Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae wikis yn caniatáu i aelodau cwrs gyfrannu at un dudalen neu ragor o ddeunyddiau cwrs a’u haddasu ac mae’n ddull o rannu a chydweithredu. Gall aelodau cwrs greu a golygu tudalennau yn gyflym, ac olrhain newidiadau ac ychwanegiadau, sy’n caniatáu i sawl ysgrifennwr gydweithio’n effeithiol. Gallwch greu un wiki neu ragor i aelodau'r cwrs gyfrannu atynt a wikis y gall grwpiau penodol eu defnyddio i gydweithio.

Gall pob aelod o'r cwrs ddefnyddio'r offeryn wikis i gofnodi gwybodaeth a gwasanaethu fel ystorfa ar gyfer gwybodaeth cwrs. Mae wiki cwrs yn ffynhonnell eang o wybodaeth a grëwyd gan aelodau'r cwrs. Gall Wikis helpu i adeiladu cymuned o gydweithio a dysgu. Mae rhyngweithio cymdeithasol yn cynyddu wrth gyfnewid gwybodaeth.

Mae myfyrwyr yn defnyddio wiki i gydweithio ar gynnwys a rennir o wahanol amserau a lleoliadau. Gallant edrych ar newidiadau blaenorol, gwneud sylwadau ar gynnwys neu newidiadau, cynnwys cynnwys newydd, ac adolygu cynnwys sy'n bodoli eisoes. Yn debyg i'r bwrdd trafod, rydych yn cymryd rôl hwylusydd yn lle darparwr holl gynnwys cwrs. Yn annhebyg i flog, a all fod yn eithaf personol, mae angen cydweithio dwys ar wikis, lle cysylltir â gwybodaeth ac adeiladir arni.

Gallwch raddio cyfraniadau myfyrwyr at wiki neu ei ddefnyddio'n unig ar gyfer adolygu cynnwys cwrs. Yn y naill enghraifft neu'r llall, gall myfyriwr gyfrannu tudalennau lluosog at wiki unigol a gwneud adolygiadau heb gyfyngiad i dudalennau a gyflwynwyd gan unrhyw aelod o'r cwrs. Gallwch hefyd alluogi offeryn wiki'r grŵp i helpu grwpiau i rannu a rhyngweithio.

Gallwch edrych ar bob newid i bob tudalen mewn wiki. Gallwch edrych ar y newidiadau ar lefel uchel, a gallwch edrych yn fanwl i weld gwybodaeth am gyfraniadau gan unrhyw unigolyn.


Y manteision a ddaw o ddefnyddio Wikis

Gall Wikis helpu aelodau o gyrsiau i adeiladu storfa gyffredin o wybodaeth. Wrth i'r sail wybodaeth dyfu dros amser, gallwch ddisgwyl i'r wiki gael rhyw elfen o ddifrifoldeb a pharhauster.

Gan eu defnyddio’n bwrpasol, gallwch ddefnyddio Wikis at y dibenion addysgol hyn:

  • Darparu llwyfan hawdd ei ddefnyddio i gyfathrebu
  • Hyrwyddo cydweithio yn lle cystadleuaeth
  • Meithrin ymagwedd gymdeithasol a rhyngweithiol at ddysgu
  • Adeiladu partneriaethau lle mae modd manteisio ar gryfderau pobl eraill
  • Cryfhau rhwydweithiau, ymddiriedolaeth a sgiliau negodi
  • Darparu cymorth ac adborth prydlon
  • Darparu siop un stop lle caiff gwybodaeth ei chadw, ei diweddaru a’i defnyddio yn hawdd ac yn gyflym
  • Gwella’r tebygolrwydd o greadigedd, digymhellrwydd ac arloesi trwy feddwl yn adlewyrchol

Pryd dylech ddefnyddio Wikis?

Gallwch ddefnyddio Wikis fel cynnwys cwrs neu fel aseiniadau a gaiff eu marcio ar gyfer y mathau hyn o weithgareddau:

  • Geirfa
  • Papur Gwyn
  • Crynodebau ac amlinelliadau dosbarth
  • Cyfuno gwaith ysgrifennu myfyrwyr i greu llyfr
  • Storfa o adnoddau
  • Arbrofion labordy
  • Datrysiadau myfyrwyr ar gyfer senarios ac astudiaethau achos
  • Llyfr nodiadau ymchwil
  • Cyflwyniadau prosiect grŵp

Gall hyfforddwyr greu wikis cwrs i annog y myfyrwyr i gasglu eu gwybodaeth mewn modd trefnus. Gall unrhyw aelod o gwrs greu tudalennau mewn wiki, oni bai eich bod yn bwriadu bod yr unig awdur a defnyddio’r wiki fel cynnwys cwrs. Mae grwpiau hefyd yn gallu defnyddio wikis.


