Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Mae "Ultra" yn disgrifio trawsnewidiad y rhyngwyneb a'r llifoedd gwaith.

Cymerwch olwg arno! Mae rhyngweithiad greddfol, llyfn yn ein dyluniad modern yn hawdd ac yn hwylus i'w defnyddio.

Defnyddiwch unrhyw ddyfais! Gyda'n dyluniad ymatebol, mae'r rhyngwyneb yn addasu i ffitio unrhyw gyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar.

Peidiwch â cholli unrhyw beth yn eich cyrsiau. O'r ffrwd gweithgarwch, fe welwch restr o bopeth sydd wedi digwydd ym mhob un o'ch cyrsiau. Dewiswch eitem i weld mwy!

Golwg newydd i'r cyrsiau. Efallai bydd gennych gymysgedd o gyrsiau yng Ngwedd Cwrs Ultra a'r Wedd Cwrs Wreiddiol. Bydd y ddwy wedd gwrs yn ymddangos yn eich rhestr o gyrsiau heb fawr o drafferth.


Oes Ultra gennyf i?

Mae gennych brofiad Ultra os yw'ch enw yn ymddangos yn y panel ar y chwith yn eich ffenestr ar ôl i chi fewngofnodi. Gallwch lywio i nodweddion craidd y tu allan i'ch cyrsiau o'r rhestr.

Pan fyddwch yn dewis unrhyw ddolen o'r rhestr, gwelwch wedd gyffredinol ar draws pob un o'ch cyrsiau. Cael mynediad at y calendr cyffredinol sy'n cipio dyddiadau dyledus ym mhob un o'ch cyrsiau a'r dudalen graddau cyffredinol sy'n dangos eich holl raddau wedi'u trefnu yn ôl cwrs.

Gallwch weld y rhestr hon wrth i chi symud o dudalen i dudalen - hyd yn oed pan rydych mewn cwrs. Wrth i chi agor tudalennau, maent yn agor fel haenau. Caewch yr haenau i ddychwelyd i dudalen flaenorol neu'r rhestr.

Bydd profiad Ultra yn edrych yr un fath ym mhob sefydliad, gan gynnwys eich un chi.

 

Mae fy un i'n edrych yn wahanol

Os nad ydych yn gweld y newidiadau, mae gennych Blackboard Learn gyda'r profiad Gwreiddiol. Gallwch lywio i ardaloedd eraill y system o'r tabiau ym mhennyn y dudalen.

Efallai bydd gan eich rhyngwyneb liwiau, logos, tabiau, offer ac enwau sy'n benodol i'ch sefydliad. Er enghraifft, gall eich sefydliad ailenwi tab Fy Sefydliad i gyd-fynd ag enw eich sefydliad neu dynnu tab neu ddarn o offer yn gyfan gwbl.