Gallwch fewngofnodi i Blackboard Learn ar borwr gwe ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol.

I gael mynediad i Blackboard, bydd arnoch angen:

  • Cyfeiriad gwe safle Blackboard Learn eich sefydliad
  • Eich enw defnyddiwr
  • Eich cyfrinair

Yn y mwyafrif o achosion, mae'r cyfeiriad a roddir gan eich sefydliad yn eich cyfeirio i'r dudalen mewngofnodi. Os ydych yn cael eich cyfeirio at leoliad arall, edrychwch am fotwm mewngofnodi neu ardal arbennig y porth.

Os na allwch ddod o hyd i wefan eich sefydliad, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + Blackboard, neu cysylltwch â’ch desg gymorth TG.

Am ragor o wybodaeth am fewngofnodi i ap Blackboard, gweler Cwestiynau am Ap Blackboard.

Oes angen help gyda phroblemau mewngofnodi? Gweler Cwestiynau Myfyrwyr am Fewngofnodi i Learn


Ar y dudalen hon, dysgu mwy am:


Beth sy'n digwydd ar ôl i fi fewngofnodi?

Mae defnyddwyr newydd yn gweld tudalen groeso sy'n eu gwahodd i greu proffil. Cyn i chi greu proffil, rhaid i chi dderbyn Telerau Defnyddio Proffiliau Blackboard yn y neidlen. Os nad ydych yn cytuno i'r telerau defnydd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at rai o'r offer. Gallwch ddewis creu proffil yn hwyrach.

Mae defnyddwyr cyfredol yn gweld tab Fy Sefydliad. O'r tab hwn, gallwch gael mynediad at y cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt.

Efallai na fydd eich sefydliad yn caniatáu i chi newid eich gwybodaeth bersonol, cyfrinair neu osodiadau drwy Blackboard Learn. Oherwydd bod Blackboard Learn yn aml yn rhannu data gyda systemau eraill ar y campws, fel swyddfa'r cofrestrydd, efallai y bydd yn angenrheidiol i chi sicrhau bod eich gwybodaeth yr un peth ymhob man. Yn yr achos hwn, bydd gan eich sefydliad wahanol ffordd i newid eich gwybodaeth. Cysylltwch â'ch sefydliad i ddysgu mwy.


Allgofnodi

Dewiswch y botwm allgofnodi wrth ochr eich enw.

Os yw'ch sefydliad yn defnyddio dull cyflwyno'ch hun unwaith i ddilysu defnyddwyr yn Blackboard Learn, bydd neges ychwanegol yn ymddangos pan fyddwch yn allgofnodi. Gyda'r dull cyflwyno'ch hun unwaith, gallwch ddefnyddio nifer o raglenni ar ôl i chi fewngofnodi i un yn unig. Mae'r rhaglenni wedi'u gosod i ymddiried yn ei gilydd ac i rannu'ch dilysiad mewn un sesiwn. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddefnyddio'ch cyfrif Google i fewngofnodi i Learn. Os ydych eisoes wedi mewngofnodi i Google ar eich porwr cyfredol, bydd Learn yn eich mewngofnodi'n awtomatig hefyd.

Os byddwch yn allgofnodi o sesiwn cyflwyno'ch hun unwaith, bydd Blackboard Learn yn gofyn a ydych eisiau diweddu'r holl sesiynau perthnasol neu barhau. Os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth, bydd y system yn diweddu pob sesiwn ymhen dwy funud. Os ydych eisiau parhau â'ch sesiwn, mewngofnodwch eto.


Cael mynediad i'ch cyfrif pan fydd wedi'i gloi

Er eich diogelwch, efallai bydd y system yn eich cloi allan os ydych wedi rhoi’ch enw defnyddiwr na chyfrinair yn anghywir ormod o weithiau neu os yw'r broses mewngofnodi yn cymryd rhy hir.

Efallai bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif os ydych yn ailosod eich cyfrinair. Dewiswch Wedi Anghofio’ch Cyfrinair? a dilynwch y cyfarwyddiadau i ailosod eich cyfrinair a datgloi eich cyfrif.

