A ddylech fonitro eich enw da a hunaniaeth ar-lein?

Dylech, mae recriwtwyr a rheolwyr cyflogi yn cadw llygad ar gyfrifon y cyfryngau cymdeithasol, yn ôl Glassdoor, gwefan gyrfaoedd a chyflogi.

Fel mae’n digwydd, manylion person yw'r rheswm pam mae recriwtwyr a rheolwyr cyflogi yn cadw llygad ar gyfrifon ymgeiswyr ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai hyfforddwr gyrfaoedd Hallie Crawford. “Mae’n gallu eu helpu nhw i gael syniad mwy cywir am ba fath o berson rydych chi y tu hwnt i’ch ffurflen gais—golwg mwy personol ar eich bywyd,” mae’n esbonio. “Gall ffurflen gais roi gwybod iddyn nhw am eich cymwysterau, ond gall eich proffil ar y cyfryngau cymdeithasol eu helpu nhw i ddeall eich personoliaeth chi ac i ystyried a fyddwch chi’n addas ar gyfer diwydiant y cwmni.”

Mae angen i chi hefyd ddiogelu eich hun yn erbyn lladrad hunaniaeth. Amcangyfrifa'r Federal Trade Commission bod hunaniaeth 10 miliwn o ddinasyddion yr Unol Daleithiau yn cael eu dwyn bob blwyddyn.


Eich enw da a diogelwch personol ar-lein

Dylech ystyried unrhyw beth a bostiwch ar rwydwaith cymdeithasol i fod yn barhaol ac yn gyhoeddus. Hyd yn oed os nad yw'ch proffil ar safle rhwydweithio cymdeithasol yn "gyhoeddus", gall unrhyw un a roddwch ganiatâd iddynt weld eich proffil gopïo, cadw a phostio'r wybodaeth neu lun yna unrhyw le heb eich caniatâd. Chwiliwch am eich enw ar y rhyngrwyd o dro i dro yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau na fod gennych unrhyw wybodaeth gyhoeddus nad oeddech yn bwriadu ei rhannu. Cymerwch y camau hyn i wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno'ch hun yn dda ar-lein:

  1. Meddyliwch cyn postio. Os byddech yn teimlo cywilydd pe byddai'ch rheolwr, athro neu fam-gu yn ei weld, yna peidiwch â'i bostio. Peidiwch â phostio lluniau neu sylwadau sy'n bryfoclyd yn rhywiol, gweithgareddau anghyfreithlon, negeseuon gyda'r bwriad i boeni neu fygwth, neu ddeunydd annymunol arall. Peidiwch â dweud celwydd, twyllo neu ddefnyddio llên-ladrad. Darllenwch bolisïau eich sefydliad ynghylch defnydd technoleg a bwlio.
  2. Gwahanwch eich bywyd cymdeithasol o'ch bywyd ysgol a phroffesiynol.
    • Crëwch restrau Facebook i eithrio pobl benodol pan rydych yn rhannu rhywbeth. Mae'r bobl ar eich rhestr gyfyngedig yn gweld eich cynnwys cyhoeddus yn unig neu'ch postiadau chi lle rydych wedi'u tagio.
    • Datblygwch ganllawiau i'ch hun am ba bobl rydych yn dymuno cysylltu â nhw ar ba safle cymdeithasol. Er enghraifft, cyfeiriwch bob cais Facebook sydd ar gyfer pwrpasau proffesiynol yn gwrtais i'ch cyfrif LinkedIn.
    • Crëwch gyfeiriad e-bost ar wahân y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich bywyd ysgol neu broffesiynol yn unig.
  3. Dewiswch osodiadau preifatrwydd llymach ar gyfer eich cyfrifon rhwydweithio cymdeithasol. Edrychwch ar adran help y safle ar gyfer cyfarwyddiadau ynghylch newid gosodiadau preifatrwydd. Defnyddiwch y strategaethau hyn ar gyfer y rhwydweithiau cymdeithasol a ddefnyddir yn aml:
    • Dewiswch y gynulleidfa ar gyfer pob post neu newid y gosodiad diofyn yn offer a gosodiadau preifatrwydd Facebook. Gallwch ddewis eich ffrindiau i gyd neu greu gosodiad personol i ddewis neu eithrio pobl neu restri penodol. Peidiwch â dewis Cyhoeddus, sy'n golygu bod pawb ar y rhyngrwyd yn gallu ei weld. Gallwch hefyd rwystro rhagolwg o wybodaeth gyhoeddus eich llinell amser rhag cael ei arddangos mewn canlyniadau peiriant chwilio. Noder bod y gosodiad hwn ymlaen trwy ragosodiad. Defnyddiwch lwybrau byr Facebook i newid eich gosodiadau'n gyflym ac i weld eich proffil fel mae defnyddwyr cyhoeddus yn ei weld.
    • Mae Twitter yn eich galluogi i wneud eich negeseuon yn gyhoeddus neu i'w diogelu. Byddwch yn wyliadwrus am gynnwys eich lleoliad yn eich negeseuon trydar.
    • Mae opsiynau preifatrwydd rhagosodedig Blackboard Learn yn dangos eich enw ac avatar yn unig drwy eich holl gyrsiau, mewn mannau fel yr offer cyfathrebu.
  4. Cynnal eich diogelwch ar-lein. Osgowch bostio eich lleoliad neu i le rydych yn mynd ar safleoedd cymdeithasol, yn enwedig os ydych ar eich pen eich hun. Peidiwch â rhannu'ch cyfeiriad neu'r dyddiadau y byddwch oddi cartref.

