Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Gallwch greu adroddiadau mae modd eu hargraffu ar gyfer eich cyrsiau a myfyrwyr. Gallwch hefyd greu adroddiad cynnydd sy'n cynnwys graddau o gyfnod graddio penodol ar gyfer grŵp diffiniedig o fyfyrwyr mewn dosbarth. Gallwch ddewis y myfyrwyr hynny'n unig o fewn un adran i ymddangos mewn adroddiad. Mae'n rhaid i chi redeg adroddiad ar wahân ar gyfer pob adran.
Yn seiliedig ar eich fersiwn chi o Blackboard Learn, pan fydd myfyrwyr yn cyflwyno aseiniadau llwyddiannus, gallant dderbyn rhifau cadarnhad. Os ar gael, gallwch weld y rhifau cadarnhad ar gyfer cyflwyniadau’r holl fyfyrwyr o’r Ganolfan Raddau.
Gallwch addasu adroddiadau. Gallwch gynnwys gwybodaeth pennyn a throedyn i adroddiad, llinell llofnod, dyddiad, a gwybodaeth am y cwrs.
Wrth argraffu, un myfyriwr y tudalen yn unig a ganiateir.
Creu adroddiad
Yn y Ganolfan Raddau, ewch ati i gyrchu’r ddewislen Adroddiadau a dewis Creu Adroddiad.
Gallwch wneud dewisiadau a rhoi testun ar gyfer pob adran. Yn y troedyn, gallwch olygu'r dyddiad arddangos ar gyfer dyddiad creu’r adroddiad.
Pan fyddwch yn dewis y defnyddwyr yr hoffech eu cynnwys yn yr adroddiad, ni ellir cynnwys grwpiau nes iddynt gael eu creu.
I ddewis myfyrwyr lluosog, gwasgwch yr allwedd Shift a dewis yr eitemau cyntaf a'r olaf. I ddewis myfyrwyr ar hap, gwasgwch y bysell Ctrl a dewiswch bob myfyriwr sydd ei angen. Ar gyfer cyfrifiaduron Mac, pwyswch y fysell Command yn lle’r fysell Ctrl.
Gallwch weld rhagolwg o’r adroddiad cyn i chi ei gyflwyno.
Cadw neu argraffu adroddiad
I gadw adroddiad, defnyddiwch swyddogaeth Cadw Fel eich porwr a dewiswch y lleoliad cadw. Caiff yr adroddiad ei arbed fel ffeil HTML.
I argraffu adroddiad, defnyddiwch swyddogaeth argraffu'r porwr. Dewiswch yr opsiynau priodol. Edrychwch ar help ar-lein eich porwr am ragor o wybodaeth am argraffu.
Ystadegau’r Ganolfan Raddau
Yn y Ganolfan Raddau, allwch edrych ar wybodaeth ystadegol sy'n ymwneud â cholofn ac unrhyw ddefnyddiwr. Mae'r tudalennau ystadegau'n ddarllen yn unig. Chewch chi ddim golygu graddau neu wybodaeth arall.
Y dudalen Ystadegau Defnyddwyr
Ar y dudalen Ystadegau Defnyddiwr, gallwch weld gwybodaeth myfyrwyr a’r ganran a chyfanswm yr eitemau sydd wedi’u cwblhau erbyn yr amser a’r dyddiad presennol.
Cynhyrchir gwybodaeth gyswllt y myfyriwr o'r hyn y mae myfyriwr wedi dewis ei rhannu.
Mae’r dudalen Ystadegau Defnyddwyr yn arddangos ystadegau myfyriwr. Yn y Ganolfan Raddau, cyrchwch dewislen defnyddiwr a dewis Gweld Ystadegau Defnyddiwr.
I weld data defnyddiwr arall tra ar y dudalen Ystadegau Defnyddwyr, dewiswch enw'r myfyriwr priodol o'r ddewislen Defnyddiwr a dewis Go. Defnyddiwch y saethau sy'n pwyntio i'r chwith a'r dde i symud yn nhrefn yr wyddor at y myfyriwr blaenorol neu nesaf. Gallwch anfon negeseuon e-bost i fyfyrwyr o’r dudalen hon yn yr adran Cyswllt.
I newid yr ystadegau y gallwch weld ar y dudalen hon, dewiswch wedd o’r ddewislen Dangos Ystadegau Ar gyfer a dewiswch Adnewyddu. Yn ôl rhagosodiad, dangosir gwedd lawn y Ganolfan Raddau, ond os dewisir gwedd arall, yna dangosir yr ystadegau hynny.