Os nad yw’ch sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif, bydd angen i chi aros nes bod y cyfnod cloi yn dod i ben neu cysylltwch â desg gymorth TG eich sefydliad i ddatgloi’ch cyfrif. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth. Neu gallwch wirio eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu wybodaeth gyswllt.

Deall rheolaeth sesiwn

Terfyn amser y sesiwn

Pan fyddwch yn segur am fwy na thair awr, bydd y sesiwn yn dod i ben. Gallai hyn ddigwydd oherwydd nad yw'r porwr yn anfon data i Learn. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys pan fyddwch yn:

  • awduro postiad Bwrdd Trafod
  • awduro cyflwyniad Aseiniad yn y golygydd testun yn Learn
  • creu Eitem o Gynnwys

Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi eto i barhau i ddefnyddio Learn. Os byddwch yn cadw tudalen neu'n dewis botwm, bydd y sesiwn yn adnewyddu a bydd yn weithredol am dair awr ychwanegol.

Byddwch yn gweld rhybudd chwe munud cyn i chi gael eich allgofnodi. Caewch y rhybudd i barhau i fod yn weithredol.

Os roeddech oddi wrth eich cyfrifiadur am gyfnod hir, ni fydd modd i chi estyn eich sesiwn. Pan fyddwch yn cau'r rhybudd, byddwch yn dychwelyd i'r dudalen bresennol yn lle mynd i'r dudalen mewngofnodi. Mae hyn yn caniatáu i chi gopïo unrhyw beth rydych wedi'i awduro cyn iddo gael ei golli. Cewch eich ailgyfeirio at y dudalen mewngofnodi pan fyddwch yn clicio ar unrhyw ddolen neu fotwm ar y dudalen.

Terfynu sesiwn weithredol

Os yw'ch sefydliad yn galluogi terfynu sesiwn weithredol, bydd yn rhaid i chi fewngofnodi eto yn ystod eich sesiwn ar ôl amser a bennir gan weinyddwr system eich sefydliad. Gall y gweinyddwr ffurfweddu'r amser hwn i fod rhwng 3 a 24 awr. Mae hyn yn digwydd heb ystyried eich gweithgarwch ac mae i fod i wella'ch diogelwch data. Ychydig cyn i'r sesiwn ddod i ben, cewch rybudd sy'n dweud "Mae eich sesiwn Blackboard Learn ar fin dod i ben. Cadwch eich gwaith a mewngofnodwch eto." Mae gennych gyfle i gadw'ch gwaith. Ar ôl i chi allgofnodi, gallwch fewngofnodi eto a pharhau â'ch gwaith. 

Ar gyfer gweinyddwyr: Mae'r nodwedd wedi'i galluogi yn ddiofyn ar gyfer sefydliadau FedRAMP ac wedi'i hanalluogi ar gyfer eraill. Mae modd rheoli'r gosodiad hwn yn y Panel Offer Gweinyddwr > Modiwl diogelwch > Gosodiadau Cloi Cyfrif. Gwerth diofyn y nifer mwyaf o amser y gall sesiwn defnyddiwr fod yn weithredol amdano yw 12 awr. Mae modd ffurfweddu'r terfyn amser hwn i fod rhwng tair a 24 awr.
Mae'r nodwedd hon ar gael ar gyfer pob defnyddiwr yr Ap Symudol. Nid oes angen i ddefnyddwyr sydd wedi galluogi diweddariadau awtomatig ar eu dyfeisiau wneud unrhyw beth. Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr sydd wedi diffodd diweddariadau awtomatig ar eu dyfeisiau lawrlwytho'r diweddariad.

Rheoli sesiwn gydamserol

Mae gan eich sefydliad yr opsiwn i atal defnyddwyr rhag cyrchu Learn ar nifer o ddyfeisiau ar yr un pryd. Os yw wedi'i alluogi, cewch eich allgofnodi o'ch sesiwn Learn os ydych yn mynd dros y nifer mwyaf o sesiynau cydamserol mae eich sefydliad yn ei ganiatáu.  Er enghraifft, os yw'ch sefydliad yn caniatáu dwy sesiwn gydamserol, a'ch bod wedi mewngofnodi ar eich gliniadur a'ch ffôn, cewch eich allgofnodi o'ch sesiwn gynharaf os byddwch yn mewngofnodi i drydedd ddyfais. Cewch y neges, "Caniateir i chi gael dim ond 2 sesiwn weithredol yn unig ac rydych wedi cael eich allgofnodi o ddyfais arall."

