Mewn astudiaeth o fyfyrwyr ar-lein coleg cymunedol o 2001 i 2010 (Fetzner, 2013), nododd myfyrwyr y tri phrif reswm canlynol pan nad oeddent yn llwyddo yn eu cyrsiau ar-lein:

  1. Roeddwn ar ei hôl hi ac roedd yn rhy anodd dal i fyny.
  2. Roedd gennyf broblemau personol—iechyd, swydd, gofal plant.
  3. Nid oeddwn yn gallu ymdopi ag astudio ynghyd â chyfrifoldebau gwaith neu deulu.

Peidiwch â gadael i hyn ddigwydd i chi! Defnyddiwch yr awgrymiadau hyn i ysgrifennu eich stori eich hun o lwyddiant!


Cadwch i fyny

Peidiwch â chaniatáu i'ch hun feddwl, "Gallaf ddal i fyny yn ddiweddarach." Dyfalbarhewch a chadwch ar y blaen. Byddwch yn drefnus iawn er bod gennych o bosibl hyblygrwydd ychwanegol yn eich cyrsiau ar-lein.

Mynnwch gipolwg. Os gynigir "wythnos rhagflas" cyn i'ch cwrs ar-lein gychwyn, darllenwch y maes llafur, adolygwch yr amserlen ac ymarferwch lywio yn Blackboard.

Crëwch galendr meistr. Argraffwch amserlen a maes llafur y cwrs a nodwch y dyddiadau cyflwyno, gan gynnwys yr amser o'r diwrnod a rhanbarthau amser, ar galendr meistr. Gall eich prif galendr fod yn gopi digidol neu galed, p'un bynnag sydd y mwyaf defnyddiol i chi.

Defnyddiwch yr offer sy'n gynwysedig. Ychwanegir eitemau cwrs sy’n cael eu graddio megis profion, aseiniadau, a thrafodaethau a raddir yn awtomatig at galendr Blackboard. Gallwch hyd yn oed fewngludo eich calendr cwrs i mewn i galendrau allanol fel Google Calendar. Defnyddiwch Fy Blackboard bob dydd—gallwch weld nodiadau atgoffa am ddyddiadau dyledus a hysbysiadau eraill yn Diweddariadau, gohebiaeth cwrs yn Cyhoeddiadau, a'ch sgorau diweddaraf yn Fy Ngraddau.

Marcio ac olrhain eich cynnydd. Defnyddiwch olrhain cynnydd i ddilyn pa gynnwys cwrs rydych wedi'i gwblhau a pha gynnwys y mae angen i chi eu cwblhau. Mae'r offeryn hwn:

  • Yn marcio'r tasgau rydych wedi'u cyflwyno megis profion ac aseiniadau fel eu bod wedi'u cwblhau yn awtomatig.
  • Yn eich galluogi i wirio'r cynnwys rydych wedi'i orffen ac wedi'i farcio fel ei fod wedi'i orffen.

Mewngofnodwch yn gynnar ac yn rheolaidd. Ar gychwyn pob wythnos neu uned, adolygwch weithgareddau'r cwrs a'r aseiniadau sy'n ddyledus yr wythnos honno. Os oes gennych gwestiynau, dylech eu gofyn yn gynnar yn yr wythnos fel y gallwch gwblhau'r gwaith mewn pryd o hyd.

Disgwyliwch anawsterau technegol. Storiwch rif ffôn ac URL desg gymorth eich ysgol ar eich ffôn ac ar ddarn o bapur. Gwnewch yn siŵr y gallwch dderbyn cymorth technegol hyd yn oed os nad yw'ch cyfrifiadur yn gweithio. Gan fod modd i chi gael mynediad at eich cwrs Blackboard o unrhyw gyfrifiadur neu ddyfais sydd â chysylltiad â'r we, nid yw cael problemau cyfrifiadurol fel arfer yn rheswm derbyniol am waith hwyr. Sicrhewch fod gennych fodd arall o gwblhau eich gwaith—labordy cyfrifiaduron neu liniadur ffrind. Os oes angen cyfarwyddiadau arnoch am ddefnyddio offeryn Blackboard, defnyddiwch help.blackboard.com.

