Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Rhannu data Canolfan Raddau

Gallwch rannu data gradd a gwybodaeth arall gyda chynorthwywyr addysgu, graddwyr, myfyrwyr, arsylwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae eu rolau yn pennu pa fynediad sydd ganddynt i’r Ganolfan Raddau a data Canolfan Raddau. Er enghraifft, mae gan gynorthwywyr addysgu a graddwyr yr un mynediad at nodweddion ac offer yn y Ganolfan Raddau â hyfforddwyr.

Adolygwch bolisi a chanllawiau sefydliadol cyn i chi ryddhau gwybodaeth myfyrwyr i unrhyw un. Mae preifatrwydd myfyrwyr yn cael ei ddiogelu. Mae’n rhaid i chi gydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau rhyngwladol, cenedlaethol, a rhanbarthol, fel y Ddeddf Addysg Deuluol a Phreifatrwydd (FERPA) yn yr Unol Daleithiau

Rhannwch y Ganolfan Raddio â myfyrwyr

Chi sy’n rheoli pa ddata Canolfan Raddau sy’n cael eu rhyddhau i fyfyrwyr a phryd. Gallwch ddewis peidio dangos colofnau i fyfyrwyr. Mae colofnau sydd ar gael yn ymddangos yn Fy Ngraddau a gallant ymddangos yn unigol yn y modiwl cerdyn adrodd.

Gallwch ddewis os yw ystadegau’r Ganolfan Raddau ar gael i ddefnyddwyr. Os oes ystadegau ar gael, byddant yn ymddangos pan fydd y golofn wedi ei harddangos.

Pan ychwanegwch golofn Canolfan Raddau newydd, mae gennych y dewisiadau hyn:

  • Cynhwyswch y Golofn hon yng Nghyfrifiadau Canolfan Raddau
  • Dangoswch y Golofn hon i Fyfyrwyr
  • Dangoswch ystadegau (cyfartalog a chanolrifol) ar gyfer y golofn hon i Fyfyrwyr yn Fy Ngraddau

Pan edrychwch ar y dudalen Canolfan Raddau, gallwch fynd i mewn i ddewislen colofn a dewis Golygu Gwybodaeth Colofn. Gallwch newid y dewisiadau argaeledd. Gallwch hefyd fynd i mewn i ddewislen colofn a dewis Cuddiwch rhag Myfyrwyr (ymlaen/i ffwrdd).

Rhannu’r Ganolfan Raddau gydag arsylwyr

Fel arfer, caiff arsylwyr eu pennu i ddilyn defnyddwyr penodol yn Blackboard Learn heb ryngweithio gyda'r system. Os ydych chi’n caniatáu, gall arsylwyr weld eich cwrs ac olrhain cynnydd myfyrwyr. Hefyd, gallwch anfon rhybuddion e-bost at arsylwyr o’ch cwrs yn ôl yr angen.

Wedi i arsylwyr fewngofnodi, gallant fynd i mewn i wybodaeth am eu myfyrwyr cysylltiedig ar y Dangosfwrdd Arsylwr a gyrchwyd ar y tab Fy Sefydliad yn y panel Offer. Gyda’ch caniatâd, gall arsylwyr weld data Canolfan Raddau sydd ar gael ar gyfer eu myfyrwyr cysylltiedig.

Mwy ar fynediad arsylwr


Arbedwch ac ailddefnyddiwch osodiadau a data Canolfan Raddau

Yn y tabl hwn, dysgwch sut y gallwch arbed ac ailddefnyddio gosodiadau a data Canolfan Raddau o fewn cwrs.

