Cyffredinol
Ym mha ieithoedd mae Anthology Ally ar gael?
Mae Anthology Ally ar gael mewn llawer o ieithoedd gwahanol.
Mae Anthology Ally ar gael yn yr ieithoedd canlynol.
- Arabeg
- Catalaneg
- Daneg
- Iseldireg
- Saesneg, UDA
- Saesneg, DU
- Ffinneg
- Ffrangeg
- Ffrangeg, Canada
- Almaeneg
- Hebraeg (Rhyngwyneb Ally yn unig ar hyn o bryd)
- Eidaleg
- Norwyeg Bokmål
- Norwyeg Nynorsk
- Pwyleg
- Portiwgaleg
- Portiwgaleg, Brasil
- Sbaeneg
- Swedeg
- Tyrceg
- Cymraeg
Beth am y gweinyddwyr ar gyfer lleoliadau lleol?
Erbyn hyn mae’r lleoliadau Ally sy'n byw y tu allan i Ogledd America hefyd yn defnyddio gweinyddwyr nad ydynt yn yr Unol Daleithiau ar gyfer gwasanaethau 3ydd parti y mae Ally yn dibynnu arnynt. Mae hyn yn golygu nad yw gosodiadau lleol yn dibynnu ar weinyddion yn yr Unol Daleithiau ar gyfer unrhyw swyddogaethau Ally.
Ble gallaf ddod o hyd i ymrwymiad lefel gwasanaeth Anthology Ally?
Dogfen ymrwymiad lefel gwasanaeth Anthology Ally (ar gael yn Saesneg yn unig)
A oes amserlen ryddhau benodol ar gyfer Anthology Ally?
Mae Ally yn defnyddio gwir ymagwedd meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS) gan ryddhau diweddariadau i gynnyrch yn rheolaidd. Does dim amserlen ryddhau benodol ar yr adeg hon, er rydym yn rhyddhau diweddariadau tua unwaith bob 1-2 wythnos ar gyfartaledd. Nid yw'r diweddariadau hyn fel arfer yn cael eu rhyddhau ar yr un pryd â diweddariadau i gynnyrch arall Blackboard.
Yr unig eithriad i'r ymagwedd o ryddhau'n barhaol yw pan mae newid a fydd yn effeithio'n sylweddol ar y defnyddiwr ar y gweill. Yn yr achosion hyn, rydym yn rhoi 1 mis o rybudd cyn bod y cynnyrch newydd ar gael.
Gyda'r drefn rhyddhau barhaol hon, nid yw'n bosib cael mynediad at fersiwn cynnar o ddiweddariad ar awyrgylch profi/llwyfannu.
Rhestr wirio hygyrchedd
Pa gynnwys mae Ally yn ei wirio?
Ar hyn o bryd, mae Ally yn gwirio y ffeiliau canlynol:
- Tudalennau gwe/cynnwys HTML
- Delweddau
- Ffeiliau PDF
- Ffeiliau Microsoft® Word
- Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®
- Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
- Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
Fideos planedig YouTube™, HMTL5 a Vimeo
Pa broblemau hygyrchedd y mae Ally yn edrych amdanynt?
Mae rhestr wirio hygyrchedd Ally yn seiliedig ar WCAG 2.2 AA (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We). Mae hon yn safon hygyrchedd ryngwladol, ac mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth a'r gofynion cyfreithiol newydd ledled y byd yn cyd-fynd â'r safon hon.
Ar ben hynny, mae Ally hefyd yn ychwanegu nifer o wiriadau ychwanegol ar ben hynny sy'n cychwyn targedu defnyddioldeb ac ansawdd cynnwys y we ychydig yn fwy.
Beth ydy Ally yn ei wneud â chynnwys nad yw’n gallu ei wirio?
Mae Ally yn cynnwys cynnwys nad oes modd ei wirio am faterion hygyrchedd, fel archif ZIP a ffeil XML, dan "Arall" yn yr adroddiad hygyrchedd. Nid yw'r cynnwys hwn yn cael sgôr hygyrchedd ac nid yw'n cyfrannu at sgôr hygyrchedd y sefydliad.
Rhagor o wybodaeth am yr adroddiad sefydliadol ar gyfer gweinyddwyr
Beth ydy gwiriad cyferbynnedd?
Mae gwiriadau cyferbynnedd yn wiriadau sy’n canfod a oes ddigon o gyferbyniad rhwng lliw testun a lliw ei gefndir. Gall pawb weld hi’n anodd darllen cynnwys sydd â diffyg cyferbyniad rhwng lliw'r testun a lliw'r cefndir ond mae myfyrwyr sydd â nam ar eu golwg megis lliwddallineb yn gweld hi’n arbennig o anodd ei ddarllen.
Mae Ally yn defnyddio'r gofynion cyferbyniad a nodir fel rhan o ganllawiau WCAG 2.2 AA.
Defnyddiwch Colour Contrast Analyser gan The Paciello Group i wirio’ch cynnwys ar unrhyw adeg.
