Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Weithiau, bydd perfformiad myfyrwyr yn is na’r disgwyl mewn praf. Gall hyfforddwyr ddewis addasu sgoriau'r myfyriwr ar yr asesiad i gael sgoriau cyfartal.

Un dull syml o grymu graddau yw ychwanegu’r un faint o bwyntiau a sgôr bob myfyriwr. Dull cyffredin: Canfyddwch y gwahaniaeth rhwng y gradd uchaf yn y dosbarth a’r sgôr uchaf posibl ac ychwanegwch y cyfanswm hwnnw o bwyntiau.

Enghraifft: Crymu sgôr prawf

  • Os mai'r radd ganrannol uchaf yn y dosbarth oedd 88%, y gwahaniaeth yw 12%. Gallwch ychwanegu 12 pwynt canran at sgôr prawf pob myfyriwr.
  • Os yw'r prawf yn werth 50 pwynt a'r sgôr uchaf yw 48 pwynt, y gwahaniaeth yw 2 bwynt. Gallwch ychwanegu 2 bwynt at sgôr prawf pob myfyriwr.

Mae dwy ffordd o grymu graddau yn Blackboard Learn:

  • Dull 1: Lawrlwythwch golofn Canolfan Graddau'r prawf, defnyddiwch y cyfrifiadau cromlin priodol mewn rhaglen daenlen, a llwythwch y graddau i fyny a geir o ganlyniad i fewn i golofn Canolfan Graddau newydd.
  • Dull 2: Â llaw, diystyrwch radd prawf wreiddiol pob myfyriwr.

Dull 1: Lawrlwytho Graddau, Addasu Sgoriau Prawf, a Llwytho i fyny i'r Ganolfan Graddau

Nid oes angen teipio graddau â llaw gyda'r dull hwn ac mae'n well ar gyfer dosbarthiadau mawr. Mae’r camau hyn yn defnyddio Microsoft® Excel® i addasu’r ffeil a lawrlwythwyd. Mae'r fformiwla syml yn ychwanegu pwyntiau at radd wreiddiol y prawf. Gallwch ddefnyddio fformiwlâu mwy cymhleth os oes angen.

Byddwch yn llwytho’r graddau wedi’u haddasu i fyny. Yna, newidiwch osodiadau’r golofn ar gyfer gradd gwreiddiol y prawf fel na chaiff ei gynnwys bellach yng nghyfamsymiau unrhyw raddau a gyfrifir. Defnyddir colofn y radd newydd wedi’i haddasu yn lle hynny. Cynhwysir cyfarwyddiadau ar gyfer y dasg hon yn y camau canlynol. Gallwch hefyd ddileu'r radd prawf wreiddiol o dudalennau Fy Ngraddau myfyrwyr.

Lawrlwytho Graddau

Cyn i chi ddechrau, nodwch yr ychydig o werthoedd cyntaf o golofn y cyfanswm. Ar ôl i chi lwytho colofn Canolfan Graddau newydd i fyny, gallwch wirio i sicrhau ei bod yn cael ei chynnwys yn gywir mewn cyfrifiadau.

  1. Yng Ngwedd Canolfan Graddau Llawn, cyrchwch y ddewislen Gweithio All-lein a dewiswch Lawrlwytho.
  2. Yn y dudalen Lawrlwytho Graddau yn yr adran Data, dewiswch Colofn a Ddewiswyd. Dewiswch enw’r golofn o’r ddewislen.
  3. Yn yr adran Opsiynau, gosodwch y Math o Amffinydd i Tab.
  4. Yn yr adran Cadw Lleoliad, dewiswch Fy Nghyfrifiadur.
  5. Dewiswch Cyflwyno.
  6. Dewiswch Lawrlwytho. Yn y ffenestr naid, dewiswch Cadw Ffeil a dewiswch Iawn. Nodwch enw'r ffeil a lleoliad. Os bydd y ffeil yn cadw'n awtomatig i'ch ffolder Lawrlwytho, gallwch ei symud i ffolder wahanol a'i hailenwi i'w gwneud yn haws dod o hyd iddi.

Addasu Sgoriau Prawf

  1. Dewch o hyd i'r ffeil XLS roeddech wedi ei lawrlwytho a'i hagor yn Excel.
  2. Cliciwch y gell gyntaf yn y golofn sydd yn uniongyrchol i'r dde o'r golofn graddau prawf. Teipiwch enw colofn y gallwch chi ei adnabod yn rhwydd pan fyddwch chi’n ei uwchlwytho i Ganolfan Graddau eich cwrs. Dewiswch enw sy’n wahanol i eraill yn y Ganolfan Graddau.
  3. Dewiswch y gell sydd islaw teitl y golofn newydd a theipiwch fformiwla a fydd yn ychwanegu nifer penodol o bwyntiau at y radd prawf wreiddiol.

