Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Tri Math o Golofnau

Yn y Ganolfan Raddau, mae tri math o golofnau'n ymddangos: defnyddiwr, wedi’i gyfrifo, a gradd. Mae gan bob colofn ddewislen gydag opsiynau. Mae'r opsiynau sy'n ymddangos yn amrywio yn seiliedig ar fath y golofn.

Pan fyddwch yn creu neu'n golygu colofnau, gallwch ddewis gosodiadau i arddangos y data rydych am ei arddangos yn y Ganolfan Raddau. Gallwch hefyd guddio a dangos colofnau, cydgysylltu colofnau â chategorïau a chyfnodau graddio, ac aildrefnu colofnau.

Ynghylch colofnau cyfrifedig


Am golofnau defnyddiwr

Yn y cwrs newydd, mae chwe cholofn ddiofyn yn ymddangos yng ngrid y Ganolfan Raddau:

  • Enw Olaf
  • Enw Cyntaf
  • Enw defnyddiwr
  • ID Myfyriwr
  • Mynediad Diwethaf
  • Argaeledd

Ni allwch ddileu neu olygu colofnau defnyddiwr diofyn. Gallwch guddio pob un ond am y golofn defnyddiwr cyntaf yn y grid. Os ydych angen cuddio’r golofn gyntaf, gallwch aildrefnu'r colofnau defnyddiwr ar y dudalen Trefnu Colofnau. Ond, rhaid dangos un colofn defnyddiwr o leiaf. Gallwch rhewi colofnau defnyddiwr hefyd fel eu bod yn aros yn eu lle wrth i chi sgrolio yn y grid.

Ar y dudalen Defnyddwyr, gallwch roi statws ddim ar gael i ddefnyddiwr. Yn y Ganolfan Raddau, mae'r eicon Defnyddiwr Ddim ar Gael yn ymddangos yng ngholofn defnyddiwr nad yw ar gael. Fodd bynnag, nid yw rhes y defnyddiwr wedi ei chuddio yn y grid. Ni all defnyddwyr nad ydynt ar gael gyrchu eich cwrs.

I drefnu colofn, dewiswch bennawd y golofn. Er enghraifft, gallwch roi trefn ar y golofn Mynediad Diwethaf. Y defnyddwyr a gyrchodd eich cwrs mwyaf diweddar sy'n ymddangos yn gyntaf yn y rhestr. Mae'r rhestr a ddidolwyd yn aros fel y mae tan i chi ei newid neu allgofnodi.


Colofn gradd allanol

Mae'r canlyniadau yn y golofn gradd allanol yn cael eu rhannu â'ch sefydliad fel graddau terfynol eich myfyrwyr ar gyfer eich cwrs. Chi sy'n dewis pa golofn a osodir fel y radd allanol. Mewn cyrsiau newydd, y cyfanswm colofn diofyn yw'r golofn gradd allanol ddiofyn, ac mae’r eicon Gradd Allanol yn ymddangos ym mhennawd y golofn. Ni allwch ddileu'r golofn cyfanswm diofyn nes eich bod yn gosod colofn arall fel y radd allanol.

I osod y radd allanol, agorwch ddewislen colofn a dewiswch Gosod fel Gradd Allanol. Mae’r eicon Gradd Allanol yn ymddangos ym mhennyn y golofn rydych wedi ei dewis ac ni fydd unrhyw eicon yn ymddangos ym mhennyn y golofn cyfanswm diofyn.

Os byddwch yn copïo neu'n adfer cwrs, mae'r golofn gradd allanol y byddwch yn ei dewis yn aros fel y golofn gradd allanol.


Opsiynau dewislen

Mae dewislen pob colofn yn arddangos opsiynau sydd yn benodol ar gyfer y golofn honno.

Enghraifft: Golygu enwau colofnau

Yn y Ganolfan Graddau, chewch chi ddim newid Enw Eitem colofnau sydd wedi’u creu yn awtomatig ar gyfer eitemau y gellir eu graddio, megis profion ac aseiniadau. Gallwch olygu enw eitem a raddir yn eich cwrs a bydd yr enw'n newid yn y Ganolfan Raddau.

