Gallwch gysylltu eitemau neu ffeiliau'r Casgliad o Gynnwys o ddisg galed leol â llif gwaith, a hynny ar lefelau carreg filltir a gweithred.
Bydd eitemau a gysylltir ar lefel y model llif gwaith hefyd ar gael i bob carreg filltir yn y model. Pan fyddwch yn cysylltu eitem ar lefel y garreg filltir, bydd yr eitem ar gael hefyd ymhob gweithred mewn carreg filltir.
Bydd yr eitemau yn ymddangos yn y model lle cawsant eu cysylltu, ond o ran y llif gwaith, byddant yn ymddangos ar y lefel gweithred.
Dim ond os byddwch yn stopio’r llif gwaith y bydd modd ychwanegu eitemau ato, neu os nad yw gweithrediadau neu gerrig milltir wedi eu dechrau eto.
Mae eitemau a ychwanegwyd i lifoedd gwaith sydd eisoes ar waith yn berthnasol i’r achos hwnnw yn unig.
Cysylltu eitemau'r Casgliad o Gynnwys â llif gwaith.
Lefel Llif Gwaith
- Yn y Casgliad Cynnwys, ewch i dudalen Creu Model Llif Gwaith.
- Ar ddewislen y model llif gwaith, dewiswch Golygu.
- O dan Cynnwys, dewiswch Pori'r Casgliad o Gynnwys i ddod o hyd i’r eitem yr hoffech ei chysylltu.
- Unwaith y byddwch wedi dewis yr eitem, dewiswch Cyflwyno.
- Ticiwch y blychau i roi’r hawl i ddefnyddwyr weld yr eitem.
- Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.
Lefel Carreg Filltir
- Yn y Casgliad Cynnwys, ewch i dudalen Creu Model Llif Gwaith.
- Ar ddewislen y model llif gwaith, dewiswch Adeiladu.
- Dewch o hyd i’r cerrig milltir yr hoffech ychwanegu cynnwys atynt. DewiswchGolygu ar ddewislen y garreg filltir.
- O dan Cynnwys Cysylltiedig, dewiswch Pori'r Casgliad o Gynnwys i ddod o hyd i’r eitem yr hoffech ei chysylltu.
- Unwaith y byddwch wedi dewis yr eitem, dewiswch Cyflwyno.
- Ticiwch y blychau i roi’r hawl i ddefnyddwyr weld yr eitem.
- Dewiswch Cyflwyno pan fyddwch wedi gorffen.
I ychwanegu eitem o'r Casgliad o Gynnwys at y lefel gweithred, dilynwch y camau y byddech yn eu dilyn ar gyfer cerrig milltir, ond dewiswch Golygu ar ddewislen y weithred dan sylw.
Ychwanegu ffeiliau lleol at lif gwaith.
Ydych am ychwanegu ffeil at y llif gwaith, ond nid yw’r ffeil yn y Casgliad o Gynnwys eto? Gallwch uwchlwytho ffeiliau’n uniongyrchol o ffenestr Pori'r Casgliad o Gynnwys os oes hawl gennych i ychwanegu ffeiliau at y ffolder presennol. Wedyn caiff yr eitem ei huwchlwytho i’r Casgliad o Gynnwys, a byddwch yn ei hychwanegu at y llif gwaith, carreg filltir neu weithred yn y dull arferol.