Mae’r adroddiadau Defnydd yn dangos manylion am sut mae’ch ymwelwyr a golygyddion y safle yn defnyddio Ally. Dysgu pa mor aml mae ymwelwyr yn lawrlwytho fformat amgen ac mae golygyddion yn trwsio problemau hygyrchedd.
Mae’r adroddiad yn daenlen sydd wedi cael ei rhannu ym mhum taflen waith.
- Lansiadau Fformatau Amgen
- Fformatau Amgen Wythnosol
- Lansiadau Adborth Cynnwys
- Adborth Cynnwys Wythnosol
- Data
Mae gan bob taflen waith fanylion sy’n gysylltiedig ag ystod dyddiadau a ddewiswch.
Creu adroddiad Defnydd
- O Adroddiad Hygyrchedd Sefydliadol Ally dewiswch y tab Defnydd.
- Dewiswch ystod dyddiadau o'r adroddiad.
- Dewiswch y botwm Lawrlwytho’r adroddiad defnydd.
Efallai na fyddwch yn gweld data pan fyddwch yn agor yr adroddiad am y tro cyntaf. Efallai gwarchodir y ffeil wedi’i lawrlwytho. Galluogwch olygiadau i weld y data.
Lansiadau Fformatau Amgen
Mae’r daflen waith Lansiadau Fformatau Amgen yn dangos defnydd a dosbarthiad o fformatau amgen dros ystod dyddiadau penodol.
Defnydd Fformatau Amgen
Mae’r daflen waith yn dechrau gyda manylion am y nifer o weithiau mae’r panel Fformatau Amgen wedi’i agor a pha mor aml mae fformat amgen wedi’i lawrlwytho.
Mae Graddfa Drosi yn dangos y canran o lawrlwythiadau allan o'r cyfanswm o weithiau y mae'r panel wedi’i agor.
Mae Cyfanswm Lawrlwythiadau Defnyddwyr Unigryw yn dangos y nifer o ddefnyddwyr unigryw ar draws pob cwrs sydd wedi lawrlwytho fformatau amgen mewn cyfnod penodol. Er enghraifft:
- Cyfanswm lawrlwythiadau: 100
- Cyfanswm Lawrlwythiadau Defnyddwyr Unigryw: 4
- Defnyddiwr0: 75 lawrlwythiad
- Defnyddiwr1: 15 lawrlwythiad
- Defnyddiwr2: 5 lawrlwythiad
- Defnyddiwr3: 5 lawrlwythiad
Dosbarthiad yn ôl Fformatau Amgen
Gweld pa fformatau amgen sy’n boblogaidd, neu sydd wedi cael eu lawrlwytho amlaf, gan eich ymwelwyr. Rhestrir pob fformat amgen gyda'r nifer o weithiau mae wedi cael ei lawrlwytho.
Parthau gyda Lawrlwythiadau Fformatau Amgen
Gweld y parth o le mae ymwelwyr wedi lawrlwytho fformatau amgen.
Fformatau Amgen Wythnosol
Mae’r daflen waith Fformatau Amgen Wythnosol yn dangos gweithgarwch wythnosol dros ystod dyddiadau'r adroddiad. Gallwch weld y nifer o weithiau mae ymwelwyr wedi agor y panel bob wythnos. Gallwch hefyd weld y nifer o weithiau maent wedi lawrlwytho fformat amgen bob wythnos.
Mae wythnosau yn dechrau ar ddydd Llun. Ni allwch greu adroddiad ar y diwrnod presennol.
Lansiadau Adborth Cynnwys
Mae’r daflen waith Lansiadau Adborth Cynnwys yn dangos defnydd a dosbarthiad o adborth cynnwys dros ystod dyddiadau penodol.
Defnydd Adborth Cynnwys
Mae’r daflen waith yn dechrau gyda manylion am y nifer o weithiau mae’r panel Adborth i Olygyddion Cynnwys wedi cael ei agor a pha mor aml mae golygyddion wedi trwsio problem hygyrchedd o ganlyniad i hyn.
Mae graddfa drosi yn dangos y canran o drwsiadau allan o'r cyfanswm o weithiau mae'r panel wedi cael ei agor.
Adborth Cynnwys Wythnosol
Mae’r daflen waith Adborth Cynnwys Wythnosol yn dangos gweithgarwch wythnosol dros ystod dyddiadau'r adroddiad. Gallwch weld y nifer o weithiau mae golygyddion cynnwys wedi agor y panel bob wythnos. Gallwch hefyd weld y nifer o weithiau maent wedi trwsio problemau hygyrchedd bob wythnos.