Hefyd, mae mewngofnodi ar ddau borwr ar wahân ar un ddyfais yn cyfrif fel dwy sesiwn gydamserol. Pe byddech yn mewngofnodi i ddyfais arall, byddai'n cyfrif fel trydedd sesiwn gydamserol yn yr achos hwn.

Ar gyfer gweinyddwyr: Gall gweinyddwyr ddiffinio eu dewis yn yr opsiwn Panel Offer Gweinyddwr > Modiwl diogelwch > Gosodiadau Cloi Cyfrif. Rydym wedi diweddaru'r gwerth diofyn ar gyfer y ffin IL4/FedRAMP i 2 sesiwn a ganiateir. Mae pob sefydliad arall yn parhau i fod â "Diderfyn" fel gwerth diofyn.
Mae'r nodwedd hon ar gael ar gyfer pob defnyddiwr yr Ap Symudol. Nid oes angen i ddefnyddwyr sydd wedi galluogi diweddariadau awtomatig ar eu dyfeisiau wneud unrhyw beth. Bydd yn rhaid i ddefnyddwyr sydd wedi diffodd diweddariadau awtomatig ar eu dyfeisiau lawrlwytho'r diweddariad.


Deall sesiynau 

Terfyn amser y sesiwn

Pan fyddwch yn anweithredol am dros dair awr, daw eich sesiwn ddefnyddiwr i ben, a chewch eich allgofnodi'n awtomatig. Weithiau, gallwch ymddangos i fod yn anweithredol hyd yn oed pan fyddwch yn gweithio'n weithredol yn Learn, fel pan fyddwch yn:

  • awduro cyflwyniad Aseiniad yn y golygydd cynnwys cyfoethog.
  • creu dogfen Ultra.

Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi eto i barhau i ddefnyddio Learn. Os byddwch yn cadw tudalen neu'n dewis botwm, bydd y sesiwn yn adnewyddu a bydd yn weithredol am dair awr ychwanegol.

Byddwch yn gweld rhybudd chwe munud cyn i chi gael eich allgofnodi. Caewch y rhybudd i barhau i fod yn weithredol.

Os rydych oddi wrth eich cyfrifiadur am gyfnod hir, ni fydd modd i chi estyn eich sesiwn. Pan fyddwch yn cau'r rhybudd, byddwch yn dychwelyd i'r dudalen bresennol yn lle mynd i'r dudalen mewngofnodi. Mae hyn yn caniatáu i chi gopïo unrhyw beth rydych wedi'i awduro cyn iddo gael ei golli. Byddwch yn mynd yn ôl i'r dudalen mewngofnodi pan fyddwch yn dewis unrhyw ddolen neu fotwm ar y dudalen.

Terfynu sesiwn weithredol 

I wella'ch diogelwch data, efallai bydd eich sefydliad yn gofyn i chi fewngofnodi eto yn ystod eich sesiwn ar ôl amser a bennir gan weinyddwr y system. Mae terfynu sesiwn yn digwydd heb ystyried eich gweithgarwch presennol. Cewch rybudd sy'n dweud, "Mae eich sesiwn Blackboard Learn ar fin dod i ben. Cadwch eich gwaith a mewngofnodwch eto."  Ar ôl i chi allgofnodi, gallwch fewngofnodi eto a pharhau â'ch gwaith. 

Cyfyngiadau sesiynau cydamserol

Gall eich sefydliad eich cyfyngu rhag cael mynediad i Learn ar ddyfeisiau lluosog ar yr un pryd.  Cewch eich allgofnodi'n awtomatig os byddwch yn mynd dros y nifer o sesiynau cydamserol mae'ch sefydliad yn eu caniatáu. Er enghraifft, os yw'ch sefydliad yn caniatáu dwy sesiwn gydamserol, a'ch bod wedi mewngofnodi ar eich gliniadur a'ch ffôn, cewch eich allgofnodi o'ch sesiwn gynharaf os byddwch yn mewngofnodi i drydedd dyfais. 

