Mae Blackboard wedi ymrwymo i ddefnyddioldeb a hygyrchedd pob un o'n cynhyrchion a gwasanaethau. I gyd-fynd â'n traddodiad cryf o arweinyddiaeth ym maes hygyrchedd, mae ein cynhyrchion wedi'u dylunio a'u datblygu'n gyffredinol gan ystyried Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) a gydnabyddir yn rhyngwladol yn ogystal ag Adran 508 Deddf Adsefydlu 1973, fel y'i diwygiwyd. Mae Blackboard yn gwneud pob ymdrech i gwrdd â meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 Lefel AA a gydnabyddir yn fyd-eang ac yn cynnal profion hygyrchedd trydydd parti ar gyfer ei gynhyrchion i asesu a ydynt yn cydymffurfio â safonau'r diwydiant.

Mae'r holl ddogfennau ar gael yn y Saesneg yn unig.

Cydymffurfiaeth hygyrchedd: Blackboard Learn gyda'r profiad Ultra

Rhagor am ymrwymiad Blackboard at hygyrchedd

Anfonwch unrhyw gwestiynau a phryderon at [email protected].


Ynglŷn â strwythur tudalennau Blackboard Learn

Mae strwythur pennawd rhesymegol yn ei le i strwythuro'r dudalen yn iawn a chaniatáu i ddefnyddwyr lywio gan ddefnyddio penawdau. Defnyddir penawdau'n gyson drwy'r rhaglen. Mae hyn yn galluogi'r defnyddwyr i ddeall strwythur unrhyw dudalen yn y rhaglen yn gyflym, a symud i adran briodol y dudalen neu eitem gynnwys yn hawdd.

Fel sy'n ofynnol, darperir H1 unigol i nodi'r dudalen y mae'r defnyddiwr yn edrych arni. Yn Blackboard Learn, teitl y dudalen, er enghraifft "Dogfennau'r Cwrs" yw'r H1 bob tro.

Defnyddir penawdau H2 i amlinellu prif adrannau tudalen. Cuddir y penawdau hyn ac maent yn caniatáu i ddefnyddwyr darllenydd sgrin neidio'n uniongyrchol i brif adran pob tudalen. Er enghraifft, mae gan dudalen cwrs ddau bennawd H2: un ar gyfer dewislen y cwrs ac un ar gyfer y prif gynnwys a leolir yn syth uwchben y bar gweithredu ar y dudalen cynnwys.

Defnyddir penawdau H3 yn nodweddiadol fel teitl eitemau cynnwys neu elfennau cynnwys allweddol ar dudalen. Er enghraifft, mae teitl aseiniad ar dudalen "Dogfennau'r Cwrs" yn H3 er mwyn i'r defnyddiwr ei ganfod yn hawdd.

I leihau'r gorlenwi gweledol ar dudalen, cuddir nifer o elfennau nes eu bod yn derbyn naill ai ffocws llygoden neu fysellfwrdd. Ar ôl rhoi ffocws, mae'r elfennau hyn yn dod yn weithredol ac yn dilyn modelau rhyngweithio bysellfwrdd nodweddiadol.

Fframiau a dynnir ac a ddisodlir gyda DIVs a iFrames

Mae newidiadau technegol i’r prif ddull llywio yn Blackboard Learn yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr a nam ar eu golwg i lywio.

Mae fframiau wedi eu tynnu'n llwyr o'r rhaglen Learn ac wedi cael eu hailosod gyda DIVs ac iFrames sy'n cydymffurfio â HTML5. Mae'r newid hwn yn gwella'r broses o argraffu tudalennau, hygyrchedd a llywio tudalennau.

Mae’r newid yn golygu gwell hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin ble mae angen nodi lleoliad tudalen, llywio a theitlau tudalennau.


Arwyddnodau

Dynodir arwyddnodau'n seiliedig ar (Gyfres o Raglenni Rhyngrwyd Cyfoethog Hygyrch) Mae ARIA yn diffinio ffordd i wneud cynnwys gwe a rhaglenni'n gwe fwy hygyrch i bobol ag anableddau. Ymhlith y tirnodau yn Blackboard Learn mae:

  • rhaglen
  • baner
  • cyflenwol
  • gwybodaeth ar gynnwys
  • dewislen y cwrs
  • yr ardal gynnwys
  • ffurf
  • prif
  • llywio
  • chwilio

Llywio â bysellfwrdd yn Blackboard Learn

Defnyddir rhyngweithiadau bysellfwrdd safonol trwy gydol Blackboard Learn i symud rhwng dewislenni, agor dewislenni a dewis eitemau o fewn dewislen. Mae patrymau llywio bysellfwrdd yn wahanol mewn gwahanol borwyr (Internet Explorer, Firefox, Safari, Chrome), ond mae'r rhyngweithio o fewn unrhyw borwr arbennig yn gyffredin ac yn gyson. Yn yr adrannau isod, defnyddir nodiadau i ddynodi ble gallai rhyngweithiadau fod yn wahanol rhwng gweddau profiad a chwrs yn Blackboard Learn.