Ar y dudalen Golygu Colofn ar gyfer colofnau a grëwyd yn awtomatig, gallwch deipio enw gwahanol yn y blwch Enw'r Ganolfan Raddau. Mae'r enw rydych yn ei ddarparu yn ymddangos i chi yn unig yng ngrid y Ganolfan Raddau. Ni fydd myfyrwyr yn gweld yr enw hwn. Nid yw enw’r eitem yn eich cwrs yn newid.

Rhagor am gyrchu dewislenni colofnau â JAWS®


Dileu colofnau graddau’n awtomatig

Os ydych yn dileu ffolder cynnwys mewn ardal cynnwys sy’n cynnwys eitemau a raddir sydd heb ymgeisiau, dilëir y colofnau cyfatebol o'r Ganolfan Raddau hefyd.

Rhagor am ddileu cynhwyswyr a chynnwys

Cuddio Colofnau rhag Myfyrwyr


Allaf reoli pan fydd myfyrwyr yn gweld eu graddau ac adborth?

Gallwch guddio colofn o dudalennau Fy Ngraddau myfyrwyr wrth ichi aseinio graddau ac adborth. Pan fyddwch yn cuddio colofn rhag eich myfyrwyr, byddwch yn ei gweld o hyd yng ngrid y Ganolfan Raddau.

  1. O'r Ganolfan Raddau, ewch i ddewislen colofn a dewiswch Golygu Gwybodaeth am y Golofn.
  2. Ar dudalen Golygu Colofn page, ewch i'r adran Opsiynau.
  3. Dewiswch Na ar gyfer Cynnwys y golofn hon yng nghyfrifiadau'r Ganolfan Raddau a Dangos y golofn hon i fyfyrwyr.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Ni fydd y gwaith a raddiwyd yn ymddangos i fyfyrwyr ar eu tudalennau Fy Ngraddau. Os yw myfyriwr yn cyrchu'r gwaith a raddiwyd o fewn ardal cynnwys, nid ymddengys gradd nac adborth.

Yng ngrid y Ganolfan Raddau, ymddengys y golofn gyda'r eicon Nid yw'r Golofn yn Weladwy i Ddefnyddwyr nesaf at deitl y golofn.

Pan fyddwch yn barod i ryddhau graddau ac adborth i fyfyrwyr, ewch i'r dudalen Golygu Colofn a dewiswch Ie ar gyfer y ddau opsiwn.


Colofnau gradd a grëwyd yn awtomatig

Pan fyddwch yn creu eitemau a raddir yn eich cwrs, creir colofnau gradd yn awtomatig yn y Ganolfan Raddau. Gallwch olygu colofn gradd i’w hailenwi, ei chysylltu â chategori gwahanol, a'i chysylltu â chyfarwyddyd a chyfnod graddio. Gallwch hefyd bennu p’un a fydd myfyrwyr yn gweld y canlyniadau yn Fy Ngraddau, a chynnwys neu eithrio colofn mewn cyfrifiadau.

Ar ôl i fyfyrwyr gyflwyno gwaith sydd yn barod i chi ei raddio, mae eicon Angen Graddio yn ymddangos yn eu celloedd.

