Negeseuon cwrs

Mae negeseuon cwrs yn gyfathrebiadau preifat a diogel seiliedig ar destun sy’n digwydd o fewn eich cwrs a rhwng aelodau’r cwrs.

Er yn debyd i e-bot, rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i gwrs er mwyn darllen ac anfon negeseuon cwrs. Mae gweithgarwch negeseuon yn aros y tu mewn i'r system, ac nid oes rhaid i chi boeni am gyfeiriadau e-bost a allai fod yn anghywir neu'n hen.

Gallwch gael mynediad at negeseuon ar y Panel Rheoli > Offer y Cwrs > Negeseuon y Cwrs neu o ddolen bersonol y gallwch ei hychwanegu at ddewislen y cwrs. Gall myfyrwyr gael mynediad at negeseuon cwrs o’r ddolen bersonol neu o'r dudalen Offer.

Os welwch restr ar y chwith lle mae'ch enw yn ymddangos, gallwch weld ac anfon negeseuon ar gyfer pob un o'ch cyrsiau ar y dudalen Negeseuon.

Os welwch eich enw yn y gornel dde ar frig y dudalen, gallwch gyrchu negeseuon newydd ar gyfer pob un o’ch cyrsiau. Agorwch y ddewislen nesaf at eich enw a dewiswch yr eicon Diweddariadau. Gallwch weld rhestr o hysbysiadau am ddigwyddiadau a gwybodaeth bwysig ym mhob un o'ch cyrsiau a mudiadau.

Pan fyddwch yn derbyn negeseuon cwrs newydd, bydd hysbysiad yn ymddangos yn y modiwl Beth sy'n Newydd ar dab Fy Sefydliad a'r Hafan.

Mae negeseuon sy'n dod i mewn ac yn mynd allan yn cael eu cadw yn negeseuon cwrs yn y ffolderau Mewnflwch ac Anfonwyd. Ni allwch newid enwau'r ffolderau hyn.

 

Os caniateir gan eich sefydliad, gallwch greu ffolderi personol i'ch helpu i drefnu'ch negeseuon cwrs. Yn ddiofyn, ni all defnyddwyr greu ffolderau personol ac ychwanegu atodiadau ffeil.

Gallwch ddileu neges, ond ni ellir dadwneud y weithred hon.

Negeseuon cwrs darllen yn unig ar gyfer myfyrwyr

Mae gan bob sefydliad ddewisiadau a pholisïau cyfathrebu gwahanol. Efallai bydd rhai sefydliadau eisiau cyfyngu sut mae myfyrwyr yn cyfathrebu ag eraill yn eu cyrsiau. Gall eich sefydliad ddewis peidio â chaniatáu i fyfyrwyr ymateb i neu greu negeseuon yn eu cyrsiau. Ni allwch droi'r gosodiad hwn ymlaen a’i ddiffodd yn eich cyrsiau unigol.

Pan fydd y gosodiad hwn wedi’i droi ymlaen, gall myfyrwyr ond ddarllen negeseuon a anfonir atynt gan rolau eraill, megis hyfforddwyr a chynorthwywyr addysgu. Ni fydd modd i fyfyrwyr flaenyrru negeseuon maent yn eu derbyn.

Llif gwaith hyfforddwr

Pan all myfyrwyr ond ddarllen negeseuon cwrs, byddwch yn derbyn hysbysiad wrth greu neges.

Llif gwaith myfyriwr

Pan fydd myfyrwyr yn gweld eu negeseuon cwrs Gwreiddiol, mae’r opsiynau Creu Neges, Ateb, a Blaenyrru wedi’u tynnu.

Ychwanegu dolen negeseuon cwrs i ddewislen y cwrs

Gallwch ychwanegu dolen i ddewislen y cwrs i gael mynediad at negeseuon cwrs ar unwaith. Gallwch hefyd bersonoli enw'r ddolen.

  1. Yn y Modd Golygu, dewiswch yr eicon Ychwanegu Eitem Dewislen uwchben dewislen y cwrs i agor y ddewislen.
  2. Dewiswch Dolen Offeryn a theipiwch enw.
  3. O'r ddewislen Math, dewiswch Negeseuon.
  4. Dewis y blwch ticio Ar Gael i Ddefnyddwyr os ydych yn barod i fyfyrwyr ei weld.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Ar ôl i chi gyflwyno, bydd dolen i negeseuon cwrs yn ymddangos ar ddewislen y cwrs. Gallwch aildrefnu dolenni, a dangos dolenni i, a'u cuddio rhag, myfyrwyr.

Mwy am aildrefnu dewislen y cwrs