Mae mudiadau'n ymddwyn fel cyrsiau ac yn cynnwys offer sy'n galluogi aelodau i gyfathrebu'n effeithiol. Gallwch bostio gwybodaeth, cael trafodaethau a rhannu dogfennau. Mae mudiadau’n lle delfrydol i gysylltu â defnyddwyr eraill sydd â diddordebau neu weithgareddau allgyrsiol yn gyffredin. Eich sefydliad sy'n rheoli pwy all greu mudiadau.

Dod o hyd i fudiadau ac ymuno â hwy

Y tro cyntaf i chi fewngofnodi i Blackboard Learn, dewiswch dab Cymuned. Gallwch chwilio am fudiadau neu bori'r rhestr lawn o fudiadau sydd ar gael yn eich sefydliad. Mae rhestr o fudiadau rydych eisoes wedi ymuno â hwy hefyd yn ymddangos ar y dudalen hon.

Ar ôl i chi chwilio neu bori am fudiadau, bydd rhestr o fudiadau sy'n cyfateb ac sydd ar gael yn ymddangos. I ymuno â mudiad sydd ar gael, agorwch ddewislen y mudiad a dewis Ymrestru.

Gallwch ddewis mudiad i weld ei hafan. Rhaid i chi fod yn aelod cyn i chi allu gweld yr holl gynnwys ac offer sydd ar gael mewn mudiad.


Rheoli mudiad

Os ydych yn arweinydd mudiad, gallwch reoli mudiad yn yr un modd ag y byddech yn rheoli cwrs. Mae'r pynciau hyn yn disgrifio sut i reoli cwrs, ond mae'r gwybodaeth hefyd yn berthnasol i fudiadau.

Mwy ar reoli'r offer mae gan aelodau fynediad atynt

Mwy am greu cynnwys

Mwy ar ddefnyddio negeseuon i gyfathrebu ag eraill

Mwy ar reoli ymrestriadau