Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Siwrnal ar-lein bersonol sy'n cael ei diweddaru'n aml y bwriedir iddo gael ei rannu ag eraill yw blog. Mae gan y mwyafrif o flogiau nodwedd sylwebu, fel y gall pobl ymateb i feddyliau ei gilydd. Mae blogiau'n annog myfyrwyr i fynegi eu syniadau'n glir. Mae blogiau yn ymdrin â'r angen i ehangu agweddau amrywiol ar ddysgu cymdeithasol hefyd. O safbwynt yr hyfforddwr, mae blogiau'n ddull effeithiol o gael mewn welediad i weithgareddau myfyrwyr a darparu modd o rannu'r wybodaeth a deunyddiau a gasglwyd.
Yn Blackboard Learn, mae hyfforddwyr yn creu ac yn rheoli blogiau, a defnyddwyr cofrestredig yn unig all weld a chreu cofnodion a'r sylwadau arnynt. Yn debyg i ddyddlyfrau, gallwch ddefnyddio blogiau am aseiniad graddedig neu gasglu barn a gwybodaeth heb aseinio gradd.
Mathau o flogiau
Mae yna ddwy elfen flog:
- Cofnodion blog: Testun, delweddau, dolenni, amlgyfryngau, cyfryngau cymdeithasol ac atodiadau sydd wedi’u postio gan aelodau'r cwrs.
- Sylwadau: Sylwadau neu ymatebion i gofnodion blog a wnaethpwyd gan aelodau eraill y cwrs, gan gynnwys yr hyfforddwr.
Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr gyfrannu at flogiau mewn tair ffordd:
- Blogiau cwrs: Gallwch greu blog cwrs a dewis y pwnc. Gall pob aelod o'r cwrs ychwanegu cofnodion blog a rhoi sylwadau ar gofnodion blog.
- Blogiau unigol: Gall myfyrwyr ychwanegu cofnodion i'w blogiau eu hun yn unig. Gall pob aelod arall o'r cwrs weld ac ychwanegu sylw iddo.
- Blogiau grŵp: Os ydych chi'n caniatáu offer blog i grŵp o ddefnyddwyr, gallant berfformio'r tasgau canlynol:
- Gall aelodau grŵp ychwanegu cofnodion blog a gwneud sylwadau ar gofnodion blog, gan adeiladu ar ei gilydd.
- Gall pob aelod o'r cwrs weld blogiau grŵp, ond gall y rhai nad ydynt yn aelodau o'r grŵp ychwanegu sylwadau yn unig.
Mae gennych chi reolaeth lawn dros eich blogiau i gyd yn eich cwrs. Gallwch olygu a dileu cofnodion mewn unrhyw un o'r mathau o flogiau. Gallwch hefyd dileu sylwadau defnyddwyr.
Creu pwnc blog
Rhaid i chi greu pynciau blog cyn i myfyrwyr allu ychwanegu eu cofnodion. Mae pwnc blog yn helpu cadw cofnodion yn drefnus o gwmpas thema ganolog. Gallwch greu mwy nag un pwnc blog er mwyn i fyfyrwyr ychwanegu cofnodion am bynciau gwahanol.
- Ewch i Panel Rheoli > Offer y Cwrs > Blogiau a dewiswch Creu Blog.
- Teipiwch enw a chyfarwyddiadau opsiynol. Rhowch y blog ar gael i fyfyrwyr.
- Dewiswch y blychau ticio Arddangos Ar Ôl ac Arddangos Hyd i alluogi'r dewisiadau dyddiad ac amser. Nid yw cyfyngiadau arddangos yn effeithio ar argaeledd y blog, dim ond pan fydd yn ymddangos.
- Yn yr adran Cyfranogiad Blog, penderfynwch a yw'r blog ar gyfer unigolion neu'r cwrs. Gallwch hefyd ganiatáu peth postio dienw.
- Yn yr adran Gosodiadau Blog, dewiswch Cofnodion Mynegai Misol neu Cofnodion Mynegai Wythnosol. Fel arall, dewiswch flychau ticio i ganiatáu i ddefnyddwyr olygu a dileu cofnodion, neu ddileu sylwadau.
- Yn yr adran Gosodiadau Graddio, dewiswch Dim graddio neu opsiwn Graddio a theipiwch nifer y Pwyntiau posibl.
