Fformatau Amgen
Mae fformatau amgen o fudd i bawb
Mae pobl sydd ag anghenion amrywiol yn ymweld â llawer o safleoedd y dyddiau hyn. Mae fformatau amgen yn rhoi rhagor o gyfle i bawb gyrchu’r wybodaeth sydd arnynt ei hangen yn y dull mae arnynt ei angen neu ei eisiau.
Nid yw fformatau amgen ar gyfer grŵp dethol o bobl yn unig. Mae fformatau amgen o fudd i bawb. Er enghraifft, efallai bydd rhywun sy’n ymweld â’ch safle yn debygol o brofi straen ar ei llygaid, neu efallai bydd yn well ganddynt wrando. Gallant wrando ar fformat sain o'ch cynnwys yn hytrach na’i ddarllen. Neu, gallant ddefnyddio fformatau HTML neu ePub sy'n haws eu darllen ar ddyfais symudol.
Rhagor am y fformatau amgen gwahanol a'u buddion
Nid oes angen i weinyddwyr a golygyddion cynnwys wneud unrhyw beth. Mae Ally yn creu'r fformatau amgen i chi.
Ally ar gyfer Gwefannau Canfod Fformatau Amgen
Dewch o hyd i'r fformatau amgen sydd ar gael
Mae Ally yn creu fformatau amgen o ffeiliau a thudalennau’ch gwefan yn seiliedig ar y ffeiliau a thudalennau gwreiddiol. Er enghraifft, os mai PDF yw'r cynnwys gwreiddiol, bydd Ally yn creu fformatau sain, braille electronig ac ePub o'r un cynnwys. Mae'r fformatau hyn ar gael gyda'r cynnwys gwreiddiol felly mae popeth mewn un lleoliad cyfleus.
Mae'r fformatau amgen a grëir yn dibynnu ar y math o gynnwys gwreiddiol. Os nad ydych yn gweld opsiwn i lawrlwytho fformatau amgen, ni alluogwyd Ally ar gyfer y wefan honno neu nid yw’r ffeil yn fath o gynnwys a gefnogir.
Chwiliwch am yr eicon Lawrlwytho Fformatau Amgen. Byddwch yn gweld yr eicon ar ochr dde’r dudalen neu ar y gwaelod.
Dewiswch fformat ar gyfer y dudalen gyfan neu ar gyfer ffeiliau unigol ar y dudalen. Mae rhestr o'r fformatau amgen sydd ar gael yn ymddangos er mwyn i chi allu dewis o’r rhestr.
Os nad oes ffeiliau ar y dudalen, yr unig peth rydych yn ei weld yw’r fformatau amgen sydd ar gael ar gyfer y dudalen.
Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?
Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?
Mae Ally yn darparu fformatau amgen ar gyfer y mathau hyn o gynnwys:
- Ffeiliau PDF
- Ffeiliau Microsoft® Word
- Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®
- Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
- Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
- Cynnwys a grëir yng ngolygydd cwrs yr LMS (WYSIWYG)
Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer Blackboard Learn Ultra, Blackboard Learn Gwreiddiol, Instructure Canvas, D2L Brightspace a Schoology y mae fformatau amgen ar gyfer cynnwys WYSIWYG ar gael.
Gellir cynhyrchu'r fformatau amgen hyn:
- Fersiwn OCR (ar gyfer dogfennau wedi'u sganio)
- PDF wedi'i dagio (ar gyfer ffeiliau Word, PowerPoint ac Open Office/LibreOffice ar hyn o bryd)
- HTML sy'n addas ar gyfer dyfeisiau symudol
- Sain
- ePub
- Braille Electronig
- BeeLine Reader
- Fersiwn Cyfieithiedig
- Mae’r Fersiwn Cyfieithiedig wedi’i analluogi yn ddiofyn. Gall gweinyddwyr gyflwyno cais am gymorth i’w alluogi.
Beth fydd angen i'r golygydd cynnwys ei wneud i gynhyrchu fformatau amgen hygyrch ar gyfer cynnwys?
Dim byd. Bydd Ally yn sylwi ar unrhyw ddeunydd presennol neu newydd yn awtomatig, yn ei rhedeg trwy'r rhestr wirio hygyrchedd, ac yn gwneud y fersiynau hygyrch amgen ar gael i'r ymwelwyr a'r golygydd cynnwys.
Oes terfyn maint ffeil?
Nac oes, nid oes terfyn maint ffeil. Efallai bydd achosion lle mae'r algorithm yn methu â chynhyrchu fformatau amgen hygyrch ar gyfer rai ffeiliau mawr, ond nid yw Ally yn gorfodi terfyn maint ffeil.
Sut mae Ally yn trin cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair?
Mae Ally yn canfod cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair, yn rhoi sgôr hygyrchedd 0% iddo ac yn darparu arweiniad i help tynnu'r cyfrinair trwy'r adborth i olygyddion cynnwys. Nid yw Ally yn cynhyrchu unrhyw fformatau amgen ar gyfer cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair, gan na allwn gael mynediad at y cynnwys ei hun.
A allaf analluogi fformatau amgen?
Ydych. Gallwch analluogi fformatau amgen ar gyfer eitemau unigol o gynnwys, os ydych eisiau gwneud hynny. Ychwanegwch y priodoledd 'data-ally-af-disabled' at yr elfen cynnwys yn eich HTML. Mae’r briodoledd hon yn eithrio’r eitem o gynnwys rhag ymddangos yn y panel Fformatau amgen.
Er enghraifft, os ydych yn ei hychwanegu at ffeil gysylltiedig, ni fydd y ffeil gysylltiedig hon yn ymddangos yn y rhestr: <a data-ally-af-disabled href:"https://filename.pdf">PDF file</a> .
Tynnwch y briodoledd ar unrhyw adeg, os ydych eisiau i’r eitem o gynnwys ymddangos yn y panel Fformatau amgen.