Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Ar y dudalen hon, gallwch ddysgu am:
- Llywio mewn cwrs (fideo)
- Amgylchedd eich cwrs
- Chwlio am gynnwys cwrs yn ôl teitl
- Dolenni cwrs a dolenni gwe
Mae cyrsiau Ultra wedi'u dylunio i fod yn hygyrch i bob defnyddiwr. I gael rhagor o wybodaeth am hygyrchedd, gan gynnwys sut mae llywio â'r bysellfwrdd yn Ultra, ewch i'n tudalen Trosolwg Hygyrchedd.
Gwylio fideo am lywio o fewn cwrs
Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.
Fideo: Llywio o fewn cwrs ar gyfer Myfyriwr
Amgylchedd eich cwrs
Gallwch agor offer a ddefnyddir yn aml gan ddefnyddio'r bar llywio. Dewiswch y tabiau Cynnwys, Calendr, Cyhoeddiadau, Trafodaethau, Llyfr Graddau, Negeseuon, Grwpiau a Chyflawniadau i'w defnyddio.
Mae gan yr adran Manylion a Gweithrediadau wybodaeth am y cwrs a'r offer sydd â'r opsiynau hyn:
- Rhestr: Cael mynediad at gardiau proffil syml ac uno wynebau ag enwau. Mae pob aelod o'r cwrs yn ymddangos yn y gofrestr. Ni allwch dynnu'ch hun o'r gofrestr.
- Disgrifiad o'r Cwrs: Mae'n darparu crynodeb lefel uchel o nodau a disgwyliadau eich cwrs a dull dysgu'r cwrs.
- Olrhain Cynnydd: Gweld eich cynnydd o ran cynnwys, aseiniadau a phrofion eich cwrs.
- Class Collaborate: Defnyddiwch sesiwn Class Collaborate sydd ar agor fel pwynt lansio cyfleus ar gyfer cyfarfodydd a amserlennir ac ar fyr rybudd.
- Presenoldeb: Os yw'ch hyfforddwr yn defnyddio'r nodwedd presenoldeb, gallwch gael mynediad at eich cofnodion.
- Grwpiau: Gweld neu ymuno â grwpiau cwrs a grëwyd gan eich hyfforddwr.
- Cyhoeddiadau: Gweld cyhoeddiadau cwrs a bostiwyd gan eich hyfforddwr.
- Llyfrau ac Offer: Mae'n dangos yr offer sydd ar gael yn eich cwrs a'ch sefydliad.
Cynnwys y cwrs: Mae holl gynnwys eich cyrsiau'n ymddangos ym mhrif ran y dudalen. Pan fyddwch yn dewis ffolder neu fodiwl dysgu, caiff ei ehangu i ddangos y cynnwys amnyth yn y ffolder neu fodiwl dysgu hwnnw. Pan fyddwch yn dewis eitem fel aseiniad, dogfen neu ddolen, caiff y cynnwys ei agor mewn panel ar frig tudalen Cynnwys y Cwrs. Caewch y panel i lywio'n ôl i le roeddech yn flaenorol yn eich cwrs. Mae olrhain cynnydd yn cadw llygad ar ba gynnwys cwrs rydych wedi'i gwblhau a beth y mae angen i chi ei gwblhau o hyd.
Rhagor am gynnwys yn eich cyrsiau
Gweithgaredd newydd: Bydd eicon gweithgaredd, sy'n edrych fel swigen siarad las, yn ymddangos pan fydd gweithgaredd newydd mewn sgwrs cwrs ar gyfer aseiniadau, profion a dogfennau. Bydd yr eicon gweithgaredd hefyd yn ymddangos i ddynodi trafodaethau newydd.
Chwlio am Gynnwys Cwrs yn ôl y Teitl
Gallwch chwilio am eitemau yn ôl y teitl ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch eicon y chwyddwydr ar y dudalen i ehangu'r eicon i agor bar chwilio.
Yn y bar chwilio, rhowch ychydig o lythrennau'r allweddair sy'n gysylltiedig â'r eitem rydych yn chwilio amdani.
Mae'r swyddogaeth chwilio cwrs yn dangos teitlau'r eitemau sy'n cyfateb wrth i chi roi llythrennau. Dewiswch yr eitem o'r rhestr i agor y cynnwys cyfatebol.
Dewiswch Dangos pob canlyniad eitem ar ddiwedd y rhestr i ddangos gwedd fanwl o'r holl eitemau sy'n cyfateb. Dewiswch yr eitem rydych eisiau ei chyrchu.
I wneud chwiliad newydd, dewiswch yr eicon X yn y bar chwilio i glirio'r chwiliad blaenorol. Gallwch hefyd ddileu cynnwys y bar chwilio a rhoi allweddair arall.
Dewiswch Clirio'r Chwiliad i glirio'r rhestr fanwl o ganlyniadau chwilio. Byddwch yn mynd yn ôl i dudalen Cynnwys y Cwrs.
Mae dangosydd y chwiliad yn gweithredu mewn ffordd wahanol pan nad yw'r porwr yn y modd sgrin lawn.
Dolenni cwrs a dolenni gwe
Dolenni cwrs
Gallwch gyfeirio at gynnwys sydd mewn adrannau eraill o'ch cwrs gan ddefnyddio dolenni cwrs. Er enghraifft, efallai fod eich hyfforddwr eisiau i chi fynd yn ôl i aseiniad darllen blaenorol cyn cwis. Yn lle chwilio drwy hen ffolderi a modiwlau i ddod o hyd i'r deunydd darllen hwn, gall eich hyfforddwr greu dolen gwrs ar gyfer mynediad hawdd.
Mae dolen gwrs yn cael ei dangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs gydag eicon dolen wedi'i haenu dros eicon yr eitem darged.
Dolenni Gwe
Gallwch gyfeirio at wefannau sydd wedi'u cynnwys y tu allan i'ch cwrs gan ddefnyddio dolenni gwe. Er enghraifft, gall eich hyfforddwr eich cyfeirio at eiriadur neu thesawrws allanol i'w ddefnyddio yn ystod asesiad ysgrifennu.
Wrth greu dolenni gwe, gall eich hyfforddwr ddewis a ddylai'r cynnwys cysylltiedig gael ei agor mewn ffenestr arall yn eich porwr neu mewn panel yn y cwrs.
Mae dolen we yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs gydag eicon dolen wrth ochr yr enw arddangos.
Ni ddangosir rhai eitemau cynnwys mewn panel yn y cwrs. Bydd baner yn ymddangos i roi gwybod i chi na ddangosir rhai eitemau cynnwys oni bai eu bod yn cael eu hagor mewn ffenestr newydd. Gallwch ddewis agor y cynnwys mewn ffenestr newydd neu gau'r banel.