  • Aseiniadau: Gallwch gyflwyno aseiniadau i unigolion neu grwpiau.
  • Arolygon: Sgorir arolygon yn awtomatig gan y system. Pan fydd myfyriwr yn cwblhau arolwg, mae eicon Wedi Cwblhau yn ymddangos yng nghell y myfyriwr. I weld canlyniadau arolwg, agorwch ddewislen y golofn a dewiswch Ystadegau Ymgeisiau. Gallwch weld canran y myfyrwyr a ddewisodd bob ateb. Ni allwch edrych ar ganlyniadau unigol gan fod ymatebion myfyrwyr yn ddienw.
  • Profion: Sgorir y rhan fwyaf o arolygon yn awtomatig gan y system. Os byddwch yn creu prawf sy'n cynnwys cwestiynau a sgorir yn awtomatig yn unig, mae'r graddau'n ymddangos yng nghelloedd y myfyrwyr. Os byddwch yn creu prawf sy'n cynnwys cwestiynau y mae angen i chi eu sgorio â llaw, fel cwestiynau Traethawd, mae'r eicon Angen Graddio yn ymddangos yng nghelloedd myfyrwyr. Mae'n rhaid i chi raddio'r cwestiynau hynny cyn i ganlyniadau'r prawf ymddangos yng nghelloedd y myfyrwyr.
  • Cylch trafod: Os galluogoch raddio ar gyfer fforymau neu edafedd, mae'n rhaid i chi raddio postiadau a gyflwynwyd â llaw. Pan fydd aelod grŵp yn cyflwyno postiad mewn bwrdd trafod grŵp a raddir, mae'r radd a neilltuir gennych ar gyfer yr aelod unigol yn unig.
  • Blogiau, dyddlyfrau, a wikis: Os ydych chi wedi caniatáu graddio, rhaid i raddio cofnodion a chyfraniadau wiki a gyflwynwyd eich hun.
  • Presenoldeb: Os agorwch Presenoldeb o'r Panel Rheoli > Offer y Cwrs, gallwch greu presenoldeb yn y Ganolfan Raddau.

Colofnau graddau a grëwyd â llaw

Gallwch greu colofnau gradd ar gyfer gweithgareddau a gynhaliwyd y tu allan i'r dosbarth, fel ffair gwyddoniaeth neu sioe gelf â rheithgor. Neu, gallwch neilltuo credyd am gymryd rhan neu bresenoldeb mewn digwyddiad. Ar gyfer eitemau rydych wedi'u hychwanegu eich hun, nid oes unrhyw gyflwyniadau. Bydd y golofn yn cael ei phoblogi pan fyddwch yn neilltuo’r graddau.

  1. Yn y Ganolfan Graddau, dewiswch Creu Colofn.
  2. Ar y dudalen Creu Colofn Gradd, teipiwch enw cryno a disgrifiad opsiynol. Mae'r enw hwn yn dod yn enw'r golofn yn y Ganolfan Raddau ac ar dudalennau Fy Ngraddau myfyrwyr. Os yw'r enw yn rhy hir i arddangos yn glir yn y Ganolfan Raddau, ychwanegwch enw byrrach yn y blwch Enw'r Ganolfan Raddau.
  3. Gwnewch ddetholiad yn y ddewislen Dangosydd Sylfaenol. Y detholiad yw'r fformat graddio sy'n cael ei ddangos yn y Ganolfan Raddau ac i fyfyrwyr yn Fy Ngraddau. Os creoch unrhyw gynlluniau graddio wedi eu haddasu, maent yn ymddangos yn y rhestr. Bydd pum opsiwn diofyn yn ymddangos:
    • Sgôr: Gradd rhifol yw’r gosodiad diofyn Os na fyddwch yn dewis, bydd y sgôr yn ymddangos yn y grid.
    • Llythyren: Mae gradd llythyren yn ymddangos. Defnyddir sgema graddio diofyn i neilltuo graddau llythyren. Er enghraifft, mae sgôr o 21/30 yn cyfateb i 70% ac yn ymddangos fel C.
    • Testun: Mae testun yn ymddangos yn y golofn pan fyddwch yn creu a chysylltu sgema graddio testun. Mae enghreifftiau o werthoedd testun yn cynnwys: Rhagorol, Da iawn, Da, Gweddol, a Gwael -NEU- Boddhaol ac Anfoddhaol. Os nad oes unrhyw sgema graddio testun yn bodoli, a’ch bod yn dewis yr opsiwn Testun, gallwch deipio testun yng nghelloedd y golofn. Cyfyngu’ch testun i fod yn 32 nod. Os fyddwch yn dewis rhannu canlyniadau'r golofn â myfyrwyr yn Fy Ngraddau, byddant yn gweld y gwerthoedd testun ar gyfer eu graddau.

