Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.
Cyrchu'r Ganolfan Raddau
Rydych yn cyrchu'r Ganolfan Raddau o'r Panel Rheoli. Ehangwch adran y Ganolfan Raddau i ddangos y dolenni i'r dudalen Angen Graddio, y Ganolfan Raddau Lawn, a'r golygon call.
Mwy am gyrchu'r Ganolfan Raddau gyda JAWS®
Ar y dudalen Angen Graddio, gallwch ddechrau graddio aseiniadau, aseiniadau grŵp, profion, cofnodion blog a siwrnal, tudalennau wiki wedi'u cadw, a phostiadau trafod.
Rhagor am y dudalen Angen ei Raddio
Mae'r ddolen Canolfan Raddau Lawn yn dangos yr holl golofnau a rhesi yn y Ganolfan Raddau a dyma wedd ddiofyn y Ganolfan Raddau.
Mae'r dolenni golwg call yn ymddangos fel rhestr wedi'i mewnoli yn adran y Ganolfan Raddau Lawn. Mae golwg call yn wedd sy'n canolbwyntio ar y Ganolfan Raddau ac yn dangos y data sy'n cyd-fynd â set o feini prawf yn unig. Gallwch ddefnyddio golygon call i ddod o hyd i ddata'n gyflym pan fo'r Ganolfan Raddau yn cynnwys nifer fawr o fyfyrwyr a cholofnau. Er enghraifft, mae'r golwg call Profion diofyn yn dangos dim ond colofnau prawf.
Gallwch bersonoli'ch gwedd o'r ganolfan raddau a chreu sgemâu graddio, cyfnodau graddio, categorïau, a cholofnau i gyflwyno a chasglu'r wybodaeth rydych ei angen.
Swyddogaethau'r Ganolfan Raddau
Gallwch berfformio llawer o weithredoedd yn y Ganolfan Raddau â'r swyddogaethau sy'n ymddangos mewn dwy res ar frig y dudalen.
Mae'r swyddogaethau hyn yn ymddangos yn y rhes gyntaf:
- Creu Colofn: Creu colofn raddau.
- Creu Colofn a Gyfrifir: Agorwch ddewislen sydd ag opsiynau i greu colofnau a gyfrifir.
- Rheoli: Mae'r opsiynau'n cynnwys cyfnodau graddio, sgemâu, categorïau, codau lliw, gweladwyedd rhesi, e-bost, a threfnu colofnau.
- Adroddiadau: Crëwch adroddiadau o ddata'r Ganolfan Raddau a chyrchwch hanes y graddau ar gyfer pob myfyriwr.
- Hidlo: Culhau eich gwedd o ddata'r Ganolfan Raddau. Dewiswch Hidlo i ehangu'r maes a dewiswch opsiwn o'r dewislenni hyn:
- Gwedd Gyfredol: Gan gynnwys y wedd Canolfan Raddau Lawn, gweddau clyfar a chyfnodau graddio. Gallwch ddewis un o'r gweddau i'w defnyddio fel y wedd ddiofyn gyda'r eicon Gosod Gwedd Gyfredol fel Diofyn.
- Categori: Yn cynnwys yr holl gategorïau diofyn a'r rhai rydych wedi'u creu.
- Statws
Dangos ymgeisiau nad ydynt yn cyfrannu at radd y defnyddiwr: Mae'r wedd ddiofyn mewn dewislen cell gradd yn dangos pob ymgais a wnaed. Gallwch glirio'r blwch ticio a gweld dim ond yr ymgais y mae angen i chi ei raddio yn newislen cell pob gradd.
- Gweithio All-lein: Gweithio gyda data'r Ganolfan Raddau y tu allan i Blackboard Learn.
Mae'r swyddogaethau hyn yn ymddangos yn yr ail res:
- Symud i'r Top: Dewiswch un neu fwy o flychau ticio ar gyfer defnyddwyr a dewiswch Symud i'r Top i symud y rhesi i'r safleoedd cyntaf ar y grid.
- E-bost: Dewiswch un neu fwy o flychau ticio ar gyfer defnyddwyr, dewiswch E-bost, a gwnewch ddewis.
- Didoli Colofnau Yn Ôl: Agorwch ddewislen sydd ag opsiynau i ddidoli'r Ganolfan Raddau.
- Trefn: Didoli'r data mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol. Mae'r wedd yn parhau hyd nes i chi ddidoli colofnau eto neu allgofnodi.
Cyrchu dewislenni'r Ganolfan Raddau
Ar draws Blackboard Learn, mae'n bosib bod gan eitemau ddewislenni gydag opsiynau sy'n benodol i bob eitem.