Os ydych yn gosod y pwyntiau posibl i rif nad yw’n gyfan, efallai nid aseinir graddau llythrennau yn gywir.
Defnyddir pwyntiau posibl ar gyfer un neu fwy o gofnodion a wneir gan ddefnyddiwr i bwnc y blog. Ar ôl i chi alluogi graddio, crëir colofn yn awtomatig yn y Ganolfan Raddau. Gellir graddio'r blog yn barhaol, ac ni allwch newid y gosodiad i Dim graddio.
- Os mynnwch, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Dangos cyfranogwyr yn statws angen graddio a dewiswch y nifer o gofnodion y mae ei angen. Os byddwch yn rhoi’r gosodiad hwn ar waith, bydd yr eicon Angen ei Raddio i’w gweld yn y Ganolfan Raddau. Bydd y cofnodion yn ymddangos mewn ciw ar y dudalen Angen ei Raddio ar ôl i weithgarwch myfyriwr gyrraedd y trothwy hwn.
- Gallwch ychwanegu cyfarwyddyd os ydych eisiau gwneud hynny.
- Dewiswch Cyflwyno.
Mae'r pynciau blog yn ymddangos yn nhrefn yr wyddor ar y dudalen Blogiau. Dewiswch deitl i drefnu’r cynnwys.
Gallwch hefyd ychwanegu dolenni i flogiau mewn ardaloedd cwrs, fel ardaloedd cynnwys a ffolderi.
Tudalen pwnc blog
Cyrchwch y dudalen pynciau blog fel a ganlyn:
- Yn yr offeryn Blogiau, agorwch flog a dewiswch ddefnyddiwr o'r ddewislen Pob Aelod o'r Cwrs.
- Ar y dudalen Angen Graddio, dewiswch Graddio Pob Defnyddiwr mewn dewislen blog.
- Yn y Ganolfan Raddau, lleolwch y golofn ar gyfer y blog rydych am ei raddio. Hofran dros gell gyda'r eicon Angen Graddio i gyrchu dewislen y blog. Dewiswch Graddio Gweithgarwch Defnyddiwr.
Rhennir tudalen pwnc y blog i ddwy brif adran. Yn ffrâm y cynnwys, gallwch weld y cofnodion blog. Yn y bar ar yr ochr, gallwch weld gwybodaeth am y pwnc neu gofnod blog. Gallwch ehangu'r Fynegai a graddio'r cofnod blog os yw'r blog yn raddadwy. Gallwch ddewis enw defnyddiwr unigol i weld y cofnodion yn ffrâm y cynnwys ar eu pennau eu hunain.
Os nad ydych yn gweld y nodwedd graddio yn y bar ochr, nid yw'ch sefydliad wedi troi'r nodwedd hon ymlaen.
- Dewiswch Creu Cofnod Blog i ychwanegu'ch meddyliau, neu Gweld Drafftiau i weld eich blogiau wedi'u cadw heb eu cyhoeddi. Ehangir Cyfarwyddiadau Blog yn ddiofyn, ond gallwch eu lleihau. Dewiswch Aliniadau i ychwanegu aliniadau.
- Yn y bar ar yr ochr, gallwch ehangu'r adran Manylion Blog i ddangos gwybodaeth am y detholiad presennol, gan gynnwys yr awdur a nifer y cofnodion a sylwadau. Dewiswch y saeth tua'r dde i gwympo'r bar ar yr ochr i greu mwy o le i weld cofnodion. Dewiswch yr eicon pedair saeth i weld y cofnodion blog mewn sgrîn lawn.
- Ar gyfer Holl Aelodau'r Cwrs, pwyswch ar y saeth sy’n pwyntio i lawr a byddwch yn gweld rhestr a bydd modd ichi ddewis aelod. Bydd cofnod yr aelod dewisedig yn ymddangos yn ffrâm y cynnwys. Yn opsiynol, dewiswch Dangos aelodau heb gofnodion. Defnyddiwch y saethau i'r chwith a'r dde i lywio i'r myfyriwr blaenorol neu nesaf.
