Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Sicrhau bod y Ganolfan Raddau yn hygyrch
I sicrhau fod y Ganolfan Raddau Wreiddiol yn hygyrch i gymaint o bobl ag y bo modd, gallwch ddefnyddio dau fodd:
- Modd Rhyngweithiol: Gosodiad rhagosodedig y Ganolfan Graddau ble gallwch chi rewi colofnau a theipio graddau yn uniongyrchol yn y celloedd – gelwir yn olygu mewnol.
- Modd Darllenydd Sgrin: Mae data Canolfan Raddau yn ymddangos mewn grid syml. Byddwch yn teipio graddau yn y dudalen Manylion Gradd a gyrchir o ddewislen cell. Ni allwch chi rewi colofnau na golygu yn fewnol. Pan fyddwch chi’n cyrchu’r Ganolfan Graddau â darllenydd sgrîn, byddwch chi’n cael y dewis i ddefnyddio’r wedd hon sydd ddim yn rhyngweithiol. Cyrchwch y ddewislen ar gyfer pennawd y Ganolfan Graddau a throwch y modd ymlaen.
Ni chaiff y Modd Darllenydd Sgrîn ei gadw ar draws sesiynau. Wedi i chi allgofnodi, mae’r wedd yn newid yn ôl yn ddiofyn i’r Modd Rhyngweithiol.
Yn y ddau fodd, gallwch wneud un o'r canlynol:
- Symudwch bwyntiwr y llygoden o golofn i golofn gan ddefnyddio’r fysell tab.
- Llywiwch y celloedd yn defnyddio’r bysellau saeth i fyny, i lawr, i'r chwith, ac i'r dde ar fysellfwrdd safonol.