I gael gwared â'r risg o gofnodi data'r Ganolfan Raddau ddwywaith, gallwch raddio all-lein a mewngludo graddau i mewn i'r Ganolfan Raddau. Gallwch hefyd uwchlwytho graddau o ffynonellau allanol fel taenlen neu ffeil gwerthoedd a wahanir gan goma (CSV). Rhaid i chi fformatio data yn benodol i'w uwchlwytho yn gywir ac er mwyn ei gysoni gyda data cyfredol y Ganolfan Raddau.

Gallwch hefyd ddefnyddio Grades Journey i gadw a rhannu gwybodaeth am raddau ar gyfer cyrsiau ac aseiniadau unigol, os yw’ch sefydliad yn defnyddio’r nodwedd hon.

Video: Work Offline with Grade Center Data

Watch a video about working offline with Grade Center data

The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.


Video: Work Offline with Grade Center Data shows how to set download options, download the Grade Center file, upload the new file, and select which grades to change.

Lawrlwytho graddau o’r Ganolfan Raddau.

Gallwch lawrlwytho data llawn neu rannol o'r Ganolfan Raddau.

Ni fydd eitemau gyda graddio dienw wedi'i alluogi'n cael eu cynnwys yn y ffeil a lawrlwythwyd.

  1. Ewch i ddewislen Gweithio All-lein a dewiswch Lawrlwytho.
  2. Dewiswch y data i’w lawrlwytho, fel y disgrifir yn y tabl hwn.
    Y data i’w lawrlwytho
    Opsiwn Disgrifiad
    Canolfan Raddau Lawn Mae'n cynnwys pob colofn a data cysylltiedig. Ni fydd y sylwadau yn cael eu cynnwys, a does dim modd ichi eu hychwanegu all-lein.
    Cyfnod Marcio a Ddewiswyd O’r ddewislen, dewiswch gyfnod marcio. Mae’n rhaid ichi greu cyfnodau marcio cyn y gallwch chi ddewis rhai.
    Colofn a Ddewiswyd O’r ddewislen, dewiswch un golofn a’i data. Ticiwch flwch Cynnwys sylwadau ar gyfer y Golofn hon. Caiff y sylwadau eu lawrlwytho o Sylwadau Cyflym neu o dab Diystyru. Gallwch olygu testun sylw a gynhwysir all-lein.
    Gwybodaeth am y Defnyddiwr Cynhwysir colofnau sy'n cynnwys data am y myfyriwr fel enw defnyddiwr.
  3. Dewiswch y bylchwr ffeil, Coma neu Tab.
  4. Gallwch chi ddewis Cynnwys Gwybodaeth Gudd yn y data a lawrlwythwyd hefyd, ond mae hyn yn ddewisol. Mae gwybodaeth gudd yn cynnwys colofnau a myfyrwyr a guddioch chi yn y ffeil a lawrlwythwyd.
  5. Dewiswch y lleoliad ar gyfer y lawrlwytho. Cliciwch ar Pori i ddewis ffolder yn y Casgliad o Gynnwys, os oes gennych fynediad ato.
  6. Dewiswch Cyflwyno.
  7. Ar dudalen nesaf Lawarlwytho Graddau, dewiswch Lawrlwytho i gadw'r ffeil.

Lawrlwytho hanes graddau

  1. Ewch i ddewislen Adroddiadau a chliciwch arGweld Hanes Graddio.
  2. Ar dudalen Hanes Graddio, dewiswch Lawrlwytho a dewiswch Math o Amffinydd ar gyfer y ffeil.
  3. Dewiswch Ie i gynnwys sylwadau trwy glicio arCynnwys Sylwadau neu Na i beidio â’u cynnwys.
  4. Dewiswch Cyflwyno.
  5. Dewiswch Lawrlwytho i arbed y ffeil ar eich cyfrifiadur.

Gweithio all-lein

Ar ôl ichi lawrlwytho’r ffeil a’i hagor yn y feddalwedd olygu briodol, gallwch chi wneud newidiadau. Os byddwch yn lawrlwytho'r Ganolfan Raddau Lawn, gallwch newid ac ychwanegu graddau, a chadw'r ffeil i'w llwytho i fyny. Os lawrlwythoch golofn unigol, gallwch ychwanegu neu newid graddau a sylwadau, a chadw'r ffeil i'w llwytho i fyny.

Golygu sylwadau

Ni fydd sylwadau’n cael eu lawrlwytho oni bai bod un golofn o’r Ganolfan Raddau a’r opsiwn i gynnwys ei sylwadau cysylltiedig wedi eu dewis. Mae’r sylwadau a lawrlwythir neu a uwchlwythir yn berthnasol i’r radd—a gyrchir yn Sylwadau Cyflym neu ar dab Diystyru â Llaw. Nid yw’r sylwadau yn ymwneud â’r ymgais—a gyrchir ar Gweld yr Ymgais neu ar y tudalennau graddio.

