Mae dechrau da yn arwain at ddiwedd da, ac rydych newydd gymryd eich cam cyntaf ar y llwybr tuag at lwyddo mewn dysgu ar-lein.

Gall dysgu ar-lein gynnwys rhyngweithiadau amser real, fel yn Blackboard Collaborate neu Microsoft Teams yn ogystal â rhyngweithiadau sy’n digwydd dros gyfnodau hirach, fel mewn negeseuon neu drafodaethau. Y budd pwysig o ddysgu ar-lein yw’r gallu i bontio amser a phellter. Nid oes rhaid i chi fod yn yr un lle â'ch hyfforddwr i dderbyn gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch cwrs.

Gyda Blackboard Learn, mae gennych fynediad at gynnwys eich cwrs o unrhyw le, ar unrhyw adeg. Gallwch hefyd ryngweithio â’ch cyd-fyfyrwyr a hyfforddwyr.

Gall y cyfarwyddiadau hyn eich helpu i gychwyn arni yn yr amgylchedd ar-lein.


Mewngofnodi

Mae pawb angen yr un tri darn o wybodaeth i gael mynediad:

  • Cyfeiriad gwe safle Blackboard Learn eich sefydliad
  • Eich enw defnyddiwr
  • Eich cyfrinair

Yn y mwyafrif o achosion, mae'r cyfeiriad a roddir gan eich sefydliad yn eich cyfeirio i'r dudalen mewngofnodi. Os ydych yn cael eich cyfeirio at leoliad arall, edrychwch am fotwm mewngofnodi neu ardal arbennig y porth.

Rhagor am fewngofnodi

Os oes gennych broblemau wrth fewngofnodi, cysylltwch â desg gymorth cyfrifiaduron yn eich sefydliad. 

Os nad ydych yn siŵr sut i gysylltu â desg gymorth eich sefydliad, edrychwch am y swyddfa dechnoleg ar wefan eich sefydliad. Gallwch hefyd chwilio ar y we am enw eich sefydliad + Blackboard + help neu cymorth.


Dewiswch sut rydych am i’ch cwrs edrych

Gadewch i ni adnabod pa wedd cwrs sydd gennych—y Wedd Cwrs Gwreiddiol neu’r Wedd Cwrs Ultra. Rhennir ein dogfennaeth gymorth yn ôl pob gwedd ar yr un dudalen, felly beth am ddysgu sut i adnabod pa wedd sydd gennych!

Dod o hyd i'ch cyrsiau

Gwedd Cwrs Gwreiddiol

Mae dyluniad cyrsiau yn amrywio yn seiliedig ar yr hyfforddwr a'r sefydliad, ond mae rhai elfennau cyffredin yn bodoli. Mae eich sefydliad a'ch hyfforddwr yn rheoli pa offer y gallwch eu defnyddio.

Mae dewislen y cwrs yn ymddangos ar ochr chwith eich ffenestr—dyma lle rydych yn cael mynediad at bob darn o gynnwys yn eich cwrs. Dewiswch eitem i'w agor. Mae cynnwys yn ymddangos yn y brif ffenestr ar y dde i ddewislen y cwrs.

Rhestr chwarae fideos: Dechrau arni yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol

Rhagor o wybodaeth am y Wedd Cwrs Gwreiddiol

Gwedd Cwrs Ultra

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, mae enw a llun eich hyfforddwr yn ymddangos. Ar frig y dudalen, gallwch agor yr offer a ddefnyddir yn aml. Dewiswch yr eiconau i wirio calendr y cwrs, i gymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth, cael mynediad at eich graddau ac anfon neges os rhoddir caniatâd i chi wneud hynny.

Wrth i chi agor tudalennau, maent yn agor fel haenau. Caewch yr haenau i ddychwelyd i dudalen flaenorol neu'r rhestr.

Rhestr chwarae fideos: Dechrau arni yn y Wedd Cwrs Ultra

 


Rheoli'ch gwybodaeth

Mae Blackboard Learn yn darparu sawl offeryn i chi er mwyn storio’ch gwybodaeth bersonol, amserlen ac eitemau tasgau. Gallwch hefyd newid eich cyfrinair a phennu'ch opsiynau preifatrwydd.

Mae gan Blackboard Learn galendr y gallwch ei ddefnyddio i recordio dyddiadau pwysig, fel dyddiadau cyflwyno gwaith cartref, digwyddiadau chwaraeon, teithiau, a sesiynau astudio.

Efallai bydd eich hyfforddwr hefyd yn defnyddio'r calendr i helpu i atgoffa pawb am amserau cyfarfodydd y dosbarth, dyddiad cyflwyno gwaith cwrs ac oriau swyddfa.

Rhagor am y calendr


Cyrchu deunyddiau cwrs

Yn eich cyrsiau Blackboard, efallai byddwch yn canfod amrywiaeth o gynnwys, megis darlithoedd ar-lein, cynnwys amlgyfrwng, profion, aseiniadau, a dolenni i wefannau a'r cyfryngau cymdeithasol. Byddwch hefyd yn gallu ychwanegu nifer o fathau o gynnwys at eich trafodaethau, profion, ac aseiniadau. Gallwch hefyd uwchlwytho ffeiliau o storfa cwmwl.

