Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Yn y Ganolfan Raddau, gallwch roi credyd ychwanegol i fyfyrwyr mewn tair ffordd:

  • Credyd ychwanegol ar gyfer y golofn cyfanswm
  • Credyd ychwanegol wrth bwysoli graddau - wedi’i ychwanegu at gategori
  • Credyd ychwanegol ar gyfer colofn cyfanswm wedi’i bwysoli

Credyd ychwanegol ar gyfer y golofn cyfanswm

Gallwch greu colofn credyd ychwanegol yn y Ganolfan Graddau gydag uchafswm sgôr o 0 sydd wedi’i gynnwys yng nghyfrifiad y golofn Cyfanswm diofyn. Yna, gellir neilltuo pwyntiau credyd ychwanegol yn ôl yr angen.

Mae'r dull hwn yn gweithio ar gyfer un golofn credyd ychwanegol unigol yn unig lle nad yw graddau wedi’u pwysoli.

Enghraifft: Colofnau yn y Ganolfan Raddau

Colofnau Canolfan Raddau gyda phwyntiau posibl
Colofn Pwyntiau Posibl
Aseiniad 1 10
Aseinio 2 10
Traethawd 50
Prawf 30
Credyd Ychwanegol 0
Cyfanswm 100

Os byddwch yn rhoi 0 fel y pwyntiau posib, bydd unrhyw sgema graddio sy'n defnyddio canran, megis Canran neu Lythyren, yn cael ei gynrychioli yn y Ganolfan Raddau Lawn fel sgôr. Mae'r sgemâu graddio hyn yn seiliedig ar ganran y sgôr o'i gymharu â'r pwyntiau posib. Pan mai 0 yw'r pwyntiau posib, nid oes modd cyfrifo canran.

Creu colofn credyd ychwanegol

  1. Yn y Ganolfan Graddau, dewiswch Creu Colofn.
  2. Ar y dudalen Creu Colofn Graddau, rhowch y wybodaeth briodol.
  3. Dewiswch Sgôr o’r ddewislen Prif Arddangoswr.
  4. Dewiswch Canran o’r ddewislen Arddangoswr Eilaidd.
  5. Ar gyfer Pwyntiau Posibl, teipiwch 0.
  6. DewiswchIe ar gyfer Cynnwys y Golofn hon yng Nghyfrifiadau’r Ganolfan Raddau.
  7. Dewiswch Cyflwyno.

Bydd y golofn credyd ychwanegol yn ymddangos yn y Ganolfan Raddau. Ar ôl i chi ychwanegu pwyntiau mewn colofn credyd ychwanegol, gall cyfanswm pwyntiau myfyriwr gyfateb i fwy na 100 y cant. Os bydd myfyriwr yn derbyn credyd llawn am bob eitem a raddir (100 pwynt) a'i fod hefyd yn derbyn 6 phwynt credyd ychwanegol, y cyfanswm yw 106 allan neu 100 neu 106%.


Creu credyd ychwanegol wrth bwysoli graddau

Mae’r golofn cyfanswm wedi ei phwysoli yn cynhyrchu gradd yn seiliedig ar ganlyniad colofnau a chategorïau a ddewisir, a'u canrannau priodol. Pan fyddwch chi’n creu colofn wedi ei phwysoli, gallwch gynnwys colofnau eraill a gyfrifwyd a cholofnau eraill a bwysolwyd. Eich opsiynau yw ychwanegu pwyntiau credyd ychwanegu i gategori neu i’r radd gyffredinol.

Mwy ar greu colofn cyfanswm wedi'i phwysoli

Ychwanegu pwyntiau credyd ychwanegol i gategori

Enghraifft:

Rydych chi am ychwanegu 5 pwynt credyd ychwanegol i brofion. Yn y Ganolfan Graddau, ewch ati i greu colofn credyd ychwanegol sydd werth 10 o bwyntiau. Ar ôl ychwanegu y 5 pwynt ar gyfer pob myfyriwr i’r golofn credyd ychwanegol, ewch ati i greu colofn arall i gyfrifo cyfanswm y graddau cyfun. Mae’r golofn “Cyfanswm Profion” yn cynnwys unrhyw golofnau sy’n cynnwys graddau a’r golofn credyd ychwanegol. Pan fyddwch chi’n creu’r golofn cyfanswm wedi’i phwysoli, yn lle ychwanegu’r categori “Profion” werth 20%, ychwanegwch y golofn “Cyfanswm Profion” am 20%.

  1. Yn y Ganolfan Graddau, dewiswch Creu Colofn.
  2. Ar y dudalen Creu Colofn Graddau, rhowch y wybodaeth briodol ar gyfer colofn credyd ychwanegol profion.
  3. Dewiswch Sgôr o’r ddewislen Prif Arddangoswr.
  4. Ar gyfer Pwyntiau Posibl, teipiwch 0.
  5. DewiswchIe ar gyfer Cynnwys y Golofn hon yng Nghyfrifiadau’r Ganolfan Raddau.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Ewch ati i greu colofn arall i gyfrifo cyfanswm y colofnau profion a’r golofn credyd ychwanegol profion.

  1. Dewiswch Creu Colofn Gyfrifiedig i gyrchu’r ddolen a dewis Colofn Cyfanswm.
  2. Nodwch y wybodaeth briodol ac enw fel “Cyfanswm Profion”.
  3. Dylech gynnwys y colofnau prawf a’r golofn credyd ychwanegol profion.
  4. Dewiswch Canran o’r ddewislen Prif Arddangoswr.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Ar gyfer eich colofn cyfanswm pwysol, gwiriwch mai’r golofn “Cyfanswm Profion” sy’n cael ei phwysoli ac nid y categori “Profion.”

Pan fyddwch yn cyfuno colofn credyd ychwanegol â cholofn cyfanswm pwysol, mae’r ddwy yn cael eu cyfrif fel pwyntiau yn hytrach na chanrannau. Darllen rhagor am y rhesymeg fathemategol a ddefnyddir gan golofnau cyfanswm pwysol.

Ychwanegu pwyntiau credyd ychwanegol at y radd gyffredinol

  1. Yn y Ganolfan Graddau, dewiswch Creu Colofn.
  2. Ar y dudalen Creu Colofn Graddau, rhowch y wybodaeth briodol ar gyfer colofn credyd ychwanegol.
  3. Dewiswch Sgôr o’r ddewislen Prif Arddangoswr.
  4. Ar gyfer Pwyntiau Posibl, teipiwch 0.
  5. DewiswchIe ar gyfer Cynnwys y Golofn hon yng Nghyfrifiadau’r Ganolfan Raddau.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Crëwch golofn “Cyfanswm Terfynol” sy’n cynnwys y golofn “Cyfanswm wedi’i Bwysoli” a’r golofn “Clod Ychwanegol”.