Mae trafodaethau ar-lein yn darparu rhai manteision unigryw. Gan fod myfyrwyr yn gallu cymryd amser i ystyried cyn cyhoeddi syniadau, efallai y gwelwch sgyrsiau mwy ystyrlon. Gallwch arsylwi wrth i fyfyrwyr arddangos eu dealltwriaeth o’r deunydd a chywiro gamsyniadau. Gallwch ymestyn eich oriau swyddfa a chysylltu â myfyrwyr yn amlach yn ystod yr wythnos ac felly mae dysgu yn barhaus.

Mae naws o gymuned ymysg myfyrwyr yn allweddol ar gyfer profiad ar-lein llwyddiannus. Gyda’r offeryn bwrdd trafod ar-lein, gall aelodau cwrs ailadrodd y trafodaethau cadarn a gynhelir yn yr ystafell ddosbarth draddodiadol.

Ar gyfer grwpiau cwrs llai, gallwch hefyd gynnig trafodaethau grŵp sydd ar gael i aelodau o'r grŵp yn unig.

Pan fyddwch yn trosi’ch cwrs o’r Wedd Cwrs Gwreiddiol i'r Wedd Cwrs Ultra, gwastateir rhai trafodaethau a thynnir rhai gosodiadau. Dysgu rhagor am y broses trosi.