Rhannau Wiki

Mae wiki yn cynnwys yr elfennau hyn:

  • Yn gyntaf, gallwch greu pwnc wiki er mwyn i aelodau'r cwrs allu cyfrannu eu syniadau, eu hymchwil a’u meddyliau. Pwnc y wiki yw’r thema sy’n cysylltu gwahanol dudalennau'r wiki. Mewn pwnc wiki, caiff tudalennau wiki cysylltiedig eu casglu mewn un lle.
  • Nesaf, gallwch greu tudalennau wiki o fewn y pwnc. Mae tudalen wiki yn ysgogiad mwy penodol, neu’n gysylltiedig o ran pwnc â thema gyffredinol pwnc y wiki. Er enghraifft, os hanes y Gymraeg yw pwnc y wiki, gallai hanes yr Urdd fod yn un o’r tudalennau wiki yn y pwnc hwnnw.
  • Mae’r dudalen sy’n rhestru’r Wikis yn dangos pob pwnc wiki a grëwyd mewn cwrs neu grŵp.

Creu pwnc wiki

I ddechrau arni, bydd angen i chi greu pwnc Wiki yn eich cwrs. Gall eich myfyrwyr ac aelodau eraill o’r cwrs ychwanegu tudalennau at y pwnc hwnnw.

  1. Ewch i Panel Rheoli > Offer y Cwrs > Wikis a dewiswch Creu Wiki.
  2. Teipiwch enw a chyfarwyddiadau opsiynol. Cyhoeddi’r Wiki i fyfyrwyr.
  3. Dewiswch y blychau ticio Arddangos Ar Ôl ac Arddangos Hyd i alluogi'r dewisiadau dyddiad ac amser. Nid yw cyfyngiadau arddangos yn effeithio ar argaeledd y wiki, dim ond pan fydd yn ymddangos.
  4. Dewiswch opsiwn Mynediad Myfyrwyr. Gellir newid mynediad myfyrwyr ar unrhyw adeg.
    • Ar Gau i Olygu: Dewiswch yr opsiwn hwn os mai chi fydd yr unig un fydd yn cyfrannu at dudalennau, neu i atal aelodau'r cwrs rhag eu golygu. Dewiswch yr opsiwn hwn pan fyddwch yn barod i ddechrau marcio’r cyfraniadau wiki. Mae pob aelod o'r cwrs yn gallu gweld wikis sydd ar gau i'w golygu.
    • Ar Agor i Olygu: Mae'n caniatáu i aelodau'r cwrs addasu unrhyw dudalen wiki. Mewn wiki grŵp, mae rhaid ichi fod yn aelod o'r grŵp er mwyn golygu tudalen wiki.
  5. Yn yr adran Gosodiadau Wiki, dewiswch Dim graddio neu’r opsiwn Graddio a theipiwch nifer y Pwyntiau posibl.

    Os ydych yn gosod y pwyntiau posibl i rif nad yw’n gyfan, efallai nid aseinir graddau llythrennau yn gywir.

    Ar ôl i chi alluogi graddio, crëir colofn yn awtomatig yn y Ganolfan Raddau. Ni ellir atal y dyddiadur rhag cael ei farcio, ac ni allwch newid y gosodiadau i Dim graddio.

    Mwy o wybodaeth am raddio wikis

  6. Os ydych yn dymuno, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Dangos y cyfranogwyr yn statws angen ei raddio a dewiswch nifer y tudalennau sydd eu hangen. Os fyddwch yn rhoi’r gosodiad hwn ar waith, bydd yr eicon Angen ei Raddio yn dangos yn y Ganolfan Raddau. Mae’r tudalennau yn ymddangos yn y ciw ar dudalen Angen ei Raddio ar ôl i weithgarwch y myfyrwyr gwrdd â'r trothwy hwn.
  7. Gallwch ychwanegu cyfarwyddyd os ydych eisiau gwneud hynny.
  8. Dewiswch Cyflwyno.

Tudalen pwnc Wiki

Tudalen pwnc wiki yw’r dudalen hafan lle mae pob tudalen wiki arall yn cael ei chadw. Bydd y dudalen hafan yn cael ei dangos gyntaf yn awtomatig pan fydd myfyriwr yn ymweld â'r wiki.