- Mae adran y Fynegai yn dangos teitlau'r cofnodion a grëwyd yn ystod y cyfnod amser a ddewisir. Dewiswch yr arwydd minws i gwympo'r rhestr deitlau. Ar gyfer blogiau wedi'u graddio, mae eiconau'n dynodi statws gweithgarwch defnyddiwr. Mae'r eicon Angen Graddio yn nodi bod defnyddiwr wedi bodloni'r lleiafswm gweithgarwch ar gyfer graddio a bennwch ar gyfer y blog. Mae'r eicon Ar Waith yn ymddangos pan fydd gan ddefnyddiwr rywfaint o weithgarwch nad yw eto wedi bodloni'r lleiafswm nifer y mae ei angen i sbarduno'r statws angen graddio. Yn y bar ochr graddio, darparwch radd ac adborth ar gyfer myfyriwr.
Creu cofnodion blog
Rydych chi a'ch myfyrwyr yn creu cofnodion blog a gall aelodau cwrs eraill wneud sylwadau ar y cofnodon. Fel yr hyfforddwr, gallwch ddefnyddio cofnodion blog i ddarparu strwythur i drafodaethau ar bynciau'r dosbarth a materion eraill.
Ar y dudalen rhestru Blogiau, ar ôl pob teitl blog, gall myfyrwyr weld a yw'r blog yn perthyn i grŵp, y cwrs, neu fyfyrwyr unigol. Mae holl aelodau'r cwrs yn gallu darllen blogiau grŵp, ond er mwyn gwneud cofnod, rhaid i ddefnyddiwr fod yn aelod o'r grŵp.
- Ar y dudalen rhestru Blogiau, dewiswch deitl blog.
- Ar dudalen pwnc y blog, dewiswch Creu Cofnod Blog.
- Teipiwch deitl a chofnod.
- Os yw wedi'i galluogi a'i bod yn briodol, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Postio'r Cofnod fel un Di-enw.
- Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur i uwchlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur. Gallwch hefyd ychwanegu ffeil o'r gronfa: Ffeiliau’r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys.
-NEU-
Llusgwch ffeiliau o'ch cyfrifiadur i'r "ddolen glicio" yn ardal Atodi Ffeiliau. Os yw'ch porwr yn ei ganiatáu, gallwch hefyd lusgo ffolder o ffeiliau. Bydd y ffeiliau'n uwchlwytho'n unigol. Os nad yw'r porwr yn caniatáu i chi gyflwyno'ch gwaith ar ôl i chi uwchlwytho ffolder, dewiswch Peidiwch ag atodi yn rhes y ffolder i'w dynnu. Gallwch lusgo'r ffeiliau'n unigol a'u cyflwyno eto.
Ni fyddwch yn gallu llusgo ffeiliau i'w huwchlwytho os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn.
Gallwch ddefnyddio enw'r ffeil neu roi enw arall i'r ffeil.
- Dewiswch Postio Cofnod i gyflwyno'r cofnod blog neu dewiswch Cadw Cofnod fel Drafft i ychwanegu'r cofnod yn nes ymlaen.
Gweld drafftiau blog
I weld neu ychwanegu at ddrafftiau wedi'u cadw, dewiswch Gweld drafftiau ar y dudalen rhestru Blogiau.
Rhoi sylw ar gofnod blog
Gan y bwriedir i flogiau gael eu darllen gan eraill, gall myfyrwyr roi sylwadau ar gofnodion blog ei gilydd mewn blogiau unigol, cwrs a grŵp.
Chi sy'n penderfynu a yw defnyddwyr yn gallu gwneud sylwadau dienw a'u dileu. Fel hyfforddwr, gallwch ddileu sylw unrhyw ddefnyddiwr trwy ddewis yr X. Ni all defnyddwyr olygu eu sylwadau ar ôl postio.
- Ar y dudalen rhestru Blogiau, dewiswch deitl blog.
- Dewiswch enw defnyddiwr yn y bar ar yr ochr i weld cofnod blog. Mae'r cofnod yn agor yn ffrâm y cynnwys.
- Dewiswch Sylw islaw cofnod y defnyddiwr a theipiwch sylw.
- Os yw wedi'i alluogi ac yn briodol, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Rhoi Sylw ar Gofnod fel Dienw.
- Dewiswch Ychwanegu.
- I weld pob sylw, dewiswch y ddolen Sylwadau wedi'i rhifo.
Golygu a rheoli blogiau
Gallwch olygu priodweddau sylfaenol pwnc blog, gan gynnwys yr enw, yr hyfforddwyr, argaeledd a gosodiadau eraill. Gallwch olygu cofnodion blog unrhyw ddefnyddiwr a dileu pynciau a sylwadau blog.