    Teipiwch y fformiwla hon, gan amnewid y nifer o bwyntiau y penderfynoch arnynt yn lle'r rhif 7.5: =D2+7.5

  4. Pwyswch fysell Enter. Bydd y gell yn diweddaru i ddangos y radd prawf wreiddiol gyda'r pwyntiau ychwanegol wedi eu hychwanegu ati.
  5. Pwyntiwch at gornel dde isaf y gell. Bydd y ddolen llenwi yn ymddangos (+).
  6. Llusgwch y ddolen lenwi i'r gell olaf yn y golofn rydych am gopïo'r fformiwla iddi. Rhyddhewch y llygoden i gopïo'r fformiwla i'r celloedd a ddewiswyd a diweddarwch eu cynnwys gyda chyfansymiau'r pwyntiau newydd. Bydd y fformiwla'n adnabod yn awtomatig bod cynnwys y celloedd yn rhan o gyfres ac yn addasu'r fformiwla ar gyfer pob cell yn y golofn.
  7. Yn Excel, dewiswch Cadw. Bydd neges naid yn ymddangos sy'n eich rhybuddio y gall cadw'r ffeil fel TXT dynnu rhai nodweddion. Dewiswch Parhau i gadw eich newidiadau i’r ffeil.

Llwythwch y Sgoriau a Addaswyd i fyny i'r Ganolfan Raddau

  1. Dychwelwch i Ganolfan Graddau eich cwrs a chyrchwch y ddewislen Gweithio All-lein a dewiswch Uwchlwytho.
  2. Dewiswch Pori Fy Nghyfrifiadur ac agorwch y ffeil XLS y gwnaethoch chi ei chadw yn Excel.
  3. Pennwch y Math o Amffinydd i Awto.
  4. Dewiswch Cyflwyno.
  5. Ar y tudalen Cadarnhau Graddau a Lwythir i Fyny, sylwch nad oes gan y golofn wreiddiol unrhyw ddiweddariadau data a rhestrir eich colofn newydd ar gyfer ei llwytho i fyny. Dewiswch Cyflwyno.
  6. Sgroliwch i ochr dde bellaf grid y Ganolfan Raddau i edrych ar y golofn newydd ei llwytho i fyny. Yn ôl rhagosodiad, dangosir y golofn newydd i fyfyrwyr yn Fy Ngraddau ac fe'i cynhwysir mewn cyfrifiadau Canolfan Graddau, fel y golofn cyfanswm.
  7. Yn ôl rhagosodiad, gosodir Pwyntiau Posibl y golofn newydd i sero. Cyrchwch ddewislen pennyn y golofn a dewiswch Golygu Gwybodaeth Colofn. Teipiwch werth newydd ar gyfer Pwyntiau Posibl a dewiswchCyflwyno.

    Mae'n rhaid i werth y Pwyntiau Posibl fod yn gyfwerth â'r pwyntiau posibl o'r prawf gwreiddiol. Os byddwch yn defnyddio canrannau, rhaid i'r pwyntiau posibl fod yn hafal i 100.

  8. Newidiwch y gosodiadau ar gyfer colofn y prawf gwreiddiol fel NAD yw'n cael ei chynnwys yng nghyfrifiadau'r golofn cyfanswm, ac NAD yw'n weladwy i fyfyrwyr. Cyrchwch ddewislen colofn wreiddiol y prawf a dewiswch Golygu Gwybodaeth am y Golofn.
  9. Yn y dudalen Golygu Colofn yn yr adran Dewisiadau, dewiswch Na ar gyfer Cynnwys y Golofn hon yng Nghyfrifiadau’r Ganolfan Graddau -A- dewiswch Na ar gyfer Dangos y golofn hon i Fyfyrwyr. Dewiswch Iawn yn y ffenestr naid sy’n cadarnhau eich bod chi’n dymuno peidio cynnwys y golofn mewn unrhyw gyfrifon .

Gwiriwch un neu ddau o'r gwerthoedd cyntaf yn y golofn cyfanswm i wirio ei chyfrifiadau. Dylai'r gwahaniaeth rhwng y gwerthoedd gwreiddiol a nodoch cyn dechrau y broses a'r gwerthoedd newydd gynyddu gyda nifer y pwyntiau a ychwanegoch at bob sgôr prawf.

Rhagor ynghylch gweithio all-lein


Dull 2: Â llaw, diystyrwch radd prawf wreiddiol pob myfyriwr.

Os oes gennych nifer bach o raddau prawf i'w haddasu, gallwch wrthwneud sgoriau prawf un ar y tro yn y Ganolfan Raddau mewn dwy ffordd:

  • Yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, rydym yn argymell y dylech chi bennu gradd gwrth-wneud o’r tab Gwrthwneud â Llaw yn y dudalen Manylion Graddau. Ar ôl neilltuo'r radd, gallwch ychwanegu adborth ar gyfer y defnyddiwr a nodiadau ar gyfer eich hun sy'n esbonio'r newid gradd. Bydd cofnod gennych o'r rheswm pam eich bod yn dewis gwrthwneud unrhyw ymgeisiau yn y dyfodol.

    -NEU-

  • Teipiwch yn uniongyrchol mewn cell Canolfan Raddau i neilltuo gradd gwrthwneud ar gyfer ymgais prawf.

Rhagor am wrthwneud graddau