Yn y Ganolfan Raddau, mae gan bob cell a phennyn colofn ddewislen. Er enghraifft, mae dewislen colofn prawf yn cynnwys opsiynau ar gyfer Ystadegau Colofn a Graddio Cwestiynau. Ar gyfer colofn nad yw'n ymwneud â graddau, fel Enw Cyntaf, mae gennych yr opsiynau ddim ond i guddio'r golofn a didoli'r celloedd. Os nad yw opsiwn yn ymddangos yn y ddewislen, ni allwch berfformio'r weithred ar y golofn, rhes neu gell honno.
Pwyntiwch at bennyn cell neu golofn i weld yr eicon Cliciwch am fwy o opsiynau. Dewiswch yr eicon i agor y ddewislen.
Ni fyddwch yn gweld rhai opsiynau dewislen os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn neu'n analluogi rhai swyddogaethau.
Opsiynau dewislen ar gyfer colofnau
Mae dewislen pob colofn yn dangos opsiynau sy'n benodol i'r golofn honno. Mae'n bosib y bydd yr opsiynau hyn ar gael.
Opsiwn | Disgrifiad |
---|---|
Gwybodaeth Gyflym am Golofn | Mae'n arddangos gwybodaeth am y golofn mewn ffenestr naid. |
Anfon Atgoffwr | Gallwch anfon e-byst atgoffa o golofnau'r Ganolfan Raddau i fyfyrwyr ac aelodau grwpiau y mae eu gwaith cwrs ar goll. |
Graddio Ymgeisiau | Rhowch radd ar gyfer ymgais a wnaethpwyd am yr eitem hon. |
Graddio gydag Enwau Defnyddiwr Wedi Eu Cuddio | Rhowch raddau ar gyfer yr eitem hon gydag enwau myfyrwyr wedi'u cuddio. |
Dadansoddiad Eitem | Mae'n darparu ystadegau am berfformiad prawf cyffredinol a pherfformiad cwestiynau unigol profion. Mae'r data hyn yn eich helpu i adnabod cwestiynau a allai fod yn wahaniaethwyr gwael o berfformiad myfyrwyr. Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i wella cwestiynau ar gyfer gweinyddu profion yn y dyfodol neu i addasu credyd ar geisiadau cyfredol. |
Ystadegau Ymgeisiau | Yn dangos y dudalen Ystadegau ar gyfer profion ac arolygon. Mae pob cwestiwn ar gyfer prawf neu arolwg yn ymddangos, yn ogystal â'i wybodaeth sgôr am brofion neu'r canran a atebwyd ar gyfer arolygon. Ar y dudalen Ystadegau Arolwg, gallwch weld canlyniadau'r arolwg. Mae canran y myfyrwyr a ddewisodd bob ateb yn ymddangos. Ni allwch weld canlyniadau unigol ar gyfer arolygon. |
Lawrlwytho Canlyniadau | Lawrlwythwch ddata Canolfan Raddau ar gyfer y golofn hon fel ffeil wedi'i gwahanu a ddefnyddir fel rhaglenni eraill, fel rhaglenni taenlen neu raglenni dadansoddi ystadegol. |
Gweld Pob Ymgais | Yn dangos y dudalen Gweld Pob Ymgais ar gyfer profion. O'r dudalen hon, gallwch raddio ymgeisiau, eu graddio'n ddienw, neu raddio yn ôl cwestiwn. |
Graddio Cwestiynau | Rhowch raddau ar gyfer pob un o'r ymatebion ar gyfer cwestiwn penodol ar un adeg. |
Lawrlwytho Ffeil Aseiniad | Dewis a lawrlwytho ffeiliau y mae myfyrwyr wedi'u hatodi i'w haseiniadau. |
Glanhau Ffeil Aseiniad | Dewis a dileu'r ffeiliau sydd wedi'u hatodi i aseiniad. |
Golygu Gwybodaeth y Golofn | Yn dangos y dudalen Golygu Colofn ar gyfer y golofn hon. |
Ystadegau Colofn | Yn dangos y dudalen Ystadegau Colofn ar gyfer y golofn hon. Mae'r ystadegau'n cynnwys manylion y golofn, dosbarthiad statysau, dosbarthiad graddau, ac ystadegau sylfaenol fel amrediad, cyfartaledd, canolrif ac amrywiad. |
Gosod fel Gradd Allanol | Mae'r canlyniadau yn y golofn Gradd Allanol yn cael eu rhannu â'ch sefydliad fel graddau terfynol eich myfyrwyr ar gyfer eich cwrs. Chi sy'n dewis pa golofn a osodir fel y radd allanol. Mewn cyrsiau newydd, y golofn Cyfanswm ddiofyn yw'r golofn gradd allanol ddiofyn, ac mae'r eicon Gradd Allanol yn ymddangos ym mhennyn y golofn. |