Os ydych yn dilyn y canllawiau hyn ac yn dal i ddod o hyd i luniau neu wybodaeth nad ydych eisiau iddynt ymddangos yn gyhoeddus ar-lein, gallwch gysylltu â'r ffynhonnell a gofyn iddynt eu tynnu. Gwiriwch y safle ar gyfer ffyrdd i dynnu'r cysylltiad rhwng eich enw a'r post neu'r ffotograff. Er enghraifft, mae Facebook yn eich caniatáu i dynnu'ch tag o lun a bostiwyd gan rywun arall. Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd ffyrdd i roi gwybod am ddefnyddwyr os yw popeth arall yn methu. Yn Blackboard Learn, gallwch roi gwybod am gynnwys anaddas.


Eich hunaniaeth

Mae lladrad hunaniaeth yn digwydd pan fydd rhywun yn defnyddio eich enw, rhif nawdd cymdeithasol, rhif cerdyn credyd, neu wybodaeth bersonol arall i'w elw personol ei hun. Mynnwch wybod am ffyrdd newydd i aros yn ddiogel ar-lein a rhannu'r dulliau gyda'ch ffrindiau a chyd-weithwyr. Am wybodaeth ar ddiogelwch ar-lein ar gyfer grwpiau oedran penodol, yn ogystal â gwybodaeth mwy penodol ar nifer o'r awgrymiadau canlynol, ewch i StaySafeOnline.org, sy'n cael ei bweru gan The National Cyber Security Alliance.

Mae lladrad hunaniaeth yn dreiddiol, ond nid oes rhaid i chi fod yn darged hawdd. Dechreuwch gyda'r awgrymiadau hyn:

  1. Peidiwch BYTH â rhannu gwybodaeth ar-lein y gall troseddwyr ei defnyddio i ddilysu'ch hunaniaeth mewn modd twyllodrus:
    • Rhif nawdd cymdeithasol
    • Rhif ID myfyriwr
    • Rhif trwydded gyrru
    • Dyddiad geni
    • Cyfeiriad
    • Rhif ffôn
  2. Mae'n amhosib i rywun ddyfalu cyfrineiriau diogel. Dewiswch gyfrineiriau cryf sy'n cynnwys llythrennau mawr a bach, rhifau, a symbolau. Peidiwch â'u rhannu neu gadw rhestr ohonynt mewn lle nad yw'n ddiogel. Crëwch gyfrineiriau unigryw ar gyfer pob un o'ch cyfrifon. Newidiwch eich cyfrineiriau'n rheolaidd. Gosodwch nodyn atgoffa ar eich calendr er mwyn i chi beidio ag anghofio.
  3. Rhaid defnyddio dyfeisiau mewn modd diogel.

    • Allgofnodwch pan rydych yn defnyddio unrhyw gyfrifiadur a fydd yn cael ei defnyddio gan rywun arall - mae hyn yn cynnwys cyfrifiaduron cyhoeddus a'ch cyfrifiadur eich hun os ydych yn ei rannu.