Rhagor am lywio yn eich cyrsiau

Rhagor am y mathau o gynnwys yn eich cyrsiau

Rhagor am ychwanegu ffeiliau, delweddau, fideo a sain


Cyfathrebu

Efallai bydd eich hyfforddwr yn cyfathrebu’n uniongyrchol â chi neu’n anfon cyhoeddiadau a negeseuon at y dosbarth cyfan.

Os oes gan eich cwrs faes llafur, gwiriwch am oriau swyddfa rhithwir eich hyfforddwr a sut i gyfathrebu’n uniongyrchol. 

Trafodaethau

Mewn trafodaethau, gallwch rannu meddyliau a syniadau am ddeunyddiau dosbarth. Nid oes angen i gyfranogwyr fod yn yr un lleoliad neu gylchfa amser, a gallwch gymryd yr amser i ystyried eich ymatebion yn ofalus. Efallai bydd eich hyfforddwyr yn dewis graddio'ch cyfraniadau.

Rhagor am drafodaethau

Negeseuon

Gallwch weld negeseuon ym mhob un o'ch cyrsiau. Os yw’ch sefydliad yn ei ganiatáu, gallwch hefyd greu ac ymateb i negeseuon. Os yw'ch sefydliad yn ei ganiatáu, gallwch chi a'ch hyfforddwyr anfon negeseuon at eich gilydd, at fwy nag un person neu at ddosbarth cyfan gyda nodiadau atgoffa, cwestiynau cyflym a rhyngweithiadau cymdeithasol.

Mae gweithgarwch negeseuon yn aros o fewn y system. Ni allwch weld neu anfon negeseuon y tu allan i'ch cwrs.

Rhagor am negeseuon

Cyhoeddiadau oddi wrth eich hyfforddwr a’ch sefydliad

Mae hyfforddwyr yn defnyddio cyhoeddiadau i rannu gwybodaeth sy’n sensitif ar ran amser a diweddariadau cwrs. Mae gweinyddwyr yn eich sefydliad yn defnyddio cyhoeddiadau i rannu gwybodaeth ar draws y sefydliad fel yr amserlen gwyliau neu ddigwyddiadau arbennig.

Rhagor am gyhoeddiadau

Hysbysiadau

Gallwch ddewis pa hysbysiadau rydych yn eu derbyn am weithgarwch ym mhob un o'ch cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra. 

Rhagor am hysbysiadau


Cyflwyno aseiniadau a phrofion

Wrth i chi fynd ymlaen yn eich cwrs, byddwch yn cwblhau mathau gwahanol o aseiniadau: problemau i'w datrys, cwestiynau pennod i'w hateb, papurau ymchwil, cyflwyniadau, ysgrifennu’n greadigol, ac yn y blaen.

Yn Blackboard Learn, gallwch uwchlwytho'ch ffeiliau a derbyn ffeiliau’n ôl yn haws, ynghyd â’ch gradd ac adborth.

Mae’ch hyfforddwr yn rheoli’r dyddiad pan fydd aseiniad yn barod i chi gael mynediad atynt. 

Rhagor am gyflwyno aseiniadau

Rhagor am raddau aseiniadau

Mae hyfforddwyr yn defnyddio profion i asesu eich gwybodaeth am gynnwys ac amcanion cwrs. Mae'ch hyfforddwr yn pennu gwerthoedd pwyntiau i gwestiynau mewn prawf. Rydych yn cyflwyno'ch prawf i gael ei raddio a chaiff y canlyniadau eu cofnodi.

Rhagor am gymryd profion

Rhagor am raddau profion


Gwirio'ch graddau

Gallwch weld pob darn o waith cwrs a phob gradd ar gyfer un cwrs ar y tro neu ar gyfer pob cwrs o un dudalen.

Efallai bydd eich hyfforddwr yn gadael adborth am eich gwaith ac mae’n bosibl y bydd yn gadael recordiad sain neu fideo ar gyfer gwybodaeth ychwanegol am eich gradd.

Mwy ar raddau

Os yw'ch hyfforddwr wedi pennu graddau presenoldeb, gallwch weld eich gradd presenoldeb gyffredinol a chofnodion manwl. Gall eich hyfforddwyr ddefnyddio'ch gradd presenoldeb fel rhan o radd gyffredinol eich cwrs. Hefyd, mae gan rai sefydliadau a rhaglenni bolisïau presenoldeb sy'n mynnu bod hyfforddwyr yn olrhain nifer y cyfarfodydd dosbarth y mae myfyrwyr wedi'u colli.

Rhagor am raddau presenoldeb


Defnyddio’r ap Blackboard

Cynlluniwyd yr ap Blackboard yn bwrpasol i fyfyrwyr weld cynnwys a chymryd rhan mewn cyrsiau. Mae fersiwn cyfredol yr ap ar gael ar ddyfeisiau symudol iOS ac Android.

Mae'r ap Blackboard yn darparu dull blaengar er mwyn i chi allu rhyngweithio â chyrsiau, cynnwys, hyfforddwyr a myfyrwyr eraill.

Mae ap Blackboard yn dangos y cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt fel myfyriwr yn unig.

Rhagor am yr ap


Olrhain Cynnydd

Cadw llygad ar eich cynnydd mewn cwrs. Bydd olrhain cynnydd yn marcio tasgau, fel profion ac aseiniadau, fel eu bod wedi'u cwblhau ar ôl i chi eu cyflwyno. Gallwch hefyd dicio eitemau â llaw i ddangos eu bod wedi'u cwblhau ar ôl i chi eu cyflwyno neu fodloni'r gofynion.