Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Ar y dudalen Hanes Graddau, gallwch weld yr holl weithredoedd graddau mewn cwrs ac allgludo’r wybodaeth. Gallwch weld yr holl ddata ar gyfer cyflwyniadau gradd ar gyfer y cwrs o fewn ystod dyddiad penodol.

Cyrchwch y dudalen Hanes Gradd o’r ddewislen Adroddiadau yn y Ganolfan Raddau.


Digwyddiadau allweddol

Graddiwyd, heb ei chyhoeddi

Mae hanes graddau yn y wedd Wreiddiol yn dangos digwyddiad allweddol ar gyfer cofnodion pan fyddwch, fel hyfforddwr, yn echdynnu'r adroddiad hanes graddau. Allwedd y digwyddiad yw "Graddiwyd, heb ei chyhoeddi". Dangosir y cofnod hwn pan fyddwch yn agor ymgais cyflwyniad prawf Gwreiddiol na chaiff ei raddio'n awtomatig -  er enghraifft, prawf â chwestiwn traethawd - ac yn graddio rhywfaint o'r cwestiynau ond nid yr holl gwestiynau, yn gadael y dudalen graddio heb gadw. 

Mae allwedd y digwyddiad "Graddiwyd, heb ei chyhoeddi" yn golygu bod o leiaf un cwestiwn yn aros i gael ei raddio mewn ymgais cyflwyniad prawf.

A Grade History report showing a Graded, not posted event

Newid gwedd hanes graddau

Gallwch hidlo’r data ar y dudalen Hanes Gradd ac arddangos cyflwyniadau o fewn ystod dyddiad.

Cyrchwch y ddewislen Dangos Cyflwyniadau o’r Gorffennol, dewiswch ystod, a dewis Go.

I drefnu eitemau, dewiswch bennawd colofn fel Dyddiad neu Gwerth.

Mewn dwy sefyllfa, mae'n bosibl y byddwch yn gweld Gweinyddwr Blackboard wedi'i restru yn y golofn Golygwyd Ddiwethaf Gan:

  • Cychwynnwyd prawf wedi'i amseru a oedd wedi'i osod i awto-gyflwyno gan fyfyriwr ond bu adael y prawf. Bydd y system yn awto-gyflwyno pan ddaw'r amser i ben.
  • Tynnwyd myfyriwr o'ch cwrs ac fe gliriwyd gradd ymgais eitem wedi hynny.

Lawrlwythwch y ffeil hanes gradd

Gallwch lawrlwytho hanes gradd i'r cyfrifiadur fel ffeil diffiniwr.

Ar y dudalen Hanes Gradd, dewiswch Lawrlwytho a dewiswch y Math Diffiniwr far gyfer y ffeil, naill ai Coma neu Tab. Gall hefyd gynnwys sylwadau yn eich ffeil.