      Dilëwch eich mewngofnodion o hanes y porwr a dilëwch bob cwci pan fyddwch yn gorffen. I ddysgu rhagor, gweler Safety for Using Public Computers gan Norton LifeLock.

    • Clowch eich ffôn clyfar, gliniadur a dyfais symudol gyda chodau a defnyddiwch eu nodweddion diogelwch. Os byddwch yn defnyddio dyfeisiau symudol i gyrchu gwybodaeth ariannol neu breifat arall ar-lein, mae'n bosibl y gall lleidr ei gyrchu hefyd.
    • Mae angen i feddalwedd gwrth-firws a gwrth-ddrwgwedd fod yn gyfredol ar eich cyfrifiadur a'ch dyfeisiau. Galluogwch ddiweddariadau awtomatig os gallwch wneud hynny. Defnyddiwch eich meddalwedd diogelwch i sganio unrhyw beth rydych yn gallu ei ategu at eich cyfrifiadur ar gyfer firysau.
  4. Cyn i chi ddarparu unrhyw wybodaeth i'ch adnabod neu wneud trafodion ariannol ar-lein, defnyddiwch y canllawiau hyn:
    • Gwiriwch eich bod ar gysylltiad diogel â'r we. Yn eich porwr, mae'r symbol clo a "https" yn y porwr gwe yn dangos bod gennych gysylltiad diogel â'r we ar gyfer trafodion ar-lein neu i greu cyfrifon.
    • Defnyddiwch gerdyn credyd yn hytrach na cherdyn debyd i brynu pethau ar-lein a gwiriwch eich cyfriflenni am weithgarwch amheus. Gallwch wirio eich adroddiad credyd yn rhad ac am ddim unwaith y flwyddyn drwy Experian, Equifax, a TransUnion.
    • Peidiwch BYTH â defnyddio cyswllt di-wifr cyhoeddus i fewngofnodi i'ch safleoedd ariannol sy'n eich gwneud yn hynod agored i hacwyr neu gymydog busneslyd.
    • Byddwch yn wyliadwrus o e-byst potsian, sy'n ymddangos fel eu bod yn dod o'ch banc, sefydliad neu fusnes dilys arall, ond sy'n dwyllodrus ac y gallai gynnwys dolenni niweidiol neu ymgais i'ch cael i ddatgelu gwybodaeth bersonol. Peidiwch ag agor dolenni o fewn yr e-bost. Ewch yn uniongyrchol i'r safle ac ymchwiliwch y broblem. Os byddwch yn penderfynu bod yr e-bost yn un twyllodrus, rhowch wybod i'r wefan.
  5. Byddwch yn glyfar am gysylltiadau diwifr cyhoeddus. Mae hacwyr yn aml yn sefydlu pwyntiau mynediad at rwydwaith ddiwifr anawdurdodedig mewn mannau cyhoeddus i gael gafael ar eich cyfrineiriau a gwybodaeth arall heb yn wybod i chi.
    • Cyn cysylltu â'r cysylltiad diwifr rhad ac am ddim, edrychwch am arwydd sy'n rhestru'r rhwydwaith sydd ar gael a chadarnhewch fod enw'r rhwydwaith y byddwch yn cysylltu ag yn ddilys.
    • Defnyddiwch eich gosodiadau i gynyddu diogelwch. Diffoddwch eich cerdyn diwifr os nad ydych yn bwriadu cysylltu â'r rhyngrwyd neu ddyfais arall. Defnyddiwch VPN pryd bynnag y bo'n bosibl i amgryptio eich data. Trowch ffolderi a rennir i ffwrdd.
    • Nodwch y gallai unrhyw gyfrinair neu wybodaeth rydych yn eu rhannu mewn lleoliadau cyhoeddus fynd i ddwylo troseddwyr.
  6. Diogelwch eich hunaniaeth all-lein hefyd. Rhwygwch ohebiaeth sy'n cynnwys gwybodaeth a ellid ei defnyddio i'ch adnabod neu rifau cyfrif. Cadwch rifau cyfrif mewn lle diogel - nid yn eich waled. Sicrhewch nad oes neb yn eich gwylio wrth i chi deipio eich PIN mewn ATM.

Os ydych yn ddioddefwr trosedd neu os oes rhywun yn dwyn eich hunaniaeth, dysgwch beth ddylech chi ei wneud nesaf.