  1. Dewiswch Creu Tudalen Wiki i ychwanegu tudalen at bwnc wiki.
  2. Caiff Cyfarwyddiadau Wiki eu hehangu yn ddiofyn, ond gallwch eu lleihau.
  3. Ar y bar ochr, gallwch ehangu'r adran Manylion Wiki i ddangos gwybodaeth fel math, dyddiad creu, a nifer y tudalennau a sylwadau. Pwyswch y saeth sy’n pwyntio i’r dde i gwympo'r bar ochr. Pwyswch y pedwar saeth i weld y wiki ar sgrin lawn.
  4. I weld crynodeb o weithgarwch myfyrwyr, pwyswch Cyfranogiad a Graddio ar gyfer wikis a raddiwyd neu Crynodeb o Gyfranogiad ar gyfer wikis heb eu graddio. Bydd y ddwy ddolen yn agor tudalen Crynodeb o Gyfranogiad lle mae modd ichi weld cyfranogiad y myfyrwyr hynny sydd wedi cyfrannu at y wiki.
  5. Ar y bar ochr, bydd y tudalennau Wiki yn ymddangos yn nhrefn yr wyddor ar ôl y dudalen hafan, sydd ag eicon tŷ. Mae'r hafan bob amser yn ymddangos yn gyntaf ar y rhestr. Dewiswch dudalen Wiki i’w gweld yn y ffrâm cynnwys. Ewch i’w ddewislen i weld hanes y dudalen. Mae Hanes Tudalen yn dangos pob fersiwn o dudalen wiki, a bydd y fersiwn mwyaf diweddar yn gyntaf. O'r dudalen hon, gallwch ddileu fersiynau. Os byddwch yn dileu'r fersiwn ddiweddaraf, yna'r fersiwn nesaf ati yw'r fersiwn fwyaf cyfredol a dyma'r tudalen a welir yn y wiki. Gallwch ddileu mwy nag un fersiwn o dudalen wiki, ond mae'n rhaid i un fersiwn o leiaf aros. Pan fyddwch yn dileu fersiwn, dilëir hanes pob cyfranogiad ar gyfer y fersiwn hwnnw.
  6. I weld pawb a gyfrannodd at y wiki, dewiswch Pob Un i ehangu’r ddewislen a dewiswch aelod. Fel arall, dewiswch Dangoswch Bob Aelod i weld y rhai nad ydynt wedi cyfrannu at y wiki hefyd.
  7. Ar gyfer wikis a raddir, mae eiconau yn dynodi statws gweithgarwch myfyriwr. Mae'r eicon Angen ei Raddio yn dynodi bod myfyriwr wedi bodloni'r lleiafswm gweithgarwch ar gyfer graddio a bennoch ar gyfer y wiki. Mae'r eicon Ar y Gweill yn ymddangos pan fydd gan fyfyriwr rywfaint o weithgarwch nad yw eto wedi bodloni'r lleiafswm nifer y mae ei angen i sbarduno'r statws angen ei raddio.

Tudalen Restru Wikis

Ar ôl i chi greu Wiki, bydd pynciau’r Wiki yn ymddangos yn nhrefn yr Wyddor ar y dudalen restru Wikis. Dewiswch deitl i drefnu’r cynnwys.

  1. Ar y dudalen restru Wikis, dewiswch deitl Wiki neu dewiswch Agor ar ddewislen Wiki.
  2. I newid argaeledd Wiki neu fynediad myfyrwyr ato, ticiwch un blwch neu fwy a defnyddiwch restrau Argaeledd a Mynediad Myfyrwyr.
  3. Mae colofn Math yn nodi a yw Wiki ar gyfer cwrs neu ar gyfer grŵp.
  4. Dewiswch Golygu Priodweddau ar ddewislen Wiki a newid enw, cyfarwyddiadau a gosodiadau’r Wiki.

Tudalennau Wiki

Mae angen tudalen hafan ar bob Wiki cwrs neu grŵp newydd. Wrth greu pwnc wiki newydd, gofynnir ichi greu tudalen hafan. Bydd y dudalen hafan bob tro yn ymddangos gyntaf ar y dudalen restru wikis, a bydd y cynnwys yn ymddangos pan fydd rhywun yn llywio i’r wiki. Gan mai’r dudalen hafan sydd yn gyntaf, mae’n syniad da ychwanegu cyfarwyddiadau yma.