Y dudalen Ystadegau Colofn
Mae'r dudalen Ystadegau Colofn yn arddangos ystadegau ar gyfer eitem gradd, gan gynnwys gwyriad cyfartalog, canolrif, a safonol. Gallwch hefyd weld faint sydd angen graddio a sut caiff y graddau eu dosbarthu.
Yn y Ganolfan Raddau, cyrchwch ddewislen pennawd colofn a dewis Ystadegau Defnyddiwr.
Gallwch gynnwys myfyrwyr nad ydynt ar gael yn yr ystadegau. Cyrchwch y ddewislen Dangos Ystadegau Ar gyfer a dewis Yr Holl Ddefnyddwyr. Dewiswch Adnewyddu.
I weld colofn arall, dewiswch o’r ddewislen Colofn a dewis Go. Defnyddiwch yr eiconau Colofn Nesaf a Colofn Flaenorol i symud i golofn arall.
Ystadegau Sydd ar Gael
- Gwerthoedd Isaf ac Uchaf: Y gwerth isaf a’r uchaf o bob colofn a raddiwyd yn y Ganolfan Raddau.
- Ystod: Yr amrediad rhifol rhwng y radd uchaf a'r radd isaf ar gyfer eitem.
- Cyfartaledd: Cyfartaledd ystadegol yr eitem
- Canolrif: Sgôr ganolrif yr eitemau
- Gwyriad Safonol: Y gwahaniaeth rhwng gwerthoedd yr eitem a chyfartaledd yr eitem
- Amrywiant: Mesur ystadegol lledaeniad neu amrywiant yr eitemau
Cadarnhau cyflwyniadau aseiniad myfyrwyr
Pan fydd y myfyrwyr wedi cyflwyno aseiniad yn llwyddiannus, bydd tudalenAdolygu Hanes Cyflwyniadau yn ymddangos gyda gwybodaeth am yr aseiniadau y maent wedi eu cyflwyno, ynghyd â neges gyda rhif cadarnhau sy’n nodi eu bod wedi llwyddo i gyflwyno gwaith. Gall myfyrwyr gopïo ac arbed y rhif hwn fel prawf o'u cyflwyniadau a thystiolaeth ar gyfer anghydfodau academaidd. Ar gyfer aseiniadau gydag ymgeisiau lluosog, bydd myfyrwyr yn derbyn rhif gwahanol ar gyfer pob cyflwyniad. Os yw'ch sefydliad wedi galluogi hysbysiadau e-bost ar gyfer derbyniadau cyflwyno, bydd eich myfyrwyr hefyd yn derbyn e-bost gyda rhif cadarnhau a manylion eraill ar gyfer pob cyflwyniad.
Ni fyddwch chi na’ch myfyrwyr yn gallu gweld y rhifau cadarnhau os yw eich sefydliad yn defnyddio Blackboard Learn 9.1 Q4 2014 neu gynharach. Cyflwynwyd hysbysiadau e-bost i fyfyrwyr a gallu myfyrwyr i weld cofnodion o’r gwaith maent wedi ei gyflwyno am y tro cyntaf yn Blackboard Learn 9.1 Q2 2017.
Mae gennych chi a’ch gweinyddwyr gofnod y gellir ei adfer yn y system os bydd ymgais, aseiniad, neu fyfyriwr yn cael ei ddileu’n ddiweddarach o’r cwrs. Caiff y cofnodion hyn eu cadw yn y cwrs, a bydd modd cael gafael arnynt ar ôl y broes archifo ac adfer.
Gallwch weld pob un o rifau cadarnhad eich myfyrwyr o’r Ganolfan Raddau. Cyrchwch y ddewislen Adroddiadau a dewis Derbynebau Cyflwyno.
Ar y dudalen Derbynebau Cyflwyniadau, gallwch weld gwybodaeth ar gyfer pob aseiniad, fel pwy gyflwynodd yr aseiniad a phryd. Mae aseiniadau grŵp hefyd yn cael eu cofnodi ac mae’r golofn Cyflwynydd yn rhestru pwy wnaeth gyflwyno ar gyfer y grŵp. Yn y golofn Cyflwyniad, gallwch weld os wnaeth myfyriwr gyflwyno ffeil neu ysgrifennu’r cyflwyniad yn y golygydd aseiniad.
Defnyddiwch y dewislenni ar frig y dudalen i hidlo'r eitemau. Yn yr ail ddewislen, dewiswch Ddim yn wag a gadael y blwch chwilio’n wag i ddangos yr holl dderbynebau cyflwyno. Dewiswch bennawd colofn i sortio'r eitemau.