Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Gallwch ddefnyddio Blackboard Learn i farcio, sgorio a chyfrifo graddau ar gyfer gweithgareddau asesu o ddydd i ddydd at ddibenion cyflwyno graddfeydd graddio a chofnodi graddau terfynol. Mae polisïau cofnodi graddau'n amrywio'n fawr ymhlith sefydliadau, yn benodol rheolau am dalgrynnu, defnyddio graddfeydd a beth sy'n digwydd ar bwyntiau torri'r graddfeydd.

Mae'n bwysig eich bod yn deall beth sy'n digwydd yn y llyfr graddau pan fydd gwahanol reolau a chyfrifiadau'n cael eu rhoi ar waith er mwyn ichi allu cyd-fynd â pholisïau sefydliadol. I fyfyrwyr, mae angen iddynt gael eglurder o ran sgoriau, graddfeydd a graddau. Am y rhesymau hyn, mae arfer gyson wrth ymdrin â rhifau wedi cael ei roi ar waith ledled Blackboard Learn er mwyn mynd i'r afael â amryw bolisïau ac arferion hyn wrth roi rhagor o dryloywder i ddefnyddwyr am y cyfrifiadau.

Esiamplau o achosion

Mae gan rai sefydliadau bolisi o beidio â thalgrynnu, yn enwedig ar bwyntiau cyntaf ac olaf y graddfeydd a ddefnyddir.

Enghraifft: os yw “B+” yn dechrau ar 87.125%, wedyn bydd rhaid i'r myfyriwr gael 87.1250% ac nid 87.1249% er mwyn cyflawni “B+”.

Os yw graddfa “A” yn dechrau ar 90%, bydd rhaid cael 90.00 ac nid 89.99 yn unol â pholisi nifer o sefydliadau.

Mae Blackboard Learn yn defnyddio llyfrgell meddalwedd gyson i gyfrifo holl gyfrifiadau'r llyfr graddau i 15 lle degol. Mae'r manylrwydd hwn yn sicrhau bod cyfrifiadau terfynol yn ymddangos mor agos â beth allai gael ei ail-gyfrifo â llaw gan ddefnyddio'r graddau a ddangosir yn y llyfr graddau.

Methodoleg cyfrifo Blackboard Learn

I fynd i'r afael â'r amryw bolisïau ac arferion ar adrodd graddau, mae Blackboard Learn yn dilyn ymagwedd sy'n bodloni polisïau symlach a sefyllfaoedd mwy cymhleth. Cyfeiriwch at y rhestr ganlynol i ddeall sut a pham mae gradd yn ymddangos fel y mae mewn gwahanol ardaloedd o Blackboard Learn, gan gynnwys Fy Ngraddau, y Ganolfan Raddau, a data graddau all-lein.

Disgwylir yr ymddygiadau hyn trwy gydol y rhaglen yn dechrau gyda Learn 9.1 Ch4 2017 Diweddariad Cronnol 1, Ch2 2017 Diweddariad Cronnol 3, a Ch4 2016 Diweddariad Cronnol 4.

  1. Dangosir bob rhif gydag o leiaf dau le degol, gan gynnwys cyfanrifau i ddangos yn glir bod rhif yn gyfan ac nid yw’n ganlyniad talgrynnu.
    • Enghreifftiau:
      • Bydd 100% yn dangos fel 100.00%
      • Bydd 5 pwynt yn dangos fel 5.00 pwynt
  2. Dangosir cyfrifiadau sy'n cynnwys rhifau ar ôl y lle degol. Fodd bynnag, ni ddangosir unrhyw seroau dilynol ar ôl yr ail le.
    • Enghreifftiau:
      • Bydd 81% yn dangos fel 81.00%
      • Bydd 83.3% yn dangos fel 83.30%
      • Bydd 85.12500% yn dangos fel 85.125%
  3. Caiff cyfrifiadau gyda rhifau ar ôl y degolyn, gan gynnwys rhifau sy'n ailadrodd, eu talfyrru ar ôl y pumed lle degol. Defnyddir y talfyriad hwn at ddibenion arddangos yn unig ac ni fydd y gwerthoedd byth yn cael eu talgrynnu i fyny. Bydd cyfrifiadau pellach yn defnyddio'r rhif llawn hyd at 15 lle degol.
    • Esiamplau o dalfyriad:
      • Bydd 83.333333333333333…% yn dangos fel 83.33333%
      • Bydd 75.13792864928…% yn dangos fel 75.13792%

        Os defnyddir yr esiamplau uchod mewn cyfrifiadau ychwanegol, defnyddir y gwerth llawn (hyd at 15 lle degol).

Mae gennych fwy o fanylrwydd a thryloywder mewn cyfrifiadau, felly gallwch ddewis talgrynnu fel bo'n briodol wrth roi gradd derfynol neu wrth gydymffurfio â pholisïau sefydliadol sy'n cefnogi talgrynnu.