I adeiladu cymuned ar-lein lwyddiannus, mae angen yr offer ar fyfyrwyr i ryngweithio a chynnal sgyrsiau. Trwy sgwrs, rydym yn dysgu am ein gilydd, ein hunain, y pwnc, sut i fynd yn ein blaen, a gwneud penderfyniadau grŵp. Er bod amser a daearyddiaeth yn cyfyngu ar beth o'n sgyrsiau, mae grym y cysylltiad gan ddefnyddio technolegau sgwrs amrywiol yn adeiladu cymuned.
Mae myfyrwyr yn adrodd bod eu boddhad ar gyrsiau ar-lein yn gysylltiedig â phresenoldeb hyfforddwyr a'r cydweithio ac ymdeimlad o gymuned y maent yn eu profi. Mewn cymuned ddysgu ar-lein lwyddiannus, mae myfyrwyr yn cefnogi ei gilydd ac yn helpu ei gilydd i gyflawni'r hyn na fyddent wedi ei wneud ar eu pen eu hun. Pan fydd y myfyrwyr yn rhyngweithio ac yn cyfeirio eu hymdrechion tuag at nod gyffredin, mae cydweithio'n bobli.
Mae Blackboard Learn yn cynnig pedwar offeryn cyfathrebu ar gyfer hunan-fyfyrio, cydweithio, a chyfathrebu. Mae'r bwrdd trafod, blogiau, dyddlyfrau, ac offer wikis yn caniatáu i chi ddarparu aseiniadau cyfoethog ac arfarnu myfyrwyr mewn ffyrdd dilys lle gall myfyrwyr rannu a chreu gwybodaeth.
Gall pob un o'r pedwar offeryn rhyngweithio wasanaethu pwrpasau arbennig. Gallwch ddefnyddio un ohonynt neu'r cyfan yn eich cwrs, a gallant weithio'n dda wedi eu cyfuno. Dewiswch yr offer sy'n bodloni nodau eich cwrs a chaniatewch i fyfyrwyr ryngweithio yn y ffyrdd mwyaf effeithlon.
Defnyddiau a awgrymir
Yn y tabl hwn, dewch o hyd i ddefnyddiau awgrymedig ar gyfer yr offer i'ch helpu penderfynu sut y gallent chwarae rôl yn eich cwrs. Wrth i chi symud trwy'r rhestr o offer, mae'r lefel ofynnol o ryngweithiad gan eich myfyrwyr yn cynyddu.
DyddlyfrauGall myfyrwyr fynegi eu meddyliau, cwestiynau a phryderon i chi'n breifat. Enghreifftiau:
|
TrafodaethauGall myfyrwyr fynegi eu syniadau, gan gasglu adborth a help gyda mireinio eu barn a chynlluniau. Enghreifftiau:
|
WikisGall myfyrwyr greu cynnwys cwrs gyda'i gilydd. Rhannwch fyfyrwyr i mewn i barau neu grwpiau, neu cynhyrchwch waith fel uned dosbarth. Oherwydd bod pob aelod o'r cwrs yn ffynhonnell gwybodaeth y gellir ymddiried ynddi, gall pawb olygu a threfnu'r cynnwys. Enghreifftiau:
|
Cyfuniadau o offer
Mae offer rhyngweithiol Blackboard yn darparu cyfle i chi adeiladu aseiniadau cyfoethog ac yn cynnig dull arall o werthuso myfyrwyr. Gyda'r offer hanfodol hyn, gallwch roi sylwadau, arweiniad, ac asesiad adeiladol i fyfyrwyr. Gallwch hefyd ddefnyddio'r offer gyda'i gilydd i fodloni'ch nodau.
Trafodaethau + wikis
Ar y bwrdd trafod, mae myfyrwyr yn postio'u syniadau ar gyfer aseiniad wiki cwrs. Wrth i fyfyrwyr gyflwyno eu syniadau ac wrth i bostiadau ddatblygu, maent yn cyfyngu'r pwnc ac yn rhannu'r gwaith cyn iddynt drosglwyddo i'r wiki. Yn wiki'r cwrs, mae myfyrwyr yn darparu testun, delweddau a chyfryngau cyfoethog i gefnogi cynnwys y cwrs a'r pwnc maent yn ei dewis yn y bwrdd trafod.
Trafodaethau + dyddlyfrau
Gofynnwch i fyfyrwyr bostio ffynhonnell o'r rhyngrwyd i'r bwrdd trafod sy'n ehangu ar y ddarlith ddiweddaraf. Fodd bynnag, mae cynllunio ar gyfer y pwnc yn dechrau yn yr offeryn siwrnalau lle byddwch yn cynnig arweiniad a chefnogaeth. Helpwch fyfyrwyr i egluro'r prif bwyntiau a gofyn am samplau ysgrifennu cyn iddynt bostio eu syniadau i'r dosbarth cyfan eu darllen a rhoi sylwadau arnynt.