      Gallwch drosi sgôr rhifol i destun. Ond os na fyddwch yn creu sgema graddio testun a addasir, ac yn dychwelyd i sgorio rifol, mae gwerthoedd na ellir eu trosi'n arddangos sero ar ôl eu trosi. Os ydych am gynnwys testun fel graddau, rydym yn argymell eich bod yn creu sgema graddio testun ac yn ei gysylltu â'r colofnau priodol.

    • Canran: Mae canran yn ymddangos. Er enghraifft, mae sgôr o 21/30 yn ymddangos fel 70%.
    • Cyflawn/Anghyflawn: Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno eitem, mae'r eicon Wedi’i Gwblhau yn ymddangos yn y golofn waeth beth fo’r sgôr a gyflawnwyd.
  4. Fel arall, gwnewch ddetholiad yn y ddewislen Dangosydd Eilaidd. Y gosodiad diofyn yw Dim. Yng ngholofn y Ganolfan Raddau , mae'r ail werth yn ymddangos mewn cromfachau. Nid yw'r gwerth eilaidd yn ymddangos i fyfyrwyr.
  5. Fel arall, gallwch gysylltu’r golofn gyda chategori. Y gosodiad diofyn yw Dim Categori. Defnyddiwch gategorïau i hidlo data'r Ganolfan Raddau, creu gwedd gall, a chreu colofnau a gyfrifwyd.
  6. Yn y blwch Pwyntiau Posibl, teipiwch gyfanswm y pwyntiau. Rhaid i gofnodion fod ar ffurf rhif.

    Os byddwch yn rhoi 0 fel y pwyntiau posib, bydd unrhyw sgema graddio sy'n defnyddio canran, megis Canran neu Lythyren, yn cael ei gynrychioli yn y Ganolfan Raddau Lawn fel sgôr. Mae'r sgemâu graddio hyn yn seiliedig ar ganran y sgôr o'i gymharu â'r pwyntiau posib. Pan mai 0 yw'r pwyntiau posib, nid oes modd cyfrifo canran.

  7. Os yw cyfnodau graddio’n bodoli, gallwch gysylltu’r golofn gyda chyfnod graddio. Os nad oes unrhyw gyfnodau graddio'n bodoli, nid yw'r ddewislen yn ymddangos. Gallwch ddefnyddio cyfnodau graddio i hidlo data'r Ganolfan Raddau a chreu colofnau a gyfrifwyd.
  8. Fel arall, rhowch Ddyddiad Dyledus. Gallwch ddefnyddio dyddiadau dyledus gyda’r Ganolfan Gadw i gynhyrchu rhybudd os nad yw prawf neu aseiniad yn cael ei gyflwyno ar amser. Mae dyddiadau cyflwyno hefyd yn ymddangos ar galendr y cwrs.
  9. Dewiswch yr Opsiynau:
    • Cynhwyswch y Golofn hon yng Nghyfrifiadau’r Ganolfan Raddau: Dewiswch Ie i drefnu bod y golofn ar gael ar gyfer ei chynnwys o bosibl wrth greu colofnau a gyfrifwyd.
    • Dangos y Golofn hon i Fyfyrwyr: Dewiswch Ie i ddangos y golofn hon i fyfyrwyr yn Fy Ngraddau.
    • Dangoswch ystadegau (cyfartaledd a chanolrif) ar gyfer y Golofn hon i Fyfyrwyr yn Fy Ngraddau: Dewiswch Ie i gynnwys gwybodaeth ystadegol gyda gwerth y radd pan ddangosir i fyfyrwyr.

    Pan fyddwch yn golygu’r golofn Canolfan Raddau ar gyfer prawf, efallai na fydd yr opsiynau i Gynnwys y Golofn hon mewn Cyfrifiadau Eraill y Ganolfan Raddau a Dangos Ystadegau (cyfartaledd a chanolrif) ar gyfer y Golofn hon i Fyfyrwyr yn Fy Ngraddau ar gael. Ni fydd yr opsiynau hyn ar gael os y gwnaethoch ddewis yr opsiwn i Guddio Canlyniadau ar gyfer y Prawf hwn yn Llwyr rhag yr Hyfforddwr ac o’r Ganolfan Raddau ar y dudalen Opsiynau’r Prawf.

  10. Dewiswch Cyflwyno.