Ar ôl i chi ddynodi pwnc blog ar gyfer unigolion neu'r cwrs, ni allwch ei newid. Hefyd, ar ôl i chi ddynodi blog fel wedi'i raddio, ni allwch newid blog yn ôl i heb ei raddio.
Ar y Bwrdd Trafod, cyrchwch ddewislen blog a dewiswch Golygu. Gwnewch eich newidiadau a dewiswch Cyflwyno.
Dileu blog
Os nad ydych angen blog bellach, gallwch ei dileu. Mae'r weithred ddileu yn barhaol ac ni allwch ei dad-wneud.
Os yw blog yn raddadwy, bydd y dudalen Dileu Cadarnhad yn ymddangos. Mae angen i chi berfformio camau ychwanegol i dynnu blog y gellir ei raddio.
- Ar y dudalen rhestru Blogiau, agorwch ddewislen blog a dewiswch Dileu.
- Dewiswch Iawn yn y rhybudd naid. Os yw'r blog yn raddadwy, bydd y dudalen Dileu Cadarnhad yn ymddangos. Mae gennych ddau opsiwn:
- Cadw colofn y Ganolfan Raddau (peidiwch â thicio unrhyw flychau): Dilëir y blog, ond cedwir colofn y Ganolfan Raddau a sgoriau rydych wedi eu neilltuo. Er enghraifft, mae pob cofnod gan fyfyrwyr yn cael eu graddio ac rydych am gadw colofn y Ganolfan Raddau ar gyfer cyfrifiadau'r radd derfynol. Os byddwch yn dileu wiki, ond eto'n cadw colofn y Ganolfan Raddau, gallwch ddileu'r golofn honno o'r Ganolfan Raddau ar unrhyw adeg.
- Dileu colofn y Ganolfan Raddau (dewis pa rai i’w dileu trwy dicio’r blychau): Mae'r golofn raddau yn y Ganolfan Raddau a'r blog yn cael eu dileu. Er enghraifft, os nad ydych eisiau cynnwys y golofn raddau ar gyfer y cofnodion blog yn y radd derfynol, gallwch ddileu pob un yn ddiogel.
- Dewiswch Tynnu i gwblhau dileu.
Ychwanegu dolen blog at ddewislen y cwrs
Gallwch ychwanegu dolen i ddewislen y cwrs i gyrchu'r offeryn blogiau ar unwaith. Gallwch hefyd bersonoli enw'r ddolen.
- Dewiswch yr arwydd plws uwchben dewislen y cwrs. Yna bydd y rhestr Ychwanegu Eitem Dewislen yn ymddangos.
- Dewiswch Dolen Offer a theipiwch Enw ar gyfer y ddolen.
- O'r ddewislen Math, dewiswch Blogiau.
- Dewiswch y blwch ticio Ar gael i Ddefnyddwyr.
- Dewiswch Cyflwyno.
Datrys problemau gyda rheoli blogiau
- Os byddwch yn dileu blog wrth i ddefnyddwyr bostio, bydd y blog a'r holl sylwadau'n cael ei ddileu.
- Os byddwch yn pennu blog heb fod ar gael wrth i ddefnyddwyr bostio, mae'r blog yn parhau'n weladwy yn y Modd Golygu ond nid yw'n ymddangos i ddefnyddwyr.
- Os byddwch yn newid y gosodiadau i Caniatáu i Ddefnyddwyr Olygu a Dileu Cofnodion, bydd y cofnodion yn weladwy ond fydd dim modd eu golygu.
- Os byddwch yn newid y gosodiadau i Caniatáu i Ddefnyddwyr Ddileu Sylwadau, bydd y sylwadau yn weladwy ond fydd dim modd i ddefnyddwyr eu dileu.
- Os byddwch yn galluogi graddio blogiau, ni allwch newid y gosodiad hwn. Dilëwch y blog a'r golofn yn y Ganolfan Raddau er mwyn ei dileu. Os oes angen y cofnodion blog arnoch, ond nid y graddau, gallwch benderfynu i beidio â chynnwys colofn y Ganolfan Raddau ar gyfer y blog yng nghyfrifiadau'r Ganolfan Raddau.