Graddau ar gyfer pob cwrs

I weld eich graddau ar gyfer pob cwrs mewn un rhestr, o'r bar llywio, dewiswch Graddau. Trefnir eich graddau yn ôl enw cwrs a thymor yn nhrefn yr wyddor. Gallwch ddewis y rhan fwyaf o eitemau mewn unrhyw gwrs i weld y manylion.

Eisiau cael rhagor o fanylion am gwrs penodol? Dewiswch enw cwrs i fynd i dudalen graddau'r cwrs hwnnw. 

Os yw’ch hyfforddwr wedi gosod y radd gyffredinol, dewiswch y bilsen radd wrth ochr enw'ch cwrs i agor panel sydd â rhagor o wybodaeth.

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.


Graddau ar gyfer cwrs unigol

I weld yr holl raddau ar gyfer cwrs penodol, o'r dudalen Graddau, dewiswch y cwrs i'w weld. Wedyn, dewiswch dab y Llyfr Graddau.

Os oes gennych raddau newydd, bydd dangosydd yn ymddangos ar dab y Llyfr Graddau gyda nifer y graddau newydd a bydd dot porffor yn ymddangos yn y rhestr ar gyfer pob asesiad a raddiwyd yn ddiweddar. Byddwch hefyd yn cael diweddariad yn eich ffrwd gweithgarwch pan gyhoeddir gradd newydd.

Student view of the gradebook displaying the grade indicator on the Gradebook tab and corresponding purple indicators for the 3 relevant items; the new “(Late)” label is also visible
  • Mae Gradd Bresennol yn dangos eich gradd gyffredinol hyd yn hyn. Dewiswch bilsen y radd i ddysgu mwy am sut caiff eich gradd gyffredinol ei chyfrifo. Efallai bydd eich hyfforddwr yn dewis peidio ag ychwanegu gradd gyffredinol.
  • Ar gyfer pob eitem yn y rhestr, gallwch weld y statws, nifer yr ymgeisiau, ac os rydych wedi cael adborth. Gweld pa ymgeisiau rydych wedi'u dechrau, wedi'u cyflwyno cyn y dyddiad cyflwyno, ac os oes unrhyw gyflwyniadau sy'n hwyr neu a fydd yn hwyr. Wedi’r dyddiad dyledus, mae gwybodaeth am y cyflwyniad yn ymddangos yn goch. Dysgu mwy am ymgeisiau ac adborth neu sut mae gwaith hwyr yn ymddangos.
  • Wedi’r dyddiad dyledus, efallai byddwch yn gweld seroau ar gyfer gwaith nad ydych wedi’i gyflwyno. Gallwch dal i gyflwyno ymgeisiau er mwyn diweddaru'ch gradd. Eich hyfforddwr sy'n pennu cosbau gradd ar gyfer gwaith hwyr. Dysgu mwy am seroau a roddwyd i waith gorddyledus.
  • Os yw'ch hyfforddwr yn defnyddio presenoldeb ar gyfer graddio, byddwch yn gweld gradd presenoldeb.

Gweld graddau ac adborth

Yn y panel Manylion a Gwybodaeth, dan Graddio, gallwch adolygu'r hyn a gyflwynoch, yr atebion cywir sydd ar gael, a'ch gradd ac adborth. Os yw'ch hyfforddwr wedi gadael adborth, dewiswch fotwm y swigen siarad i'w weld.

  • Ar gyfer cwestiynau lle dewisoch fwy nag un ateb, gallwch ddewis Dangos yr opsiynau eraill i adolygu'r dewis o atebion.
  • Os oes angen i'ch hyfforddwr raddio cwestiynau yn eich asesiad, mae Heb ei Raddio yn ymddangos.
  • Gall eich hyfforddwr ddewis cuddio atebion cywir cwestiynau a farcir yn awtomatig nes bod pob myfyriwr wedi cyflwyno ei waith. Bydd baner yn ymddangos ar frig yr asesiad gyda’r wybodaeth hon. Ewch yn ôl nes ymlaen i weld a chafodd yr atebion eu datgelu.
  • Mae rhaid i’ch hyfforddwr raddio rhai mathau o gwestiynau â llaw megis Traethodau, ac wedyn cyhoeddi gradd ac adborth yr asesiad. Mae'ch graddau hefyd yn ymddangos ar y tudalennau graddau cyffredinol a rhai'r cwrs.

Rhagor ar opsiynau sgorio cwestiynau

Rhagor ar newidiadau i sgôr cwestiynau

Gweld ymgeisiau ac adborth

Yn y panel Cyflwyniad, gallwch weld pa ymgeisiau sydd â graddau ac adborth. Dewiswch yr ymgais rydych eisiau gweld. Bydd eich cyflwyniad yn agor, a gallwch weld y radd a sut gafodd ei chyfrifo. Gallwch adolygu'ch gwaith ac ehangu'r panel Adborth os gadawodd eich hyfforddwr sylwadau.