Arbedwch ddewisiadau data
Swyddogaeth Sut Ymdrinnir â Gosodiadau a Data'r Ganolfan Raddau
Archifo Mae Archif yn creu copi cyflawn o gwrs mewn fformat ffeil ZIP. Mae’r holl golofnau gradd, graddau myfyrwyr, a gosodiadau cysylltiedig yn y cwrs ffynhonnell cysylltiedig wedi’u cynnwys yn y pecyn cwrs.
Adfer Mae Adfer yn defnyddio cwrs wedi’i archifo i greu cwrs newydd. Mae’r holl golofnau gradd, graddau myfyrwyr, a gosodiadau cysylltiedig yn y cwrs archif dewisol wedi eu hadfer i’r cwrs cyrchfan. Mae'r colofnau graddau cronnus ym mhecyn y cwrs wedi'i archifo yn disodli'r cyfanswm pwyntiau terfynol diofyn a'r colofnau graddau wedi'u pwysoli terfynol yn y cwrs newydd.
Copïwch Ddeunyddiau Cwrs i mewn i Gwrs Newydd Dewiswch ddeunydd o gwrs presennol yr hoffech ei gopïo mewn cwrs newydd. Mae gosodiadau Canolfan Raddau'r cwrs gwreiddiol yn cael eu copïo yn y cwrs newydd. Pan ddewiswch y Ganolfan Raddau fel rhan o’r copi, mae‘r holl golofnau gradd cyfrifedig a gosodiadau cysylltiedig yn y cwrs ffynhonnell yn cael eu copïo i’r cwrs cyrchfan. Mae'r colofnau graddau cronnus yn y cwrs ffynhonnell yn disodli'r cyfanswm pwyntiau terfynol diofyn a'r colofnau graddau wedi'u pwysoli terfynol yn y cwrs newydd.
Copïwch Ddeunyddiau Cwrs i mewn i Gwrs sy’n Bodoli Dewiswch ddeunydd o gwrs presennol i'w gopïo mewn cwrs arall sydd eisoes yn bodoli. Ychwanegir colofnau Canolfan Raddau o'r cwrs sydd wedi'i gopïo at unrhyw golofnau sydd eisoes yn bodoli yn y cwrs cyrchfan. Pan ddewiswch y Ganolfan Raddau fel rhan o’r copi, mae’r holl golofnau gradd wedi’u cyfrifo a gosodiadau cysylltiedig yn y cwrs ffynhonnell yn cael eu copïo i mewn i’r cwrs cyrchfan. Mae'r cyrsiau ffynhonnell a chyrchfan yn cael eu huno ac nid oes unrhyw beth yn y gyrchfan yn cael ei ddisodli. Mae'r cwrs cyrchfan yn cynnwys yr holl golofnau graddau wedi'u cyfrifo o'r ddau gwrs. Gallai’r canlyniad fod yn ddyblygiad o’r cyfanswm pwyntiau terfynol a cholofnau gradd terfynol wedi’u pwysoli.
Copïo Cwrs gyda Defnyddwyr (Union Gopi) Gwneud dyblygiad union o gwrs sy’n bodoli sy’n cynnwys pob defnyddiwr a’u data. Mae'r holl golofnau graddau wedi'u cyfrifo, graddau myfyrwyr a gosodiadau cysylltiedig yn y cwrs ffynhonnell, yn cael eu copïo yn y cwrs cyrchfan. Mae'r colofnau graddau wedi'u cyfrifo yn y cwrs ffynhonnell yn disodli'r cyfanswm pwyntiau terfynol diofyn a'r colofnau graddau wedi'u pwysoli terfynol yn y cwrs newydd.
Allgludo Gydag allgludiad, gallwch ddewis pob rhan o gwrs sy’n boboli i ychwanegu at ffeil ZIP wedi’i hallgludo. Nid yw allgludiad yn cynnwys data myfyrwyr. Pan ddewiswch y Ganolfan Raddau fel rhan o allgludiad, mae’r holl golofnau gradd wedi’u cyfrifo a gosodiadau cysylltiedig wedi eu cynnwys yn y pecyn cwrs.
Mewngludo Pecyn Defnyddiwch Becyn Mewngludo i uwchlwytho deunyddiau cwrs detholedig o ffeil ZIP wedi’i hallgludo i mewn i gwrs. Mae naill ai’r ffeil ZIP gyfan neu rannau detholedig yn cael eu huwchlwytho. Pan ddewiswch y Ganolfan Raddau fel rhan o weithred mewngludo, mae’r holl golofnau gradd wedi’u cyfrifo a gosodiadau cysylltiedig yn y pecyn cwrs a allgludir yn cael eu mewngludo i’r cwrs cyrchfan. Mae pecyn y cwrs a'r cyrsiau cyrchfan yn cael eu huno ac nid oes unrhyw beth yn y gyrchfan yn cael ei ddisodli. Mae'r cwrs cyrchfan yn cynnwys yr holl golofnau graddau wedi'u cyfrifo o'r ddau gwrs. Gallai’r canlyniad fod yn ddyblygiad o’r cyfanswm pwyntiau terfynol a cholofnau gradd terfynol wedi’u pwysoli, sy’n cael ei ganiatáu.