Gallwch chi neu unrhyw aelod cwrs neu grŵp greu'r hafan. Ni all neb ddileu'r hafan, ond os yw'r wiki ar agor ar gyfer golygu, gall unrhyw aelod o'r cwrs neu grŵp ei golygu.


Creu tudalennau wiki

  1. Ar y dudalen restru Wikis, dewiswch deitl Wiki.
  2. Ar dudalen bwnc y Wiki, dewiswch Creu Tudalen Wiki.
  3. Teipiwch deitl a disgrifiad neu gyfarwyddiadau.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Cewch ddileu Wiki cyfan neu dudalennau mewn Wiki, ond ni chewch ddileu tudalen hafan y Wiki ar ei phen ei hun. Ni all myfyrwyr ddileu tudalennau Wiki.


Cysylltu â thudalennau wiki eraill

Os oes llawer o dudalennau gan Wiki, gallwch ei gyfuno â thudalen arall fel ei bod yn haws dod o hyd i wybodaeth. Gallwch ond greu dolenni i dudalennau wiki eraill pan fydd o leiaf dwy dudalen yn bodoli.

  1. Ar dudalen Creu Tudalen Wiki, rhowch y cyrchwr yn ardal Cynnwys Tudalen Wiki lle rydych am ychwanegu’r ddolen.
  2. Dewiswch yr eicon Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd, bydd hyn yn agor ffenestr lle gallwch ddewis yr opsiwn Dolen i dudalen Wiki. Os mai un tudalen yn unig sy'n bodoli yn y wiki, analluogir y swyddogaeth hon.
  3. Yn ffenestr naid Dolen i Dudalen Wiki, dewiswch y dudalen wiki rydych eisiau creu dolen iddi o'r rhestr.
  4. Fel arall, rhowch enw ar y ddolen ym mlwch testun Ailenwi Dolen i Dudalen Wiki. Os na fyddwch yn ailenwi'r ddolen, defnyddir teitl gwreiddiol y dudalen fel y ddolen.
  5. Dewiswch Cyflwyno. Bydd y ddolen yn ymddangos yn y golygydd.
  6. Ar Dudalen Creu Wiki, dewiswch Cyflwyno. Mae'r dolen yn ymddangos yn nhudalen y wiki.

Gallwch olygu tudalen wiki sydd eisoes yn bodoli i fewnosod dolen i dudalennau wiki eraill. Golygwch gynnwys y wiki a defnyddiwch yr un camau ag a nodir uchod.


Gadael sylw ar dudalen wiki

Gall aelodau o gwrs adael sylwadau ar dudalennau Wiki. Trwy adael sylwadau, gallwch chi a’ch myfyrwyr gynnig adborth ac awgrymiadau. Mae sylwadau'n weladwy i holl aelodau'r cwrs. Caiff cyfanswm nifer y sylwadau Wiki ei gyfrif yn adran Manylion Wiki Details ar y bar ochr.

Ni all neb olygu sylwadau ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi. Gall aelodau’r cwrs ddileu eu sylwadau.

Gall pob aelod o gwrs ddarllen wikis grŵp yn ddiofyn ond mae rhaid ichi fod yn aelod o grŵp i adael sylw. Gallwch newid y gosodiad diofyn i ganiatáu i aelodau'r grŵp yn unig edrych ar wiki grŵp.

  1. Dewiswch bwnc Wiki a dewiswch y dudalen i’w gweld yn y bar ochr. Mae tudalen y wiki yn agor yn ffrâm y cynnwys.
  2. Dewiswch Sylw o dan gyfraniad a theipiwch sylw. Gallwch ddefnyddio'r swyddogaeth gwirio sillafu ar waelod y blwch yn ôl yr angen.

    Gall sylwadau gynnwys uchafswm o 2,000 o nodau. Bydd neges naid yn ymddangos sy’n dweud bod rhaid golygu neu ailgyflwyno sylw sy’n hwy na 2,000 o nodau.

  3. Dewiswch Ychwanegu.
  4. I weld pob sylw, cliciwch ar y ddolen Sylwadau sydd â rhif arni.

Golygu a rheoli Wikis

Ar dudalen Wikis, ewch i ddewislen Wiki a dewiswch Golygu. Gwnewch eich newidiadau a dewiswch Cyflwyno.

Gall unrhyw aelod o'r cwrs olygu tudalen wiki cwrs a gall unrhyw aelod o'r grŵp olygu tudalen wiki grŵp oni bai eich bod wedi analluogi'r swyddogaeth hon. Efallai y byddwch yn dewis analluogi golygu pan fyddwch am raddio tudalennau wiki. Fodd bynnag, gallwch barhau i olygu tudalennau myfyrwyr. Mae holl aelodau'r cwrs, gan gynnwys hyfforddwyr, yn golygu yn yr un modd.