Mae wythnosau yn dechrau ar ddydd Llun. Ni allwch greu adroddiad ar y diwrnod presennol.
Data
Mae'r daflen waith Data yn dangos manylion penodol am bob tro mae’r panel wedi’i agor, lawrlwythwyd fformat a thrwsiwyd problem hygyrchedd.
- ID: ID unigryw y rhes/digwyddiad.
- Rhif Adnabod y Parth: Rhif adnabod y parth.
- Cod y Parth: Cod y parth.
- Enw’r Parth: Enw'r parth.
- Stwnsh Defnyddiwr Unigryw: Rhif adnabod defnyddiwr unigryw, defnyddiwr unigol yn rhyngweithio â'r rhaglen.
- ID y Tymor: ID y tymor.
- Enw’r Tymor: Enw’r tymor.
- ID Cynnwys: ID y cynnwys.
- Digwyddiad: Yn disgrifio’r weithred. Er enghraifft, os fydd rhywun yn agor y panel Fformatau Amgen neu’r panel Adborth i Olygyddion Cynnwys.
- AFLaunch: Mae'n dangos a yw rhywun wedi agor y panel Fformat amgen neu beidio. Mae 1 yn golygu y cafodd y panel ei agor. Mae 0 yn golygu bod y panel wedi aros ar gau.
- Lawrlwytho: Mae'n dangos a yw rhywun wedi lawrlwytho fformat amgen. Mae 1 yn golygu y lawrlwythwyd un neu fwy o fformatau. Mae 0 yn golygu ni lawrlwythwyd fformatau amgen.
- IFLaunch: Mae'n dangos a yw rhywun wedi agor y panel Adborth i Olygyddion Cynnwys neu beidio. Mae 1 yn golygu y cafodd y panel ei agor. Mae 0 yn golygu bod y panel wedi aros ar gau.
- Trwsio: Mae'n dangos a yw rhywun wedi trwsio problem hygyrchedd o'r panel Adborth i Olygyddion Cynnwys. Mae 1 yn golygu y trwsiwyd un neu fwy o broblemau. Mae 0 yn golygu ni chafodd unrhyw beth ei drwsio.
- CARLaunch: gyda gwerth 1 yn dangos a lansiwyd Adroddiad Hygyrchedd Cwrs.
- Stamp amser: Yn dangos pryd ddigwyddodd digwyddiad. Y stamp amser yw’r nifer o eiliadau ers Ionawr 1, 1970.
- Cleient: ID y cleient.
- Math o Ffeil: Yn dynodi'r math o ffeil yn y digwyddiad. Er enghraifft, delwedd neu gyflwyniad.
- Math o Fformat: Yn dynodi’r fformat amgen a lawrlwythwyd. Mae’r Math o Fformat yn wag pan fydd Lawrlwytho yn 0.
Mae Tts yn cynrychioli’r fformat sain.
- Sgôr Cyn: Sgôr hygyrchedd y parth cyn gwneud gwelliannau i'r cynnwys. Mae Sgôr Cyn yn wag pan fydd Trwsio yn 0.
- Sgôr Ar Ôl: Sgôr hygyrchedd y parth ar ôl gwneud gwelliannau i'r cynnwys. Mae Sgôr Ar Ôl yn wag pan fydd Trwsio yn 0.
- Wedi Gwella: Mae'n dangos a yw'r sgôr hygyrchedd wedi gwella ers trwsio'r ffeil. Mae 1 yn golygu bod y sgôr wedi gwella. Mae 0 yn golygu nad yw'r sgôr wedi gwella. Mae Wedi Gwella yn wag pan fydd Trwsio yn 0.
- Wythnos: Yn dangos diwrnod cyntaf yr wythnos pan ddigwyddodd y digwyddiad. Yr wythnos yw'r nifer o ddiwrnodau, hyd at ddechrau'r wythnos, ers Rhagfyr 30, 1899.
- AF: Mae'n dangos gweithgarwch yn y panel Fformat Amgen. Mae 1 yn golygu roedd gweithgarwch. Efallai agorwyd y panel neu lawrlwythwyd fformat. Mae 0 yn golygu nad oedd gweithgarwch.
- IF: Mae'n dangos gweithgarwch yn y panel Adborth i Olygyddion Cynnwys. Mae 1 yn golygu roedd gweithgarwch. Efallai agorwyd y panel neu trwsiwyd problemau. Mae 0 yn golygu nad oedd gweithgarwch.