Gwiriwch a yw'ch porwr gwe'n gweithio'n dda gyda'ch fersiwn o Blackboard Learn.

Pan fyddwch yn defnyddio darllenydd sgrin, defnyddiwch ChromeTM a JAWS® ar Windows® a defnyddiwch Safari® a VoiceOver ar Mac® . Ewch i Hygyrchedd i ddysgu mwy am ymagwedd Blackboard at feddalwedd hygyrch.

Porwyr a gefnogir

Ar gyfer Blackboard Learn, mae Anthology yn cefnogi porwyr bwrdd gwaith a symudol Google Chrome™, Mozilla® Firefox®, Apple® Safari®, a Microsoft® Edge®. Bydd pob un o'r porwyr hyn yn gweithredu diweddariadau'n awtomatig ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddwyr. Mae Anthology yn gwneud pob ymdrech i gefnogi'r fersiynau mwyaf diweddar ar ôl iddo gael ei ryddhau. Ar gyfer y porwyr hyn a gefnogir, dyma'r fersiynau a gefnogir:

  • Google Chrome™, y fersiwn sefydlog diweddaraf a'r ddau fersiwn blaenorol.
  • Mozilla® Firefox®, y fersiwn sefydlog diweddaraf a'r ddau fersiwn blaenorol.
  • Apple® Safari® ar gyfer MacOS ac iOS, y ddau fersiwn mawr diweddaraf.
  • Microsoft® Edge®, y fersiwn sefydlog diweddaraf a'r ddau fersiwn blaenorol

Rhedwch y gwirydd porwr i weld a yw Blackboard Learn yn cefnogi eich porwr.

Nid oes angen unrhyw ategion porwr penodol i ddefnyddio Blackboard Learn, er efallai bydd angen defnyddio ategion i weld cynnwys a ychwanegwyd. I ddysgu mwy am bolisi cyffredinol Blackboard ar gefnogi porwyr yn ogystal â gwybodaeth am Javascript, Cwcis a meddalwedd arall, gweler y Polisi Cefnogi Porwyr.

Mae diweddariadau diweddar i sawl porwr wedi cynnwys newidiadau i sut mae'r porwr yn trin cwcis trydydd parti. Efallai bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar offer gan ddarparwyr eraill sy’n integreiddio â Blackboard Learn. Os oes gennych broblemau wrth gyrchu offeryn wedi’i integreiddio ar ôl diweddaru eich porwr, golygwch osodiadau eich porwr i ganiatáu i wefannau gadw a darllen data cwcis. Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau ar gyfer Chrome, Safari, Firefox, ac Edge ar-lein.


Cefnogi porwr symudol ar gyfer y Wedd Cwrs Gwreiddiol a'r Profiad Gwreiddiol

Nid yw rhai rhyngwynebau defnyddiwr yn Blackboard Learn wedi'u diweddaru eto i fod yn hollol ymatebol ar gyfer dyfeisiau llaw. Mae'r rhyngwynebau hyn yn cynnwys yr ardaloedd canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Adroddiadau a rheoli arolygon Enterprise
  • Adroddiadau nodau a rheolwr nodau
  • Casgliad o Gynnwys
  • Nodweddion Asesu Canlyniadau

Fel arall, cefnogir porwyr symudol yn y Profiad Gwreiddiol os yw Thema Learn 2016 neu ddiweddarach yn cael ei defnyddio. Ni chefnogir themâu hŷn na themâu personol ar borwyr symudol, er y bydd rhai defnyddwyr yn gallu eu defnyddio'n llwyddiannus. Ar gyfer cleientiaid SaaS sydd wedi galluogi'r Llywio Sylfaenol, cefnogir y Wedd Cwrs Gwreiddiol ar borwyr symudol hefyd.

Mae Ap Blackboard a Blackboard Instructor yn apiau cynhenid a gefnogir ar gyfer dyfeisiau symudol a thabledi sy’n rhyngweithio â gweinyddion Blackboard Learn. Efallai fod gan yr apiau hyn eu gofynion eu hunain ar gyfer dyfeisiau.


Cefnogaeth porwr Analytics for Learn

Mae adroddiadau Analytics for Learn sy'n ymddangos o fewn rhyngwyneb Learn yn cael eu cefnogi yn yr un porwyr â Learn.

Mae Analytics for Learn yn cyflwyno adroddiadau a phatrymau gweledol gan ddefnyddio offer gwybodaeth busnes trydydd parti o bartneriaid Anthology, yn benodol Microsoft (Gwasanaethau Adroddiadau) ar gyfer adroddiadau planedig a Pyramid (Pyramid BI Office) ar gyfer creu dangosfyrddau. Mae gan y cynnyrch hwn eu hymrwymiadau eu hunain i gefnogi porwyr, ac maent yn destun newid yn seiliedig ar benderfyniadau cynnyrch a wneir gan ein partneriaid.


Gwylio fideo am y Gwirydd Porwyr

Mae'r fideo canlynol â sylwebaeth yn rhoi cynrychiolaeth weledol a chlywedol o rywfaint o'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y dudalen hon. I gael disgrifiad manwl o'r hyn sy'n cael ei bortreadu yn y fideo, agorwch y fideo ar YouTube, llywiwch i Mwy o weithredoedd, a dewiswch Agor trawsgrifiad.

Fideo: Tudalen Gwirydd Porwyr yn Help Blacboard