Gallwch fewngofnodi i Blackboard Learn ar borwr gwe ar eich cyfrifiadur neu o ap symudol.

Porwr gwe

Mae angen tri darn o wybodaeth arnoch i gael mynediad at Blackboard:

  • Cyfeiriad gwe safle Blackboard Learn eich sefydliad
  • Eich enw defnyddiwr
  • Eich cyfrinair

Yn y mwyafrif o achosion, mae'r cyfeiriad gwe yn eich cyfeirio i'r dudalen mewngofnodi. Os ydych yn cael eich cyfeirio at leoliad arall, edrychwch am fotwm mewngofnodi neu ardal arbennig y porth.

Os na allwch ddod o hyd i wefan eich sefydliad, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + Blackboard, neu cysylltwch â’ch desg gymorth TG.

Beth sy'n digwydd ar ôl i fi fewngofnodi?

Mae defnyddwyr newydd yn gweld tudalen groeso sy'n eu gwahodd i greu proffil. Cyn i chi greu proffil, rhaid i chi dderbyn Telerau Defnyddio Proffiliau Blackboard yn y neidlen. Os nad ydych yn cytuno i'r telerau defnydd, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at rai o'r offer. Gallwch ddewis creu proffil yn hwyrach.

Mae defnyddwyr cyfredol yn gweld tab Fy Sefydliad. O'r tab hwn, gallwch gael mynediad at y cyrsiau rydych wedi cofrestru arnynt.

Rhagor am fewngofnodi

Ap symudol

Ap Blackboard i fyfyrwyr: Derbyn diweddariadau symudol am eich cyrsiau, cymryd aseiniadau a phrofion, a gweld eich graddau. Dim ond y cyrsiau ble rydych wedi ymrestru fel myfyriwr sy'n ymddangos yn yr ap hwn.