Modelau llif gwaith

Os yw wedi'i galluogi gan weinyddwr eich sefydliad, gallwch greu model llif gwaith y gellir ei defnyddio sawl tro. Bob tro y defnyddir model, gelwir hyn yn achlysur. Mae model llif gwaith yn debyg i dempled. Pan fyddwch yn anfon copi o'r model i ddefnyddwyr i'w gwblhau, rydych chi'n anfon achlysur o'r model llif gwaith gwreiddiol. Mae un model i bob llif gwaith, ond gellir cael sawl enghraifft.

Cerrig milltir

Mae llifoedd gwaith yn cynnwys cerrig milltir, sy'n helpu i grwpio gweithrediadau a chamau penodol yn y broses. Mae carreg filltir yn darparu strwythur i'r llif gwaith gan ddarparu'r defnyddiwr â nodau llai y gallant eu cyflawni ar y ffordd. Perchnogion llifoedd gwaith yw'r unig rai all ychwanegu cerrig milltir.

Gweithredoedd

Y gweithrediadau yw'r tasgau unigol sydd wedi'u lleoli o fewn cerrig milltir llifoedd gwaith. Mae'r gweithrediadau'n llunio disgwyliadau neu gamau penodol ym mhroses y llif gwaith cyffredinol. Gellir pennu gweithrediadau i ddefnyddiwr unigol neu grŵp. Gall cynllunwyr llif gwaith ychwanegu gweithredoedd at fodel y llif gwaith wrth ei gynllunio neu pan fydd ar waith, ar yr amod bod y weithred yn cael ei hychwanegu at garreg filltir sydd heb ddechrau.

Nid yw model yn gyflawn a ni ellir ei gychwyn nes ei bod yn cynnwys o leiaf un weithred.


Creu Model Llif Gwaith Tudalen Fy Modelau

Gallwch ddod o hyd i fodelau llif gwaith ar dudalen Creu Model Llif Gwaith: Fy Modelau. I gael mynediad at y dudalen hon, dewiswch Creu Model Llif Gwaith neu Dylunio Modelau Llif Gwaith o ddewislen Cydweithio yn y Casgliad o Gynnwys. Mae'r dudalen hon yn cynnwys y swyddogaethau canlynol:

  • Creu Model - Dewiswch yr opsiwn hwn i greu model newydd.
  • Dangos Modelau - Defnyddiwch y rhestr hon i fireinio'r rhestr o fodelau sy'n ymddangos yn y rhestr. Dewiswch Pob Model, Fy Modelau, neu Modelau a Rennir.
  • Enw - Mae hwn yn dangos enw'r model.
  • Dylunydd - Mae hwn yn dangos enw'r person a greodd y model.
  • Copïo - Dewiswch yr opsiwn hwn i ddyblygu'r llif gwaith a ddewiswyd.
  • Dileu - Dewiswch yr opsiwn i ddileu'r llif gwaith a ddewiswyd yn barhaol.
  • Cychwyn - Dewiswch yr opsiwn hwn i gychwyn y llif gwaith.

Creu model llif gwaith newydd

Nid yw model yn gyflawn a ni ellir ei gychwyn nes ei bod yn cynnwys o leiaf un weithred.

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, dewiswch Creu Model Llif Gwaith.
  2. Dewiswch Creu Model.
  3. Enwch y model a theipiwch ddisgrifiad ym maes Cyfarwyddiadau. Dyma'r cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio'r llif gwaith. Er enghraifft, os mai llif gwaith a rennir yw hwn, gellid defnyddio'r adran hon i esbonio sut dylai eraill ddefnyddio'r llif gwaith hwn. (Mae’r cam hwn yn ddewisol.)
  4. Diffiniwch delerau'r Statws Gweithredu i'w defnyddio yn y model hwn: Ar y Gweill, Cymeradwywyd, a Heb ei Gymeradwyo.
  5. Er mwyn atodi eitemau i'r model, dewiswch Pori'r Casgliad o Gynnwys. Dewiswch ganiatâd ar gyfer yr eitemau a atodwch.
  6. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen Dylunio'r Model, lle gallwch ychwanegu cerrig milltir a gweithrediadau ar gyfer model y llif gwaith.

