Gwella hygyrchedd eich cynnwys gydag Ally.

Unwaith eich bod yn gwybod y sgôr hygyrchedd, gallwch ddechrau archwilio'r problemau hygyrchedd a gwella'ch cynnwys i gynyddu'r sgôr. Mae cynnwys hygyrch yn bwysig ar gyfer unrhyw gynulleidfa, ac mae Ally yn rhoi'r offer i chi i allu deall problemau cyffredin a gwella'ch cynnwys.

Ewch i'r Adroddiad Hygyrchedd Ally yn eich rheolwr safle. O dabl Problemau hygyrchedd, dewch o hyd i eitem benodol o gynnwys sydd â phroblem hygyrchedd. Dewiswch ddangosydd sgôr hygyrchedd yr eitem o gynnwys i agor y panel adborth.