Gall defnyddwyr greu llifau gwaith i ddiffinio’r tasgau a’r drefn y caiff y tasgau hyn eu gwneud ynddi, gan gynnwys pa ddogfennau ac unigolion fydd yn rhan. Gallwch chi dderbyn hysbysiadau e-bost am y llifau gwaith rydych chi’n rhan ohonynt os ydych chi’n dymuno, i’ch hysbysu pan gaiff tasgau eu neilltuo ichi er enghraifft neu pan fydd y llif gwaith yn mynd ymlaen i’r garreg filltir nesaf.
Caiff llifau gwaith eu rhoi ar waith gan ddefnyddio modelau. Mae model yn gwasanaethu fel y sylfaen i lif gwaith: diffinnir cerrig milltir a gweithredoedd o flaen llaw er mwyn gallu gweithredu llif gwaith yn gyflym a rhwydd. Gall un model gael sawl achos o lif gwaith a gellir ei rannu gyda defnyddwyr rheoli cynnwys eraill. Gall rhannu’r modelau hyn gyda’r rolau priodol mewn sefydliad gynyddu effeithlonrwydd a chywirdeb.
Gall llifau gwaith helpu sefydliadau i strwythuro prosesau busnes cyffredin. Dyma rai enghreifftiau:
- Gall llyfrgellwyr sefydlu prosesau awdurdodi hawlfraint ar gyfer hyfforddwyr a myfyrwyr.
- Gall adrannau TG sefydlu dulliau i ofyn am adnoddau.
- Gall sefydliadau sefydlu gweithdrefnau i ofyn am fynediad i gynnwys cwrs penodol.
- Gall myfyrwyr gydweithio i gwblhau rhai prosiectau dosbarth.
Bydd llifau gwaith i’w gweld yn adran Cydweithio ar ddewislen y Casgliad o Gynnwys. Mae’r tudalennau hyn wedi eu teilwra i bob defnyddiwr, ac maent yn ddangos modelau llif gwaith y defnyddiwr, y llifau gwaith mae’n rhan ohonynt a’r gweithrediadau sydd wedi eu neilltuo iddo.