Os ydych yn cwympo ar ei hôl... ac nid oes modd i chi gadw i fyny gyda'ch cwrs er gwaethaf eich ymdrechion gorau, gofynnwch i'ch hyfforddwr am gymorth cyn gynted â phosib.


Cynlluniwch ar gyfer y pethau annisgwyl

Mae pob myfyriwr yn dioddef problemau personol ar ryw adeg. Y gwahaniaeth rhwng trechu'r problemau hynny'n llwyddiannus a methu yw sut rydych yn rhagweld ac yn delio â digwyddiadau annisgwyl bywyd.

Cyfathrebwch â'ch hyfforddwr. Os oes gennych argyfwng o natur bersonol, cysylltwch â'ch hyfforddwyr cyn gynted â phosib er mwyn rhoi gwybod iddynt am y sefyllfa. Cadwch mewn cysylltiad, hyd yn oed pan nad oes gennych broblemau.

Derbyn cymorth. Mae colegau yn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau myfyrwyr, megis cwnsela a chynghori, felly defnyddiwch y swyddfeydd hyn a gofynnwch am gymorth gydag unrhyw broblemau personol.

Crëwch glustog. Yn aml, nid mater yw hi o "os" fydd materion o natur bersonol yn effeithio ar eich gwaith academaidd, ond "pryd" y byddant yn digwydd. Cynlluniwch o flaen llaw a gadael digon o amser bob wythnos er mwyn i chi allu cwblhau eich gwaith cwrs wythnosol hyd yn oed os bydd argyfyngau personol yn codi.

Mae rheoli amser yn allweddol. Defnyddiwch sgiliau rheoli amser a chynllunio da er mwyn i chi beidio â gadael eich gwaith academaidd i'r funud olaf. Defnyddiwch y calendr ac offer My Blackboard a osodwyd, y soniwyd amdanynt yn yr adran flaenorol, i flaenoriaethu tasgau.


Gwnewch eich gwaith cwrs yn rhan o'ch bywyd

Mae angen i chi roi ychydig o ymdrech er mwyn cael cydbwysedd rhwng yr ysgol a'ch cyfrifoldebau eraill, ond mae hyn yn rhywbeth y gallwch ei wneud!

Gosodwch nodau. Datblygwch amcanion academaidd hir dymor a thymor byr, gyda therfynau amser, i gwblhau eich gwaith. P'un ai eich nod yw cwblhau gradd, tystysgrif, neu astudio ychydig o gyrsiau ar gyfer cynnydd personol neu broffesiynol, cynlluniwch y cyfnod y bydd yn ei gymryd i gwrdd â'ch nod wrth ddelio â'ch cyfrifoldebau eraill. Peidiwch ag ymrestru ar gyfer mwy o gyrsiau nag y gallwch ymdopi â hwy.

Integreiddio calendrau personol a chwrs. Datblygwch restr tasgau a chalendr meistr, ar ffurf ddigidol neu gopi caled, pa bynnag un sydd haws i chi ei defnyddio. Byddwch yn gweld y "darlun mawr" o'ch holl ddyddiadau cyflwyno academaidd ynghyd â chyfrifoldebau teuluol ac yn y gwaith. Os ydych yn gweld o flaen llaw bod wythnos benodol yn llawn o gyfrifoldebau, cynlluniwch i gwblhau eich gwaith academaidd mewn da bryd fel y gallwch gwrdd â therfynau amser eich cwrs.

Gallwch fewngludo calendr cwrs Blackboard i mewn i raglenni calendr allanol.


Ffynhonnell

Fetzner, M. (2013). What Do Unsuccessful Online Students Want Us To Know? JALN 17(1), 13-27.

Cyfrannwr

Marie Fetzner, Ed. D. | Monroe Community College | Rochester, NY