I adeiladu cymuned ar-lein lwyddiannus, mae angen yr offer ar fyfyrwyr i ryngweithio a chynnal sgyrsiau. Trwy sgwrs, rydym yn dysgu am ein gilydd, ein hunain, y pwnc, sut i fynd yn ein blaen, a gwneud penderfyniadau grŵp. Er bod amser a daearyddiaeth yn cyfyngu ar beth o'n sgyrsiau, mae grym y cysylltiad gan ddefnyddio technolegau sgwrs amrywiol yn adeiladu cymuned.

Mae myfyrwyr yn adrodd bod eu boddhad ar gyrsiau ar-lein yn gysylltiedig â phresenoldeb hyfforddwyr a'r cydweithio ac ymdeimlad o gymuned y maent yn eu profi. Mewn cymuned ddysgu ar-lein lwyddiannus, mae myfyrwyr yn cefnogi ei gilydd ac yn helpu ei gilydd i gyflawni'r hyn na fyddent wedi ei wneud ar eu pen eu hun. Pan fydd y myfyrwyr yn rhyngweithio ac yn cyfeirio eu hymdrechion tuag at nod gyffredin, mae cydweithio'n bobli.

Mae Blackboard Learn yn cynnig pedwar offeryn cyfathrebu ar gyfer hunan-fyfyrio, cydweithio, a chyfathrebu. Mae'r bwrdd trafod a dyddlyfrau yn caniatáu i chi ddarparu aseiniadau cyfoethog ac arfarnu myfyrwyr mewn ffyrdd dilys lle gall myfyrwyr rannu a chreu gwybodaeth.

Gall pob un o'r pedwar offeryn rhyngweithio wasanaethu pwrpasau arbennig. Gallwch ddefnyddio un ohonynt neu'r cyfan yn eich cwrs, a gallant weithio'n dda wedi eu cyfuno. Dewiswch yr offer sy'n bodloni nodau eich cwrs a chaniatewch i fyfyrwyr ryngweithio yn y ffyrdd mwyaf effeithlon.

Defnyddiau a awgrymir

Yn y tabl hwn, dewch o hyd i ddefnyddiau awgrymedig ar gyfer yr offer i'ch helpu penderfynu sut y gallent chwarae rôl yn eich cwrs. Wrth i chi symud trwy'r rhestr o offer, mae'r lefel ofynnol o ryngweithiad gan eich myfyrwyr yn cynyddu.

Defnyddiau awgrymedig ar gyfer offer rhyngweithiol

Dyddlyfrau

Gall myfyrwyr fynegi eu meddyliau, cwestiynau a phryderon i chi'n breifat.

Enghreifftiau:

  • Gofynnwch i fyfyrwyr gofnodi arsylwadau.
  • Cwestiynwch y cynnwys.
  • Nodwch feysydd ar gyfer help.
  • Datblygwch gynllun ar gyfer gwella.
  • Gosodwch nodau.
  • Arfarnwch eu teithiau addysgol.
  • Cyflwynwch gynysgrifennu ar gyfer aseiniad a raddir ar gyfer arweiniad ac adborth.

Trafodaethau

Gall myfyrwyr fynegi eu syniadau, gan gasglu adborth a help gyda mireinio eu barn a chynlluniau.

Enghreifftiau:

  • Postiwch syniadau am brosiectau a phapurau, a gofynnwch i gyd-fyfyrwyr am eu barn.
  • Rhannwch fyfyrdodau cychwynnol am bwnc cyn iddo gael ei drafod mewn manylder mewn blogiau unigol.
  • Trafodwch syniadau am brosiect wiki.
  • Mynegwch farn i helpu i rannu myfyrwyr yn grwpiau gwaith.