Ychwanegu carreg filltir

  1. Dewiswch Creu Carreg Filltir.
  2. Enwch y garreg filltir a theipiwch ddisgrifiad.
  3. Dewiswch naill ai Dim Gweithred neu Mynd i'r Garreg Filltir a dewiswch rif carreg filltir i ddiffinio'r carreg filltir i'w ailadrodd os yw wedi'i blocio.
    • Dim Gweithred yw'r sefyllfa ddiofyn; mae'r carreg filltir yn parhau. Nid oes modd i'r llif gwaith fwrw ymlaen heibio'r garreg filltir hon oherwydd bod y weithred hon wedi methu, ond mae modd cwblhau gweithredoedd eraill yn y garreg filltir.
    • Mae Mynd i'r Garreg Filltir yn gorfodi'r llif gwaith i fynd yn ôl i garreg filltir a bennwyd os yw'r garreg filltir hon yn methu. Os yw'r garreg filltir hon yn methu, bydd pob statws o'r adeg hon ymlaen yn dychwelyd i Heb Gychwyn. Bydd yr holl wybodaeth hanes a sylwadau yn aros yn gyflawn.
  4. I atodi eitemau i'r garreg filltir, dewiswch Pori'r. Dewiswch ganiatâd ar gyfer yr eitemau a atodwch.
  5. Dewiswch Cyflwyno ac Ychwanegu Gweithred i ychwanegu gweithred i'r garreg filltir hon neu Cyflwyno a Gorffen i fynd yn ôl i dudalen Dylunio'r Model.

Ychwanegu gweithred

Pan gaiff dogfennau eu cysylltu â llif gwaith ar lefel carreg filltir y llif gwaith, maen nhw'n ymddangos ar lefel gweithrediadau pan gychwynnir llif gwaith.

  1. I ychwanegu carreg filltir, ewch i dudalen Creu Model Llif Gwaith: Fy Modelau.
  2. Dewiswch Adeiladu o ddewislen y model llif gwaith. Yn newislen carreg filltir, dewiswch Creu Gweithred.
  3. Enwch y weithred a theipiwch ddisgrifiad.
  4. Pennwch a yw'r weithred hon yn ofynnol ai peidio trwy ddewis Ie neu Na.
  5. Pennwch ddyddiad cau trwy ddewis Pennu Dyddiad. Defnyddiwch y meysydd dyddiad ac amser i ddewis terfyn amser. Os nad oes angen terfyn amser, dewiswch Dim.
  6. I bennu'r weithredu i ddefnyddwyr penodol, dewiswch Pori i ddewis eu henwau. Gwahanwch enw defnyddwyr lluosog gyda choma.
  7. I bennu'r weithred i gwrs, dewiswch Pori i ddewis cwrs. Gwahanwch gyrsiau lluosog gan ddefnyddio comas.
    • Dewiswch opsiwn Holl Aelodau'r Cwrs i bennu'r weithred i holl aelodau'r cwrs.
    • Dewiswch opsiwn Rolau Penodol a dewiswch rolau o blith y canlynol: Myfyriwr, Gwestai, Cynorthwyydd Dysgu, Hyfforddwr, Adeiladwr Cwrs, a Graddiwr.
  8. Pennu sut caiff y weithred ei chymeradwyo. Dewiswch Gall Unrhyw Gynrychiolydd Gymeradwyo neu Rhaid i Bob Cynrychiolydd Gymeradwyo.
  9. I atodi eitemau i'r weithred, dewiswch Pori'r Casgliad o Gynnwys. Dewiswch ganiatâd ar gyfer yr eitemau a atodwch.
  10. Dewiswch Cyflwyno i orffen y weithred ac ewch yn ôl i dudalen Dyluniad y Model.

Golygu model llif gwaith

Unwaith i chi greu model llif gwaith, gallwch ei olygu. Perchennog model llif gwaith yw'r unig berson all ei olygu. Mae'r addasiadau hyn yn effeithio ar y model gwreiddiol ac unrhyw enghreifftiau a rennir o'r model llif gwaith hwnnw. Nid yw'r addasiadau hyn yn effeithio ar enghreifftiau sy'n bodoli o'r llif gwaith.

Gellir golygu modelau llif gwaith sydd ar waith dim ond ar ôl iddynt gael eu stopio. Ar ôl eu stopio, gall y perchennog olygu unrhyw gerrig filltir sydd heb ddechrau ac unrhyw weithredoedd cysylltiedig.

  1. Yn newislen Cydweithio, dewiswch Dylunio Modelau Llif Gwaith.
  2. Yn newislen y model, dewiswch un o'r tri opsiwn hyn:
    • Dewiswch Golygu i agor y dudalen Golygu, lle gallwch newid labeli enw, disgrifiad a statws y model.
    • Dewiswch Adeiladu i agor tudalen Dyluniad y Model. Gallwch ychwanegu neu ddileu cerrig milltir a gweithrediadau ar y dudalen hon.
    • Dewiswch Rhannu i agor y dudalen Rhannu'r Model Llif Gwaith, lle gallwch ddewis neu newid y gosodiadau rhannu.

