Llywio syml
Ar ôl mewngofnodi, mae gennych fynediad i'r nodweddion craidd yn y ddewislen Llywio Sylfaenol lle mae'ch enw yn ymddangos. Gallwch fynd yn ôl i'r Llywio Sylfaenol yn hawdd o le bynnag yr ydych - hyd yn oed os rydych mewn cwrs. Mae'r ddewislen hon yn aros fel panel ochr hyd yn oed pan fyddwch mewn cwrs.
Pan fyddwch yn dewis unrhyw ddolen o'r Llywio Sylfaenol, fe welwch wedd gyffredinol ar draws pob un o'ch cyrsiau. Er enghraifft, mae Graddau yn dangos eich sgoriau ar draws pob un o'ch cyrsiau—nid oes rhaid i chi lywio i bob un ar wahân.
Mae eitemau'r ddewislen Llywio Sylfaenol yn cynnwys:
Tudalen y Sefydliad: Dod o hyd i wybodaeth am eich sefydliad.
Proffil: Gwneud newidiadau i'ch persona ar-lein.
Ffrwd Gweithgarwch: Gweld y gweithrediadau diweddaraf ar gyfer eich cyrsiau.
Cyrsiau: Llywio i gyrsiau o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol a hidlo i ddangos y cyrsiau rydych eisiau iddynt ymddangos ar y dudalen Cyrsiau.
Mudiadau: Cael mynediad at y mudiadau rydych yn aelod ohonynt.
Calendr: Gweld digwyddiadau cwrs a dyddiadau dyledus ar gyfer eich cyrsiau.
Negeseuon: Gweld ac anfon negeseuon yn eich cyrsiau.
Graddau: Gwirio'ch graddau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau.
Offer: Cael mynediad i swyddogaethau cyffredinol sydd y tu allan i gwrs.