Os ydych chi'n defnyddio Mac gyda Firefox neu Safari ac yn cael anhawster llywio wrth ddefnyddio eich bysellfwrdd, adolygwch a diweddarwch eich system weithredu a gosodiadau eich porwr. Mae hyn yn sicrhau eu bod wedi eu ffurfweddu'n iawn ar gyfer llywio bysellfwrdd. I ddysgu mwy, darllenwch y wybodaeth hon:

Llywio â bysellfwrdd o fewn y golygydd cynnwys

Mae’r golygydd cynnwys yn Blackboard Learn yn seiliedig ar dechnoleg trydydd parti gan TinyMCE. Mae’n darparu rheolyddion hygyrch, yn ogystal â llwybrau byr allweddell ar gyfer fformatio cynnwys a grëwyd ynddo. Mae'r golygydd cynnwys yn ymddangos ledled eich cyrsiau, megis pan rydych yn cymryd rhan mewn trafodaeth.

I ddefnyddio'ch bysellfwrdd i neidio i far offer y golygydd, pwyswch ALT + F10. Ar Mac, pwyswch Fn + ALT + F10. Defnyddiwch fysellau'r saethau i ddewis opsiwn, megis rhestr â bwledi.

Llwybrau byr cyffredinol ar y bysellfwrdd

Mae llwybrau byr cyffredinol ar y bysellfwrdd wedi eu sefydlu ar gyfer camau cyffredin yn Blackboard Learn.

  • Tab: Llywio dolenni, meysydd ac opsiynau ar y dudalen.
  • Shift + Tab: Llywio i ddolenni, meysydd ac opsiynau blaenorol.
  • Enter: Dewis dolen, swyddogaeth, galluogi opsiwn ac ehangu adran wedi'i chwympo.
  • Bylchwr: Dewis neu newid opsiynau.
  • Saethau i fyny ac i lawr: Agor cwymplenni sy'n defnyddio swyddogaeth Defnyddio neu Iawn i alluogi opsiwn. Gallwch lywio'r dewisiadau gyda'r saethau i fyny ac i lawr.
  • Agor cwymplenni sydd HEB swyddogaeth Defnyddio neu Iawn: Tabiwch i'r gwymplen a phwyso Enter i'w agor. Defnyddiwch Alt/Option a'r saethau i fyny ac i lawr i ddewis opsiwn.

Tudalen gynnwys

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, gallwch ddefnyddio'ch bysellfwrdd i symud eitem i leoliad newydd, i symud eitem i mewn i ffolder ehangedig, ac i symud ffolder i mewn i ffolder ehangedig arall. Gallwch gael dwy lefel o ffolderi yn unig.

  1. Tabiwch i eicon symud yr eitem.
  2. Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
  3. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
  4. Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.

Darllenwyr sgrin

Er mwyn cael y profiad gorau gyda’ch darllenydd sgrin, defnyddiwch ChromeTM a JAWS® ar system Windows®, a defnyddiwch Safari® a VoiceOver ar Mac®.

Mae Blackboard Learn wedi creu Tiwtorial Darllenyddion Sgrin i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr sy'n defnyddio'r rhaglen trwy ddarllenydd sgrin i'w helpu i ddefnyddio'r system yn llwyddiannus.


Fformiwlâu mathemateg y golygydd cynnwys

Mae WIRIS yn darparu'r gallu i olygu fformiwlâu mathemateg yn y Golygydd Cynnwys a gyflwynwyd yn SP 10. Yn SP 10, daeth ategyn WIRIS ar ffurf Java Applet. Roedd hynny'n golygu na fod y gallu i olygu fformiwlâu mathemateg ar gael ar blatfformau nad oedd yn gallu cefnogi Java. Yn SP 12, mae golygydd WIRIS yn seiliedig ar JavaScript, gan dynnu'r ddibyniaeth ar Java a galluogi'r gallu llawn i olygu fformiwlâu mathemateg ar blatfformau sy'n methu rhedeg Java mewn porwyr, gan gynnwys iOS. Nid yw swyddogaeth golygydd math WIRIS ar gael ar bob llwyfan sy'n gallu rhedeg porwr sy'n gweithio gyda JavaScript.

Wrth symud o olygydd anhygyrch sy'n seiliedig ar raglennig i olygydd sy'n seiliedig ar JavaScript, mae hyn yn gwella hygyrchedd.


Offer rhyngweithiol

Rydym wedi gwella defnyddioldeb ein holl offer rhyngweithiol (byrddau trafod, wikis, blogiau a dyddlyfrau). Mae pob rhyddhad yn cyflwyno gwelliannau defnyddioldeb i bawb, yn enwedig y cwsmeriaid hynny sy'n defnyddio technoleg cynorthwyol. Mae'r profiad newydd o ddarllen trywydd yn syml gyda thechnoleg darllenydd sgrin. Rydym hefyd wedi tynnu'r gorlenwi gweledol ar y dudalen, felly mae llai o bethau i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin a phobl sydd ond yn defnyddio'r bysellfwrdd eu didoli wrth lywio trwy'r rhyngwyneb.

I ddysgu mwy am ymrwymiad Blackboard at hygyrchedd, ewch i wefan Blackboard.


*Mae datganiadau parthed ein mentrau datblygu cynnyrch, yn cynnwys cynnyrch newydd ac uwchraddiadau cynnyrch, diweddariadau neu welliannau yn y dyfodol yn cynrychioli ein bwriadau presennol, ond gellir eu haddasu, oedi neu adael heb rybudd blaenorol ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd cynnig, uwchraddiad, diweddariad neu swyddogaeth o’r fath ar gael oni bai a nes eu bod wedi eu darparu i’n cwsmeriaid.