Bydd pedair colofn sy’n gysylltiedig â sylwadau’n cael eu cynnwys yn y ffeil a lawrlwythir. Os ychwanegoch sylwadau ar-lein, byddant yn cael eu cynnwys yn y lawrlwytho. Fel arall, gallwch chi ychwanegu sylwadau all-lein a’u huwchlwytho i’r Ganolfan Raddau lawn i gael eu dangos yn Sylwadau Cyflym neu ar dab Diystyru.

Ychwanegu neu olygu sylwadau yn Nodiadau Graddio ac yng ngholofnau Adborth i'r Defnyddiwr.

Dylid mewnosod dolenni o fewn sylwadau i gyfryngau cyfoethog, fel delweddau neu ffeiliau sain, a’u golygu ar-lein.

Pan fydd eich golygu i raddau a sylwadau'n gyflawn, cadwch y ffeil, dychwelwch i'r Ganolfan Raddau Lawn, a llwythwch i fyny.

Colofnau sylwadau

Colofnau sylwadau
Enw’r Golofn Disgrifiad
Nodiadau Graddio Sylwadau sydd ond i’w cael yng ngholofnau’r Ganolfan Raddau y gall hyfforddwyr neu gynorthwywyr dysgu yn unig eu gweld
Fformat Nodiadau Testun clyfar, testun plaen, neu HTML
Adborth i'r Defnyddiwr Sylwadau sydd ond i’w cael yng ngholofnau’r Ganolfan Raddau y gall myfyrwyr eu gweld
Fformat Adborth Testun clyfar, testun plaen, neu HTML

Opsiynau ar gyfer fformat adborth

Opsiynau ar gyfer fformat adborth
Math o Fformat Disgrifiad
Testun clyfar Mae hyn yn adnabod dolen yn awtomatig a bysell Enter fel tag paragraff, ac yn derbyn tagiau HTML.
Testun plaen Mae'n arddangos testun wrth iddo gael ei ysgrifennu yn y maes testun. Nid yw testun plaen yn rendro cod HTML. Bydd cod HTML yn ymddangos fel testun.
HTML Mae’n arddangos testun fel y mae wedi ei godio gan y defnyddiwr gyda thagiau HTML.

Fformatio ffeiliau allanol

I gysoni data allanol â data Canolfan Raddau, mae angen dynodwyr unigryw ar gyfer pob myfyriwr ac ar gyfer pob colofn yn y Ganolfan Raddau. Yr hyn a ddefnyddir i adnabod pob myfyriwr yw ei enw defnyddiwr. Y dynodwr unigryw ar gyfer pob colofn yw rhif ID colofn. Caiff rhifau yn y golofn ID eu cynhyrchu gan y system, ac ni ddylech chi eu newid na’u dileu. Bydd colofnau sydd heb rifau yn y golofn ID mewn ffeil a uwchlwythwyd yn creu colofnau newydd yn y Ganolfan Raddau.

Caiff colofnau y byddwch yn eu hychwanegu at y Ganolfan Raddau o ffeil allanol eu hychwanegu fel colofnau testun, a bydd sero (0) i weld yn Pwyntiau Posib. Ni ellir cynnwys colofnau testun mewn colofnau rhifol, fel pwysolwyd, cyfanswm, cyfartaledd, ac uchafswm/lleiafswm Ar ôl uwchlwytho, troswch y colofnau testun i fathau eraill o golofnau ac ychwanegu pwyntiau posibl.

Mae angen rhes pennawd gydag un cofnod fesul llinell wedi hynny ar bob ffeil data rydych yn ei llwytho i fyny i’r Ganolfan Raddau.

Penderfynir fformat y data a lwythir i fyny i'r Ganolfan Raddau gan y math o amffinydd rydych yn ei ddefnyddio i ddosbarthu'r data i golofnau ar wahân. Gwahanir ffeiliau data gyda thabiau gydag estyniad ffeil XLS neu fe'u gwahanir gydag atalnod gydag estyniad ffeil CSV.

Rhaid i ddata ymhob colofn mewn ffeiliau lle mae gwerthoedd wedi’u gwahanu gan goma fod rhwng dyfynodau - “ “ yw’r math mwyaf cyffredin. Nid oes angen i’r data mewn ffeiliau lle mae’r gwerthoedd wedi’u gwahanu gan dabiau fod rhwng dyfynodau.


Awgrymiadau ar gyfer gweithio gyda data allanol

Wrth uwchlwytho data i’r Ganolfan Raddau, rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio ffeiliau lle mae’r gwerthoedd wedi’u gwahanu gan dabiau. Wrth ddefnyddio ffeiliau lle mae’r gwerthoedd wedi’u gwahanu gan dabiau, nid oes rhaid defnyddio dyfynodau a gallwch chi agor y ffeiliau yn uniongyrchol yn Microsoft® Excel®.