Cuddio Rhag Myfyrwyr (ymlaen/i ffwrdd) | Cuddiwch y golofn hon rhag defnyddwyr. Os fyddwch yn cuddio'r golofn, bydd y golofn yn parhau yng ngrid y Ganolfan Raddau, ond ni fydd eich myfyrwyr yn ei gweld yn Fy Ngraddau. Yn y grid, mae'r eicon Colofn Nid Yn Weladwy i Ddefnyddwyr yn ymddangos ym mhennyn unrhyw golofn sydd wedi'i chuddio rhag myfyrwyr. Dewiswch eto i ddangos y golofn i ddefnyddwyr. |
Clirio Ymgeisiau'r Holl Ddefnyddwyr | Yn dangos ffenest ar wahân lle gallwch glirio ymgeisiau ar gyfer yr holl ddefnyddwyr. Gallwch glirio ymgeisiau yn seiliedig ar feini prawf neu ystod dyddiad. |
Didoli Esgynnol/Didoli Disgynnol | Dangos yr eitemau yn y golofn mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol. |
Cuddio rhag Golwg Hyfforddwr | Mae'n cuddio'r golofn rhag ei gweld yn y Ganolfan Raddau. I ddangos y golofn, dewiswch y ddewislen Rheoli a dewiswch Trefnu Colofnau. |
Opsiynau dewislen ar gyfer celloedd
I weld yr eicon Clicio am fwy o opsiynau, pwyntiwch i'r cell ar grid y Ganolfan Raddau. Dewiswch yr eicon i agor y ddewislen.
Enghraifft:
Pan fyddwch yn agor y ddewislen ar gyfer cell enw defnyddiwr, mae gennych opsiynau i guddio rhes defnyddiwr, cuddio rhesi eraill i ffocysu eich sylw ar un rhes, neu e-bostio defnyddiwr. Gallwch weld pa eitemau sy'n weladwy i ddefnyddiwr yn seiliedig ar argaeledd a rheolau rhyddhau addasol neu ba eitemau a nododd defnyddiwr fel wedi eu hadolygu.
Gallwch weld y dudalen Ystadegau Defnyddiwr hefyd, sy'n darparu gwybodaeth ystadegol mewn perthynas â pherfformiad defnyddiwr.
Rhagor am ystadegau defnyddwyr
Allaf ddangos rhes un myfyriwr yn unig?
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i'r help "Ultra" am ddangos rhes un myfyriwr.
Gallwch gulhau'ch gwedd i ddangos rhes un myfyriwr yn unig a chanolbwyntio ar ymgeisiau a graddau'r myfyriwr hwnnw. Gallwch hefyd rannu graddau gyda'r myfyriwr mewn sesiwn swyddfa byw. Caiff y graddau ar gyfer myfyrwyr eraill eu diogelu a chaiff y preifatrwydd ei gynnal. Pan fyddwch yn cuddio rhesi defnyddwyr, fe gedwir y data a gallwch ei ddangos ar unrhyw adeg.
Agorwch y ddewislen ar gyfer enw cell myfyriwr a dewiswch Cuddio'r Rhesi Eraill.
O'r dudalen Amlygrwydd Rhes, gallwch guddio a dangos rhesi defnyddwyr. Yr hyn a welwch yng ngrid y Ganolfan Raddau yw'r unig beth fydd yn cael ei effeithio. Ni fydd hyn yn effeithio ar argaeledd myfyrwyr. Agorwch y dudalen o'r ddewislen Rheoli.
Os ydych wedi pennu defnyddiwr fel nid ar gael ar dudalen Defnyddwyr yn y Panel Rheoli, bydd eicon Defnyddiwr Ddim ar Gael yn ymddangos yng nghell gyntaf y defnyddiwr yn y Ganolfan Raddau. Ond, nid yw'r rhes yn gudd yn y grid. Ni all defnyddwyr nad ydynt ar gael gyrchu eich cwrs.
Gallwch hefyd hidlo, trefnu a didoli eich llyfr graddau.
Allwedd eiconau'r Ganolfan Raddau
Ar waelod y Ganolfan Raddau ar y dde, dewiswch Allwedd Eiconau i weld disgrifiadau'r eiconau. Gall eiconau ymddangos yng nghelloedd, dewislenni ymgais, penynnau colofn y Ganolfan Raddau, ar y dudalen Manylion Gradd ac ar y dudalen Angen Graddio.
Ni fyddwch yn gweld yr eicon "Nid yw'n cyfrannu at radd y defnyddiwr" os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn. Dysgu mwy am ddewis pa ymgais i'w raddio.