Os yw’ch hyfforddwr wedi gadael adborth ar gyfer ymgeisiau lluosog, gallwch ddarllen adborth pob ymgais. Mae neges yn ymddangos os yw'ch hyfforddwr wedi gwrthwneud gradd derfynol yr eitem.

Gallwch hefyd weld sawl ymgais sydd gennych ar y dudalen Graddau Cwrs. Gallwch weld pa gyflwyniadau a gyflwynoch cyn y dyddiad cyflwyno ac a oes unrhyw gyflwyniadau sy'n hwyr neu rai a fydd yn hwyr.

Gweld recordiad o adborth

Gall eich hyfforddwr adael fideo neu recordiad sain gydag adborth ychwanegol ar radd eich asesiad. O'r panel Adborth, dewiswch fotwm y fideo i weld y recordiad.

Seroau a roddwyd i waith gorddyledus

Os yw’ch hyfforddwr wedi’i gosod, mae'n bosibl y byddwch yn gweld seroau ar gyfer gwaith nad ydych wedi'i gyflwyno ar ôl i'r dyddiad cyflwyno fynd heibio. Gallwch dal i gyflwyno ymgeisiau er mwyn diweddaru'ch gradd. Eich hyfforddwr sy'n pennu cosbau gradd ar gyfer gwaith hwyr.

Byddwch yn gweld eich gradd o sero ar eich tudalennau Graddau ac ym mhanel Manylion a Gwybodaeth yr eitem.

Os rydych wedi galluogi hysbysiadau yn y ffrwd am raddau, rhoddir gwybod i chi am y radd o sero yn eich ffrwd gweithgarwch.


Pils graddau

Eich hyfforddwr sy'n pennu sut i ddangos eich gradd ar gyfer pob eitem a raddir:

  • Gradd ar ffurf llythyren
  • Pwyntiau
  • Canran
Grades organized by letter

Mae pilsen radd pob cwestiwn asesiad ac eitem a raddir yn ymddangos mewn lliwiau neu â chefndiroedd tywyll.

Ar gyfer y pils graddau wedi’u lliwio, mae'r amrediad sgôr uchaf yn wyrdd a'r isaf yn goch. Ar yr adeg hon, ni all eich hyfforddwyr newid y lliwiau neu'r canrannau. Mae'r lliwiau yn mapio i'r canrannau hyn:

  • > 90% = gwyrdd
  • 89–80% = melyn/gwyrdd
  • 79–70% = melyn
  • 69–60% = oren
  • 59–50% = coch
Course grades for an individual student

Gall eich sefydliad analluogi’r sgema lliwiau ar gyfer pob cwrs. Mae’r pils graddau yn ymddangos gyda chefndiroedd tywyll a graddau gwyn. Ni ddefnyddir lliwiau i gyfleu perfformiad.

 


Gradd gyffredinol

Mae'r radd gyffredinol yn eich helpu i olrhain sut rydych yn perfformio ym mhob un o'ch cyrsiau. Gallwch weld a ydych ar y trywydd cywir ar gyfer y radd rydych chi ei eisiau neu os oes angen i chi wella.

Os yw'ch hyfforddwr wedi gosod y radd gyffredinol, mae'n ymddangos ar eich tudalen Graddau cyffredinol ac y tu mewn i'ch cwrs ar y dudalen Graddau Cyrsiau. Dewiswch y bilsen gradd i ddysgu mwy am sut mae'n cael ei gyfrifo.

Mae'r panel Gradd Gyffredinol yn dangos i chi sut caiff eitemau a chategorïau eu pwysoli. Er enghraifft, yn seiliedig ar ddewisiadau eich hyfforddwyr, gall profion gyfri am fwy na gwaith cartref neu gwisiau. Mae'r ganran a restrir gyda phob cofnod yn dynodi faint mae'n cyfrannu at gyfrifiad eich gradd gyffredinol.

Os yw'ch hyfforddwr yn penderfynu diystyru'ch gradd gyffredinol, bydd neges yn ymddangos ar dop y panel hwn. Mae'n bosibl y byddwch yn dal i weld gradd yma neu nodiant gradd er mwyn dynodi bod eich cyfranogiad yn y cwrs yn unigryw. Mae enghreifftiau o nodiannau gradd yn cynnwys Eithriedig, Wedi’i Dynnu Allan, ac Anghyflawn. Gall eich hyfforddwr hefyd greu nodiannau personol.


Gwylio fideo am wirio graddau

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.



Fideo: Mae Gwirio graddau yn esbonio sut i wirio'ch graddau yn Blackboard Learn.

Fideo Gwirio graddau