwch yr adroddiad i gael rhagor o fanylion.

Rhagor am yr allforyn CSV


Sgôr hygyrchedd

Mae’r graff llinell hwn yn dangos sgôr hygyrchedd yr holl gynnwys dros y cyfnod o amser a ddewiswyd gennych. Er enghraifft, os ydych chi'n dewis Yn ôl mis yn y ddewislen math o gyfnod, gallwch gymharu perfformiad dros nifer o fisoedd.

  • Sgôr hygyrchedd y flwyddyn: Cyfartaledd sgoriau hygyrchedd pob eitem o gynnwys yn y flwyddyn galendr honno.
  • Os ydych yn defnyddio Rheolwr Cymunedol y We, blwyddyn academaidd yw hon.

  • Sgôr hygyrchedd y mis: Cyfartaledd sgoriau hygyrchedd pob eitem o gynnwys yn y mis hwnnw.

Po uchaf y sgôr y gorau mae eich cynnwys yn perfformio. Pwyntiwch at gyfnod ar y graff llinell i weld y sgorau.

  • Tudalennau Gwe: Sgôr ar gyfartaledd tudalennau'r wefan.
  • Ffeiliau: Sgôr ar gyfartaledd cynnwys y ffeiliau a uwchlwythwyd. Er enghraifft, ffeiliau PDF, dogfennau Word, cyflwyniadau PowerPoint, delweddau ac ati.
  • Cyffredinol: Sgôr hygyrchedd ar gyfartaledd cynnwys ffeiliau a thudalennau gwe.

Dewiswch gyfnod i weld rhagor o fanylion ar gyfer y cyfnod hwnnw yn adroddiadau Cyfanswm y parthau, Cyfanswm y ffeiliau, Cyfanswm y tudalennau, Sgôr hygyrchedd gyffredinol, a Problemau hygyrchedd. Hefyd gallwch ddewis cyfnod newydd yn y ddewislen gyfnod cyfredol.

Â'ch bysellfwrdd, pwyswch Tab i lywio drwy bob cyfnod ar y graff. Pwyswch y Bylchwr i'w ddewis.


Cyfanswm y parthau, tudalennau gwe a ffeiliau

Gallwch weld y cyfanswm o’r ffeiliau ar eich safle yn yr adroddiad Cyfanswm y ffeiliau. Gallwch weld nifer y parthau a thudalennau gwe sydd ar eich safle yn yr adroddiadau Cyfanswm y parthau Cyfanswm y tudalennau. Mae adroddiad Cyfanswm y parthau yn cymharu’r cyfnod presennol i’r cyfnod blaenorol.

Yn yr adroddiad Cyfanswm y ffeiliau , mae lliwiau'n cynrychioli'r gwahanol fathau o gynnwys. Pwyntiwch at fath o gynnwys i weld y cyfanswm a uwchlwythwyd a sgôr hygyrchedd ar gyfer y math hwnnw.

Mae defnyddwyr darllenydd sgrin yn gallu pwyso Tab i symud trwy'r tabl Cyfanswm y ffeiliau cudd.

Dewiswch gyfnod newydd o’r llinell graff Sgôr Hygyrchedd neu o ddewislen y cyfnod presennol i ddangos cyfnod newydd.


Sgôr hygyrchedd gyffredinol

Gweld y sgôr hygyrchedd ar gyfer y cyfnod a ddewiswyd. 

Dewiswch gyfnod arall o graff llinell Sgôr hygyrchedd neu o ddewislen y cyfnod presennol i ddangos cyfnod gwahanol.


Problemau hygyrchedd

Gweld rhestr o broblemau hygyrchedd a ganfuwyd yn ystod y cyfnod a ddewiswyd. Dewiswch gyfnod newydd o’r llinell graff Sgôr Hygyrchedd neu o ddewislen y cyfnod presennol i ddangos cyfnod newydd.

Caiff y problemau eu rhestru yn ôl amlder. Y sawl ar dop y rhestr yw'r rhai mwyaf cyffredin.  Dewiswch Difrifol, Mawr, neu Bach i hidlo'r problemau yn ôl difrifoldeb. Dylid mynd i'r afael â phroblemau difrifol yn gyntaf. 

Ar gipolwg gallwch chi benderfynu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer pob problem.

  • Math y Ffeil
  • Problem hygyrchedd
  • Difrifoldeb
  • Cyfanswm yr eitemau sydd â’r un broblem.

Cliciwch ar eitem i weld disgrifiad llawn o’r broblem a’r parthau sy’n cael eu heffeithio ganddi.

Mae’r tabl Parthau â’r broblem hygyrchedd hon yn dangos enw’r parth, nifer eitemau’r parth sy’n dioddef o’r broblem ynghyd â sgôr hygyrchedd y parth. Mae parthau sy'n cael y broblem honno amlaf yn ymddangos ar dop y rhestr.

Cliciwch ar Dychwelyd i’r trosolwg i ddychwelyd i drosolwg adroddiad hygyrchedd Ally. Cliciwch ar ddewislen adroddiad y cyfnod i gymharu parthau a oedd ganddyn nhw’r un broblem yng nghyfnod gwahanol.

Dewiswch barth i arddangos yr eitemau sy’n dioddef o’r broblem hon.

Gweld rhestr o’r eitemau sy’n dioddef o’r broblem hygyrchedd a’u sgoriau hygyrchedd.

Cliciwch ar Dychwelyd i’r broblem i ddychwelyd i’r rhestr Parthau sy’n dioddef o’r broblem hygyrchedd hon . Cliciwch ar Allgludo’r parth i lawrlwytho adroddiad unigol y parth. Dewiswch dudalen gwe neu ffeil i'w gweld. Dewiswch Mynd i’r parth i ymweld â thudalen cartref y parth.

A yw’r adroddiad yn dangos problemau sydd wedi’u dileu neu wedi’u trwsio?

Gweld y misoedd blaenorol. Os trwsiwyd problem ers hynny, fe’i nodir.


Gwella hygyrchedd eitem

Ewch i’r adroddiad hygyrchedd. O dabl Problemau hygyrchedd, dewch o hyd i eitem benodol o gynnwys mewn parth sydd â phroblem hygyrchedd. Dewiswch ddangosydd sgôr hygyrchedd yr eitem o gynnwys i agor y panel adborth.

Mwy ar y sgoriau a gwella hygyrchedd eitem