Hefyd, mae mewngofnodi ar ddau borwr ar wahân ar un ddyfais yn cyfrif fel dwy sesiwn gydamserol. Pe byddech yn mewngofnodi i ddyfais arall, byddai'n cyfrif fel trydedd sesiwn gydamserol yn yr achos hwn.

Mae gan sefydliadau ychydig o reolaeth dros yr hyn a welwch ar y dudalen mewngofnodi. Fodd bynnag, mae pawb angen yr un tri darn o wybodaeth i gael mynediad:

  • Cyfeiriad gwe safle Blackboard Learn eich sefydliad
  • Eich enw defnyddiwr
  • Eich cyfrinair

Yn y mwyafrif o achosion, mae'r cyfeiriad a roddir gan eich sefydliad yn eich cyfeirio i'r dudalen mewngofnodi. Os ydych yn cael eich cyfeirio at leoliad arall, edrychwch am fotwm mewngofnodi neu ardal arbennig y porth.

Ar y dudalen hon, dysgu mwy am:


Cael mynediad i safle Blackboard Learn eich sefydliad

Cysylltwch â'r ddesg gymorth cyfrifiaduron yn eich sefydliad. Nid oes gan Blackboard fynediad at safle Blackboard Learn eich sefydliad a ni allant eich helpu gyda'r mathau hyn o gwestiynau.

Os nad ydych chi'n siŵr sut i gysylltu â nhw, edrychwch am y swyddfa dechnoleg ar wefan eich sefydliad. Gallwch hefyd chwilio ar y we am enw eich sefydliad + Blackboard + help neu cymorth.


Adfer cyfrinair wedi'i golli neu wedi'i anghofio

Os rydych wedi anghofio'ch cyfrinair, defnyddiwch y ddolen Wedi Anghofio'ch Cyfrinair? ar y dudalen mewngofnodi. Mae'n rhaid i chi gwblhau un o'r ddau opsiwn ar y dudalen Wedi Anghofi'ch Cyfrinair? i gael cyfrinair newydd. Ar ôl i chi gyflwyno'ch gwybodaeth, crëwch gyfrinair newydd yn seiliedig ar y cyfarwyddiadau a dderbyniwch mewn e-bost. Mae'n rhaid defnyddio llythrennau bach/mawr yn gywir mewn cyfrineiriau, ni ddylent gynnwys bylchau, ac mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf un nod arbennig.


Newid eich cyfrinair

Ar ôl i chi fewngofnodi, gallwch newid eich cyfrinair. Argymhellwn eich bod yn newid eich cyfrinair o dro i dro er mwyn sicrhau diogelwch. Peidiwch â defnyddio gwybodaeth bersonol gyffredin fel eich cyfrinair, er enghraifft, eich enw.

Mae'n rhaid defnyddio llythrennau bach/mawr yn gywir mewn cyfrineiriau, ni ddylent gynnwys bylchau, ac mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf un nod arbennig.

Dewiswch y saeth wrth ochr eich enw i agor y ddewislen. Gallwch newid eich cyfrinair o'r ddolen Gwybodaeth Bersonol.

Gosodiadau > Gwybodaeth Bersonol > Newid Cyfrinair

Gallwch hefyd newid eich cyfrinair o'ch tudalen Proffil. Ewch i'ch proffil a dewiswch Newid Cyfrinair. Ar y panel Newid Cyfrinair, teipiwch eich hen gyfrinair a'ch cyfrinair newydd. Dewiswch Cadw pan fyddwch wedi gorffen.

Os ydych yn newid eich cyfrinair system, ni fydd yn effeithio ar unrhyw gyfrifon allanol (megis Google) yr ydych yn eu defnyddio i fewngofnodi i Blackboard Learn.

Pan fyddwch yn newid eich cyfrinair, bydd pob sesiwn arall yn dod i ben i ddiogelu’ch diogelwch. Os yw'ch cyfrif wedi’i fewngofnodi mewn porwr arall, terfynir y sesiwn a bydd rhaid i chi fewngofnodi eto.