Ble allai ddod o hyd i restr wirio hygyrchedd Ally?
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Golygyddion Cynnwys ar gyfer Ally
Cwestiynau Cyffredin Ymwelwyr Am Ally Ar Gyfer Gwefannau
Pa fformatau amgen mae Ally yn eu creu?
Mae Ally yn darparu fformatau amgen ar gyfer y mathau hyn o gynnwys:
- Ffeiliau PDF
- Ffeiliau Microsoft® Word
- Ffeiliau Microsoft® Powerpoint®
- Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice
- Ffeiliau HTML wedi’u huwchlwytho
- Cynnwys a grëir yn offeryn golygu'r dudalen we (WYSIWYG)
Gellir cynhyrchu'r fformatau amgen hyn:
- Fersiwn OCR (ar gyfer dogfennau wedi'u sganio)
- PDF wedi'i dagio (ar gyfer ffeiliau Word, PowerPoint ac Open Office/LibreOffice ar hyn o bryd)
- HTML sy'n addas ar gyfer dyfeisiau symudol
- Sain
- ePub
- Braille Electronig
- BeeLine Reader
- Fersiwn Cyfieithiedig
- Mae’r Fersiwn Cyfieithiedig wedi’i analluogi yn ddiofyn. Gall gweinyddwyr gyflwyno cais am gymorth i’w alluogi.
A gynhyrchir fformatau amgen ar ôl cyflwyno cais i lawrlwytho?
Pan ofynnir am fformat amgen ar gyfer eitem o gynnwys am y tro cyntaf, bydd Ally yn cynhyrchu’r fformat ar alw. Ar gyfer y rhan fwyaf o achosion, fe’i cynhyrchir o fewn 1-2 funud.
Ar ôl ei gynhyrchu, lawrlwythir y fformat amgen. Wedyn, mae Ally yn cadw'r canlyniad yn y storfa, er mwyn cynhyrchu a lawrlwytho ceisiadau ychwanegol ar gyfer yr un fformat amgen o'r storfa ar unwaith.
Cwestiynau Braille
Cwestiynau Cyffredin Ally Braille
Pa god Braille mae Ally yn ei ddefnyddio ar gyfer y Fformat Braille Electronig?
Mae Ally yn defnyddio'r ffeil Braille .brf (Braille Ready File) fel y fformat Braille electronig. Mae'r cod braille a ddefnyddiwyd yn dibynnu ar iaith y ddogfen. Ar gyfer dogfennau Saesneg, mae Ally yn defnyddio Gradd 2 Braille Saesneg Safonol (cywasgedig).
Rhagor am Braille Saesneg Safonol ar wefan UKAAF
A ellir argraffu Fformat Braille Electronig Ally gan ddefnyddio argraffydd Braille?
Gellid defnyddio fformat .brf (Braille Ready File) ar gyfer dangosyddion braille electronig a boglynwyr braille (argraffyddion).
Bydd rhaid ichi wirio a yw boglynnwr/argraffydd Braille penodol yn cefnogi'r fformat .brf.
Rhagor am BRF ar wefan Accessible Instructional Materials
Pam ydw i'n gweld "Mae'r fformatau amgen ar gyfer y ffeil hon wedi'u hanalluogi"?
Gall gweinyddwyr ddiffodd fformatau amgen ar gyfer tudalennau gwe a ffeiliau unigol.
Beth fydd angen i olygyddion cynnwys ei wneud i gynhyrchu fformatau amgen hygyrch ar gyfer eitem o gynnwys?
Dim byd. Bydd Ally yn sylwi ar unrhyw ddeunydd presennol neu newydd yn awtomatig, yn ei rhedeg trwy'r rhestr wirio hygyrchedd, ac yn gwneud y fersiynau amgen ar gael i'r ymwelwyr a'r golygydd.
Oes terfyn maint ffeil?
Nid yw Ally yn gorfodi maint ffeil mwyaf. Efallai bydd achosion lle mae'r algorithm yn methu â chynhyrchu fformatau amgen ar gyfer rai ffeiliau mawr.
- Cadwch y cynnwys gwreiddiol yn fyrrach na 100 o dudalennau i gynhyrchu fformat OCR ar gyfer dogfennau wedi'u sganio.
- Cyfyngwch gynnwys i 100,000 o nodau ar gyfer y fformat sain. Mae’r terfyn nodau hyn fel arfer yn cyfateb i o leiaf 30 tudalen neu nifer o oriau o sain.
- Cyfyngwch gynnwys i 30,000 o nodau ar gyfer y fformat wedi’i gyfieithu.
- Cyfyngwch ffeiliau wedi’u trwsio sy’n cael eu huwchlwytho drwy banel Adborth i Hyfforddwyr i 50MB.
Sut mae Ally yn trin cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair?
