Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau a chyfeirebau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Ynglŷn â graddau gwrthwneud

Mae rolau hyfforddwr, cynorthwyydd dysgu a graddiwr yn gallu newid graddau mewn cwrs. Pan fyddwch yn newid graddau, mae'r data newydd yn ymddangos yn awtomatig mewn colofnau gradd a bwysolir, cyfanswm neu a gyfrifwyd cyfredol. Bob tro i chi newid gradd, caiff cofnod ei wneud yn hanes y radd.

Mwy am hanes graddau

Weithiau mae newid gradd yn arwain at wrthwneud gradd. Caiff radd wrthwneud go iawn ei roi ar waith i eitemau'r Ganolfan Raddau yn unig - profion ac aseiniadau. Mae gradd gwrthwneud yn cymryd blaenoriaeth dros bob cofnod gradd arall, gan gynnwys ymgeisiau mae myfyriwr yn eu cyflwyno ar ôl aseinio gradd wrthwneud.

Er enghraifft, mae gradd yn seiliedig ar gyfartaledd ymgeisiau lluosog aseiniad. Ond, os ydych eisiau ychwanegu gradd ar gyfer myfyriwr penodol sy'n wahanol i'r radd gyfartalog. Ar gyfer y myfyriwr hwnnw, gallwch bennu gradd wrthwneud sy'n cymryd blaenoriaeth dros yr holl raddau eraill ac unrhyw ymgeisiau a wneir yn y dyfodol.

Nid yw graddau ar gyfer yr offer rhyngweithiol - cofnodion dyddlyfr a blogiau, cadw tudalennau wiki, a phostiadau trafodaeth - yn seiliedig ar ymgeisiau, ond yn hytrach yn seiliedig ar weithgarwch.

Pan fyddwch yn gwrthwneud gradd, bydd eicon Gwrthwneud yn ymddangos yn y gell.

Pan fyddwch yn aseinio gradd i gell heb ymgais ar gyfer aseiniad neu brawf, gradd wrthwneud ydyw. Bydd yr eicon Gwrthwneud yn ymddangos yng nghell y radd. Gallwch bennu gradd ar gyfer gweithgarwch graddedig offer rhyngweithiol pan does dim gweithgarwch yn bodoli, ond ni fydd eicon yn ymddangos yng nghell y radd. Ni fyddwch chwaith yn gweld eicon os byddwch yn gwrthwneud gradd o gyfarwyddyd.


Gwrthwneud gradd mewn cell

Gallwch deipio gradd wrthwneud yng nghell y Ganolfan Raddau am ymgais prawf neu aseiniad lle rydych wedi caniatáu ymgeisiau lluosog.

Enghraifft: Aseiniad lle caniateir dau ymgais

Gallwch aseinio gradd ar gyfer yr ymgais cyntaf ar dudalen Graddio Aseiniad. Yna, rydych yn teipio yn gell ar gyfer yr ail ymgais a dyna'r radd wrthwneud. Os byddwch yn mynd ymlaen i raddio'r ail ymgais o dudalen Graddio Aseiniad, bydd y radd wrthwneud yn dal i ddisodli'r radd roddoch chi i'r ail ymgais. Felly, dylech osgoi aseinio graddau yng nghelloedd y Ganolfan Raddau ar gyfer aseiniadau a phrofion heb ystyried y goblygiadau yn gyntaf.

Os i chi ganiatáu un ymgais yn unig, gallwch deipio yng nghell y Ganolfan Raddau a ni fydd hwnnw'n cyfri fel gradd wrthwneud.

Os i chi deipio gradd yng nghell y Ganolfan Raddau a'ch bod eisiau ychwanegu adborth ar gyfer y defnyddiwr neu nodiadau i chi'ch hun, cymerwch olwg ar yr adran nesaf.


Gwrthwneud gradd ar dudalen Manylion Gradd

Argymhellwn eich bod yn aseinio gradd wrthwneud o dab Gwrthwneud â Llaw ar dudalen Manylion Gradd. Ar ôl neilltuo'r radd, gallwch ychwanegu adborth ar gyfer y defnyddiwr a nodiadau ar gyfer eich hun sy'n esbonio'r newid gradd. Bydd cofnod gennych o'r rheswm pam eich bod yn dewis gwrthwneud unrhyw ymgeisiau yn y dyfodol.

Yr unig fodd o aseinio gradd wrthwneud ar gyfer cofnodion dyddlyfr a blog graddedig, cadw tudalennau wiki a phostiadau trafodaeth yw ar y tab Gwrthwneud â Llaw. Fodd bynnag, gallwch olygu gradd wrthwneud o banel graddio offeryn rhyngweithiol a gwrthod y radd flaenorol.

  1. Yn y Ganolfan Raddau, ewch i'r gell gyda phrawf graddedig neu radd aseiniad y myfyriwr er mwyn ei wrthwneud a chael mynediad at ei ddewislen.
  2. Dewiswch Gweld Manylion Gradd.
  3. Ar y dudalen Manylion Gradd, dewiswch dab Gwrthwneud â Llaw a theipiwch radd newydd ym mlwch Gradd Wrthwneud.
  4. Fel arall, teipiwch Adborth i'r Defnyddiwr a Nodiadau Graddio i chi'ch hun. Defnyddiwch yr opsiynau yn y golygydd i fformatio'r testun ac uwchlwytho ffeiliau, delweddau ac eitemau amlgyfrwng.
  5. Dewiswch Cadw.
  6. Dewiswch Dychwelyd i'r Ganolfan Raddau i fynd yn ôl i brif dudalen y Ganolfan Raddau.

Mwy am atodi ffeiliau


Dychwelyd gradd wrthwneud

Gallwch ddefnyddio'r opsiwn Dychwelyd i glirio gradd wrthwneud a dangos y radd a bennwyd eisoes os oes un yn bodoli. Fel arall, mae eicon Angen Graddio yn ymddangos.

  1. Yn y Ganolfan Raddau, ewch i'r gell gyda gradd wrthwneud y myfyriwr i ddychwelyd a chael mynediad at ei dewislen.
  2. Dewiswch Gweld Manylion Gradd.
  3. Ar y dudalen Manylion Gradd, dewiswch Dychwelyd yn adran Gradd Gyfredol. Cadarnhewch y weithred.
  4. Dewiswch Iawn. Mae'r radd gwrthwneud wedi ei chlirio. Caiff y weithred ei recordio ar dab Hanes Graddio ar y dudalen hon.
  5. Dewiswch Dychwelyd i'r Ganolfan Raddau i fynd yn ôl i brif dudalen y Ganolfan Raddau.