Pan fydd rhywun yn golygu tudalen wiki, caiff y dudalen ei chloi am ddau funud i atal pobl eraill rhag golygu’r un dudalen. Fe’ch hysbysir bod rhywun arall yn golygu'r dudalen ar hyn o bryd. Bydd cyfnod y cloi yn dod i ben heb ystyried gweithgarwch neu ddiffyg o weithgarwch. Ar ôl dau funud, gall aelod arall o'r cwrs ddechrau golygu’r dudalen a chaiff y dudalen ei chloi eto.

Nid oes modd newid y nodwedd cloi na chwaith pa mor hir y bydd y dudalen wedi ei chloi.

Golygu cynnwys wiki

Gan fod Wiki yn storio pob fersiwn a phob golygydd yn ei hanes, gallwch adfer gwybodaeth am ddatblygiad a chyfraniad unrhyw unigolyn. Gallwch chi ddewis Hanes ar ddewislen tudalen i weld sut y mae tudalen wedi ei haddasu, gweld unrhyw fersiwn, a chymharu dau fersiwn ochr yn ochr.

  1. Ewch i dudalen pwnc Wiki.
  2. Dewiswch y tudalen i'w adolygu a'i olygu. Mae tudalen y wiki yn agor yn ffrâm y cynnwys.
  3. Ar y bar ochr, ewch i ddewislen y dudalen a chlicio ar Golygu'r Priodweddau. Fel arall, dewiswch Golygu Cynnwys Wiki wrth ymyl teitl y dudalen yn y ffrâm cynnwys.
  4. Ar Golygu Tudalen Wiki, gallwch chi wneud newidiadau i enw a chynnwys y dudalen.
  5. Dewiswch Cyflwynoi gadw’ch newidiadau.

Dileu Wiki

Os nad ydych angen wiki bellach, gallwch ei dileu. Mae'r weithred ddileu yn barhaol ac ni allwch ei dad-wneud.

Os mai Wiki i’w raddio ydyw, bydd blwch yn ymddangos yn gofyn i chi gadarnhau. Mae’n rhaid i chi ddilyn camau ychwanegol i ddileu Wiki a raddir.

  1. Ar y dudalen restru Wikis, agorwch ddewislen Wiki a dewisDileu.
  2. Dewiswch Iawn yn y rhybudd naid. Os mai Wiki i’w raddio ydyw, bydd y dudalen Cadarnhad Dileu yn ymddangos. Mae gennych ddau opsiwn:
    • Cadw Gwybodaeth y Ganolfan Raddau (peidiwch â thicio’r un blwch): Dilëir y wiki, ond cedwir colofn y Ganolfan Raddio a sgoriau rydych wedi eu neilltuo. Er enghraifft, mae pob cyfraniad gan fyfyrwyr yn cael eu graddio ac rydych am gadw colofn y Ganolfan Raddau ar gyfer cyfrifiadau'r radd derfynol. Os byddwch yn dileu wiki, ond eto'n cadw colofn y Ganolfan Raddau, gallwch ddileu'r golofn honno o'r Ganolfan Raddau ar unrhyw adeg.
    • Dileu Gwybodaeth y Ganolfan Raddau (dewiswch pa rai i’w dileu gan ddefnyddio’r blychau): Caiff y golofn raddau yn y Ganolfan Raddau a'r Wiki eu dileu. Er enghraifft, os nad ydych am gynnwys y golofn raddau ar gyfer cyfraniadau’r Wiki yn y radd derfynol, gallwch ddileu popeth.
  3. DewiswchTynnu i orffen y broses ddileu.

Ychwanegu dolen Wiki at ddewislen y cwrs.

Gallwch ychwanegu dolen at ddewislen cwrs er mwyn cyrchu'r offeryn Wiki yn syth. Gallwch hefyd bersonoli enw'r ddolen.

  1. Dewiswch yr arwydd plws uwchben dewislen y cwrs. Yna bydd y rhestr Ychwanegu Eitem Dewislen yn ymddangos.
  2. Dewiswch Dolen Offer a theipiwch Enw ar gyfer y ddolen.
  3. O restr Math, dewiswch Wikis.
  4. Dewiswch y blwch ticio Ar gael i Ddefnyddwyr.
  5. Dewiswch Cyflwyno.