Dyblygu model llif gwaith

Gall defnyddwyr gopïo model llif gwaith maen nhw wedi'i greu neu sydd wedi cael ei rannu gyda nhw. Ar ôl i'r model llif gwaith gael ei gopïo, gall y defnyddiwr ei olygu'n briodol.

Os bydd defnyddiwr yn copïo model llif gwaith a rennir, bydd yn dod yn berchennog arno. Mae hyn yn golygu bod modd iddo olygu'r model a'i ailddefnyddio, hyd yn oed os caiff y gwreiddiol ei ddileu o'r system neu'n cael ei ddadrannu ag ef.

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, ewch i dudalen Creu Model Llif Gwaith: Fy Modelau.
  2. Dewiswch y blwch ticio nesaf at y model llif gwaith rydych eisiau ei gopïo.
  3. Dewiswch fotwm Copïo. Bydd copi o fodel y llif gwaith yn ymddangos ar y rhestr.
  4. Gallwch hefyd gael mynediad at yr opsiwn Copïo yn newislen y model llif gwaith.

Caniatadau

Mae modelau llif gwaith yn gallu cynnwys eitemau o'r Casgliad o Gynnwys. Wrth i ddylunydd y model llif gwaith ychwanegu eitemau, maen nhw hefyd yn dewis y caniatâd sydd gan ddefnyddwyr ar gyfer yr eitemau hyn. Rhoddir y caniatâd hwn i ddefnyddwyr am hyd y garreg filltir yn unig. Wedi i'r garreg filltir ddod i ben, caiff y caniatâd unigryw hwn ei dynnu ar gyfer yr eitemau sy'n gysylltiedig â'r garreg filltir.

Caiff y caniatâd a ddewisir eu cymeradwyo pan:

  • Mae defnyddiwr yn dechrau y garreg filltir sy'n cynnwys y weithred.
  • Mae llif gwaith yn cael ei ailgychwyn (ar ôl cael ei stopio).

Caiff y caniatâd a ddewisir eu tynnu yn ôl pan:

  • Mae defnyddiwr yn gorffen y carreg filltir sy'n cynnwys y weithred.
  • Mae llif gwaith yn cael ei stopio.

Os ni ychwanegir ganiatâd at eitem, bydd rhybudd yn ymddangos pan gaiff y llif gwaith ei gyflwyno yn nodi bod dim caniatâd ar gyfer eitem ac yn gofyn i'r defnyddiwr a yw am barhau.

Rhagor am ganiatâd yn y Casgliad o Gynnwys

  1. Yn y Casgliad o Gynnwys, dewiswch Dylunio Modelau Llif Gwaith yn y ddewislen Cydweithio.
  2. Pennwch le i olygu'r eitem o gynnwys:
    • I olygu caniatâd ar gyfer eitem o gynnwys ar lefel y llif gwaith, dewiswch Golygu yn newislen y model llif gwaith.
    • I olygu caniatâd ar gyfer eitem o gynnwys ar lefel y garreg filltir, dewiswch Adeiladu yn newislen y model llif gwaith. Yn newislen y garreg filltir, dewiswch Golygu.
    • I olygu caniatâd ar gyfer eitem o gynnwys ar lefel y weithred, dewiswch Adeiladu yn newislen y model llif gwaith. Yn newislen y weithred, dewiswch Golygu.
  3. Dewiswch Pori'r Casgliad o Gynnwys i ychwanegu eitem o'r Casgliad o Gynnwys at y model.
  4. Dewiswch ganiatâd ar gyfer yr eitem gan ddefnyddio'r blychau ticio.
  5. Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.

Mae modd ymestyn y caniatâd ar gyfer eitemau sy'n gysylltiedig â llif gwaith er mwyn cwblhau'r llif gwaith. Bydd yr estyniadau'n aros mewn grym ar ôl i'r garreg filltir a'r llif gwaith gael eu cwblhau.

Ymestyn y caniatâd ar gyfer eitem yn y llif gwaith

  1. Dewiswch Ymestyn Caniatâd ar gyfer carreg filltir o fewn llif gwaith.
  2. Dewiswch Pori i ddod o hyd i enwau defnyddwyr sydd angen estyniad i'r caniatâd i gael mynediad at eitem.
  3. Dewiswch Pori i greu dolen i eitem o'r Casgliad o Gynnwys.
  4. Ychwanegwch ganiatâd ar gyfer yr eitem.
  5. Dewiswch Cyflwyno.