Mae Google Meet ar gyfer Blackboard yn caniatáu i chi greu cyfarfod Google Meet a rhannu’r ddolen â'ch myfyrwyr. Mae ein hintegreiddiad yn caniatáu i ddefnyddwyr lansio cyfarfodydd Google Meet yn uniongyrchol o fewn unrhyw gwrs Learn.

Mae dolenni Google Meet yn ddilys am 24 awr ar ôl cael eu cyrchu am y tro cyntaf. Pan ddaw’r cyfnod cyrchu 24 awr i ben, bydd y ddolen yn annilys a bydd angen i chi greu cyfarfod Google Meet newydd.

Datganiad preifatrwydd

Mae'r integreiddiad Google Meet yn caniatáu i chi ddefnyddio'r gwasanaeth Google Meet (y “Gwasanaeth Google”) trwy Blackboard Learn. Darperir y Gwasanaeth Google gan Google LLC (“Google”). Trwy alluogi integreiddiad y Gwasanaeth Google, rydych yn cytuno y llywodraethir unrhyw ddefnydd o’r Gwasanaeth Google gan delerau defnydd y Gwasanaeth Google fel y’i darperir gan Google yn unig (a byddwch yn cydymffurfio â phob math o delerau defnydd tebyg). Mae unrhyw gytundeb y cytunir arni, unrhyw wasanaethau a ddarperir, neu unrhyw bryniant neu werthiant a wneir trwy’r Gwasanaeth Google yn gytundeb rhyngoch chi a Google, nid Blackboard. Nid yw Blackboard yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth o ran y Gwasanaeth Google a ni fydd gan Blackboard unrhyw atebolrwydd neu rwymedigaeth o gwbl o ran y cynnwys a ddarperir i neu sydd ar gael i chi neu'r Gwasanaeth Google, unrhyw ddefnydd o'r cynnwys hwnnw nac unrhyw ohebiaethau â’r Gwasanaeth Google neu unrhyw bryniant neu werthiant a gwblheir nac unrhyw gytundeb y cytunir arni rhyngoch chi a Google. Yn ychwanegol, rydych yn awdurdodi Blackboard i roi’r wybodaeth bersonol gyfyngedig sydd ei hangen ar gyfer yr integreiddiad i Google (“Gwybodaeth yr Integreiddiad”). Rydych yn cytuno nad yw Blackboard yn gyfrifol am ymarferion preifatrwydd a diogelwch data Google ac nad yw Blackboard yn atebol dros unrhyw fynediad heb ei awdurdodi at Wybodaeth yr Integreiddiad. Rydych yn derbyn mai chi yw’r unig un sy’n gyfrifol am fodloni unrhyw anghenion perthnasol a chanlyniadau awdurdodi Google i gael mynediad at Wybodaeth yr Integreiddiad.


Lansio Google Meet

Ar y dudalen lle rydych eisiau creu eich cyfarfod dewiswch Adeiladu Cynnwys a Google Meet.

  • Teipiwch deitl ar gyfer eich cyfarfod.
  • Dewiswch Dyddiad Dechrau, Amser Dechrau, Dyddiad Gorffen, ac Amser Gorffen.
  • Teipiwch ddisgrifiad ar gyfer eich cyfarfod.
  • Dewiswch Creu Cyfarfod.

Mae’ch cyfarfod yn ymddangos ym Maes Cynnwys cyntaf eich cwrs yn seiliedig ar drefn Dewislen y Cwrs ac yn eich Calendr.

Mae’ch cyfarfod Google Meet yn defnyddio amseru Rhyddhau addasol yn ddiofyn. Gall myfyrwyr gael mynediad at y cyfarfod pan fydd yn dechrau.