Mae Ally yn canfod cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair, yn rhoi sgôr hygyrchedd 0% i’r cynnwys ac yn darparu arweiniad i help tynnu'r cyfrinair trwy'r panel adborth i olygyddion cynnwys. Nid yw Ally yn cynhyrchu unrhyw fformatau amgen ar gyfer cynnwys a ddiogelwyd gan gyfrinair, gan na allwn gael mynediad at y cynnwys ei hun.
A allaf analluogi fformatau amgen?
Gallwch, gall gweinyddwyr analluogi fformatau amgen.
Panel adborth i olygyddion cynnwys
Cwestiynau Cyffredin am Adborth i Hyfforddwr
Sut ydw i'n gweld yr holl broblemau?
Dewiswch Pob broblem i weld pob problem yn y ffeil. Mae'r olwg hon yn dangos ichi faint y gall y sgôr wella trwy atgyweirio pob problem. Canfyddwch y broblem rydych am ddechrau ei atgyweirio a dewiswch Atod.
Pa drothwy sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer lliw'r dangosydd hygyrchedd?
Rydym yn darparu sgôr hygyrchedd i bob dogfen, sef sgôr ganran sydd i fod i adlewyrchu pa mor hygyrch yw eitem, faint o bobl y gall effeithio arnynt, pa mor ddifrifol mae'n effeithio arnynt, ac ati. I gyfrifo'r sgôr hygyrchedd ar gyfer dogfen, rydym yn cymryd cyfartaledd pwysedig o'r gwahanol reolau/gwiriadau hygyrchedd, gan fod rhai rheolau yn bwysicach/mwy sylweddol nag eraill.
O fewn y Rhyngwyneb Defnyddiwr, rydym yn defnyddio trothwyon ar gyfer penderfynu lliw'r dangosydd.
Eiconau Sgôr Hygyrchedd Ally
Mae sgoriau yn amrywio o Isel i Perffaith. Po uchaf y sgôr po leiaf y problemau.
- Isel (0-33%): Angen help! Mae problemau hygyrchedd difrifol.
- Canolig (34-66%): Ychydig yn well. Mae'r ffeil rhywfaint yn hygyrch ac mae angen gwella.
- Uchel (67-99%): Bron yna! Mae'r ffeil ar gael ond mae rhagor o welliannau yn bosibl.
- Perffaith (100%): Perffaith! Ni nododd Ally unrhyw broblemau hygyrchedd ond efallai y bydd gwelliannau pellach yn bosibl o hyd.
Mae hygyrchedd yn sbectrwm lle mae gwelliannau pellach yn bosibl bob amser, felly mae'n anodd darparu pwynt lle mae'r eitem yn dod yn "hygyrch". Fodd bynnag, unwaith y bydd eitem yn y parth gwyrdd dylai fod yn gwneud yn rhesymol dda.
Ar gyfer pa fathau o gynnwys mae rhagolygon yn y porwr ar gael?
Mae rhagolygon yn y porwr ar gael ar gyfer y ffeiliau hyn ar hyn o bryd:
- Delweddau
- Dogfennau PDF
- Dogfennau Word
- Cyflwyniadau PowerPoint
- Ffeiliau OpenOffice/LibreOffice (Writer ac Impress)
- Cynnwys WYSIWYG a grëwyd yn eich LMS
Wedyn, defnyddir y rhagolygon hyn i nodi ble gallwch ddod o hyd i broblemau hygyrchedd penodol yn y ddogfen. Darparir amlygiadau ar hyn o bryd ar gyfer y problemau hyn:
- Delweddau heb ddisgrifiad amgen priodol
- Darnau o destun â chyferbyniad annigonol
- Tablau heb benawdau tabl
Bydd adborth ar gyfer problemau hygyrchedd eraill ond yn dangos y rhagolwg o gynnwys heb amlygiadau.
Fideos YouTube
Beth mae Ally yn ei wneud â fideos YouTube?
Mae Ally yn gwirio fideos YouTubeTM am gapsiynau ac yn cyflwyno'r wybodaeth hon yn yr adroddiadau hygyrchedd. Nid ystyrir capsiynau YouTube a gynhyrchwyd yn awtomatig i fod yn gapsiynau dilys. Ystyrir unrhyw fideo YouTube sydd â chapsiynau a gynhyrchwyd yn awtomatig i fod ‘heb gapsiwn’ yn yr Adroddiad Sefydliadol.
Mae Ally yn gwirio am fideos YouTube wedi’u plannu a dolenni i fideos YouTube.
Yn yr adroddiad, mae’r golofn "HTML: Mae’r cynnwys HTML yn cynnwys fideos heb gapsiynau" yn amlygu'r nifer o gynnwys a ffeiliau HTML sydd â fideos YouTube heb gapsiynau. Yn ffeil allgludo'r Adroddiad Sefydliadol, enw’r golofn yw HtmlCaption:2.
Nid yw'r broblem hon yn cyfrannu i'r sgôr cyffredinol gan na all Ally ddilysu manwl gywirdeb capsiynau a gynhyrchwyd yn awtomatig eto.
Nid oes unrhyw adborth na fformatau amgen ar gael ar yr adeg hon ar gyfer fideos.