Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Defnyddiwch offeryn cysylltiadau i ychwanegu gwybodaeth broffil am eich hun a staff arall ar gyfer y myfyrwyr. Gallwch roi gwybodaeth am oriau swyddfa, rhifau ffôn, a chysylltiadau eraill i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'r bobl sydd â rolau pwysig yn eich cwrs.

Gallwch ddefnyddio ffolderi i drefnu'r proffiliau. Er enghraifft, crëwch ffolder cynorthwy-ydd addysgu a neilltuwch bob cyswllt CA iddi.


Creu neu olygu cyswllt

  1. Ar ddewislen y cwrs, dewiswch Offer > Cysylltiadau. Gallwch ddod o hyd i'r dudalen hon drwy fynd i Panel Rheoli > Offer y Cwrs > Cysylltiadau.
  2. Dewiswch Creu Cyswllt. I olygu cyswllt, dewiswch Golygu yn newislen yr eitem.
  3. Ar y dudalen Creu Cyswllt, rhowch y Wybodaeth Proffil angenrheidiol. Mae terfyn 255 nod i'r meysydd Lleoliad y Swyddfa, Oriau Swyddfa, a Nodiadau.
  4. Dewiswch Ie i roi'r proffil ar gael i fyfyrwyr. Os byddwch yn dewis Na, ni fydd dim o'r wybodaeth a roddwyd ar y dudalen hon yn ymddangos i'r myfyrwyr.
  5. Dewiswch Pori i chwilio am ddelwedd i'w hatodi i'r proffil (dewisol). Mae'r ddelwedd wedi'i chynnwys wrth ochr y proffil ar y dudalen Cysylltiadau. Rhaid i faint y ddelwedd fod yn 150 x 150 picsel.
  6. Pe hoffech ychwanegu Dolen Bersonol, teipiwch yr URL ar gyfer hafan cyswllt. Pan fyddwch yn ychwanegu URL, ychwanegwch y cyfeiriad llawn a'r protocol. Er enghraifft, http://www.blackboard.com. Mae'r ddolen hon yn ymddangos gyda'r proffil ar y dudalen Cysylltiadau.
  7. Dewiswch Cyflwyno.

Creu neu olygu ffolder cysylltiadau

  1. A y dudalen Creu Ffolder, dewiswch enw ffolder o'r rhestr neu deipio enw newydd.
  2. Golygu ffolder drwy ddewis Golygu yn newislen y ffolder.
  3. Yn y blwch Testun, teipiwch ddisgrifiad.
  4. Dewiswch Ie i roi'r ffolder ar gael.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Ychwanegu dolen cyswllt i ddewislen y cwrs

Gallwch ychwanegu dolen i ddewislen cwrs fel y bydd yn m ynd i'r teclyn cysylltiadau yn syth. Gallwch hefyd bersonoli enw'r ddolen.

  1. Newidiwch y Modd Golygu i ON a dewiswch yr arwydd plws uwchlaw dewislen y cwrs. Yna bydd y rhestr Ychwanegu Eitem Dewislen yn ymddangos.
  2. Dewiswch Dolen Offeryn a theipiwch enw ar gyfer y ddolen.
  3. O'r rhestr Math, dewiswch Cysylltiadau.
  4. Dewiswch y blwch ticio Ar gael i Ddefnyddwyr.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Mae’r ddolen offeryn newydd yn ymddangos olaf yn y rhestr dewislen cwrs. Gwasgwch a llusgo’r eicon saethau i symud y ddolen i safle newydd. Ewch i ddewislen y ddolen i ailenwi, dileu, neu guddio'r ddolen rhag y myfyrwyr, neu i ganiatáu i westeion ddefnyddio'r ddolen.