I gael ffeil sydd wedi fformatio'n gywir ar gyfer uwchlwytho, lawrlwythwch y Ganolfan Raddau lawn yn gyntaf ac agorwch hi mewn rhaglen golygydd testun neu daenlen. Mae gan golofnau cyfredol rif ID y golofn sy'n rhaid eu cynnwys mewn uwchlwythiadau yn y dyfodol.


Safonau ffeiliau swp

Ffeiliau TXT yw ffeiliau swp a all ddal llawer iawn o wybodaeth i'w huwchlwytho i'r system. Mae pob swp yn cynnwys cyfarwyddiadau penodol ar greu ffeil swp. Mae'r safonau ffeil swp hyn yn gyffredinol:

  • Mae'n rhaid i bob ffeil fod yn un o’r mathau o ffeiliau a gynhelir: TXT neu CSV.

    Mae Microsoft Excel fersiynau 2003 a hwyrach yn ychwanegu dyfynodau dwbl ym mhob maes yn awtomatig os cedwir y daflen waith ar ffurf ffeil CSV.

  • Mae'n rhaid i bob ffeil fod mewn fformat DOS. Mae'n rhaid i ffeiliau mewn fformat MAC neu UNIX gael eu trosi i fformat DOS.
  • Mae'n rhaid amgáu pob maes mewn dyfynodau dwbl, er enghraifft: "ENG_201"
  • Os bydd dyfynodau i’w gweld mewn maes, defnyddiwch nod dianc i ddangos nad yw’r nod nesaf yn dynodi diwedd y maes. Ôl-slaes (\) yw’r nod dianc, er enghraifft: "\"ENG_201\""
  • Mae’n rhaid i bob maes gael ei wahanu gan un o’r nodau bylchu hyn: atalnod, colon, neu dab. Wrth ddewis Awtomatig, dim ond un math o nod bylchu y gellir ei ddefnyddio ymhob ffeil swp. Dyma enghraifft: "CYM_201" neu "Llên Gymraeg" neu " "CYM_201":"Llên Gymraeg"
  • Rhaid i bob recordiad fod ar linell ar wahân.
  • Peidiwch â chynnwys llinellau gwag rhwng cofnodion. Bydd y llinell wag yn cael ei phrosesu ac yn dychwelyd gwall.
  • Rydym yn argymell na ddylai pob ffeil swp fod yn hwy na 500 o gofnodion, a hynny oherwydd cyfyngiadau ar faint o amser y mae’r rhan fwyaf o borwyr yn ei ganiatáu wrth uwchlwytho ffeiliau.

Uwchlwytho’r ffeil i’r Ganolfan Raddau

Caiff unrhyw ffeil y byddwch yn ei huwchlwytho a fydd yn cynnwys ‘Anghyflawn’ am gofnod gradd ei gosod yn ‘null’, ac ni ddangosir unrhyw radd neu destun. Caiff unrhyw ffeil y byddwch yn ei huwchlwytho fydd yn cynnwys “Cyflawn” am gofnod gradd ei gosod i dderbyn uchafswm y pwyntiau posibl (sef 100% am eitem gradd) mewn colofn lle nodir Cyflawn/Anghyflawn. Bydd unrhyw ffeil sy’n cael ei llwytho i fyny sy’n cynnwys cofnod rhifol yn gofnod rhifol.

  1. Ewch i ddewislen Gweithio All-lein a dewiswch Uwchlwytho.
  2. Chwiliwch am y ffeil ar eich cyfrifiadur neu yn y Casgliad o Gynnwys, os oes gennych fynediad ato.
  3. Dewiswch y math o amffinydd: Atalnod, Tab, neu Awtomatig. Os byddwch yn dewisAwtomatig, bydd y system yn ceisio darganfod yn awtomatig pa nodau bylchu a ddefnyddir yn y ffeil dan sylw.
  4. PwyswchCyflwyno i uwchlwytho’r ffeil.
  5. Ar dudalenUwchlwytho Cadarnhad Graddau, bwriwch olwg dros y rhestr o ddata rydych chi am ei huwchlwytho. Defnyddiwch y blychau ticio i ddad-ddewis unrhyw ddata i’w eithrio nad ydych am ei lwytho i fyny. Trwy wneud hynny gallwch chi uwchlwytho dim ond y colofnau data rydych chi eu heisiau o’r ffeil.

    Bwriwch olwg dros golofn Rhagolwg Data i wirio bod y data cywir yn cael eu huwchlwytho. Gall data sy'n ymddangos yn anghywir ddynodi ffeil a fformatiwyd yn wael. Mae rhagolwg o’r data'n dangos enghraifft yn unig o’r data ym mhob colofn yn y ffeil.

  6. Mae’n cymryd amser hir iawn i brosesu ffeiliau mawr, a bydd rhybudd yn ymddangos yn achos ffeiliau y mae angen amser ychwanegol i’w prosesu. Er mwyn osgoi amseroedd prosesu maith, rhannwch ffeiliau mawr a’u llwytho i fyny ar wahân.
  7. Cliciwch arCyflwyno i gadarnhau ac uwchlwytho’r ffeil.