Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Ar dudalen Manylion Graddau, gallwch weld ymgeisiau myfyriwr a hanes graddau, pennu a golygu gradd, a chlirio ac eithrio graddau.
Ar dabiau Ymgeisiau a Hanes Gradd, gallwch weld y cyfarwyddyd a ddefnyddir ar gyfer graddio.
Yng Ngwedd Rhestr y cyfarwyddyd, os na ddewisoch opsiwn ar gyfer maen prawf cyn teipio adborth, ni chadwyd yr adborth pan cadwoch y cyfarwyddyd.
Mae'r dudalen hon hefyd yn gwasanaethu fel y prif leoliad ar gyfer defnyddwyr gyda thechnoleg gynorthwyol megis darllenwyr sgrin. Mae’r holl wybodaeth sy’n gysylltiedig ag eitem yn ymddangos ar dudalen Manylion Gradd.
Aseinio gradd ar y dudalen Manylion Gradd
- Ar dudalen Manylion Gradd ar dab Ymgeisiau dewiswch Ymgais Gradd.
- Rhowch farc.
- Dewiswch Cadw a Gadael i ddychwelyd i'r brif dudalen Canolfan Raddau
-NEU-
Dewiswch Cadw a Nesaf i weld yr ymgais nesaf.
Tabiau Manylion Gradd
Ar frig tudalen Manylion Gradd, mae adran Gradd Gyfredol yn dangos y sgôr gyfredol neu eicon fel Angen Graddio.
Os byddwch yn dewis Wedi Eithrio, caiff y marc hwn ei eithrio o gyfrifiadau Canolfan Raddau y myfyriwr Bydd eicon Wedi Eithrio yn ymddangos yn y gell yn y grid.
Dewiswch Gweld yr Ymgeisiau i weld pob un o’r ymgeisiau sy’n gysylltiedig â’r eitem hon.
Mae tabYmgeisiau yn rhestru pob un o’r ymgeisiau a gyflwynwyd. Gallwch chi weld ar ba ddyddiad y cafodd pob ymgais ei chyflwyno, a gallwch chi adael nodiadau marcio i chi’ch hun.
Gallwch chi farcio, clirio neu olygu’r marc ar gyfer pob ymgais. Gallwch chi hefyd anwybyddu ymgais a’i chadw, ond eithrio ei marc o gyfrifiadau’r Ganolfan Raddau. Nid yw'r ymgais yn cyfrif tuag at y nifer o ymgeisiau a ganiateir.
Defnyddiwch y ddewislen Dileu i ddewis un ymgais neu'r holl ymgeisiau i'w dileu.
Os bydd myfyriwr yn cyflwyno’r nifer uchaf posibl o ymgeisiau, bydd Caniatáu Ymgeisiau Ychwanegol yn ymddangos a bydd modd ichi ganiatáu i’r myfyriwr gyflwyno ymgais arall.
Ar dab Diystyru, gallwch chi roi marc newydd i eitem. Teipiwch farc newydd ym mlwch Diystyru'r Radd. Gallwch chi roi adborth i’r defnyddiwr a nodiadau marc hefyd, ac atodi ffeiliau yn y Golygydd.
Mae tabManylion Colofn yn darparu gwybodaeth am golofn y Ganolfan Raddau, fel enw, disgrifiad, prif ddangosydd, a sgôr gyfartalog.
Ar dab Hanes Gradd, bydd y ddwy weithred fwyaf diweddar yn ymddangos yn ddiofyn. Dewiswch Gweld yr Hanes Cyfan i weld mwy.
Ar dabiau Ymgeisiau a Hanes Gradd, gallwch weld y cyfarwyddyd a ddefnyddir ar gyfer graddio Yng Ngwedd Rhestr y cyfarwyddyd, os na ddewisoch opsiwn ar gyfer maen prawf cyn teipio adborth, ni chadwyd yr adborth pan cadwoch y cyfarwyddyd.
Gweld sawl ymgais
Pan fyddwch yn caniatáu ymgeisiau lluosog, efallai na fydd angen i chi eu graddio i gyd. Ar dudalen Manylion Gradd, bydd pob ymgais yn ymddangos ag un neu ddwy eicon. Os byddwch yn dewis marcio’r ymgais gyntaf ac olaf, bydd yr ymgais y bydd angen ichi ei marcio yn ymddangos ag un eicon, sef eicon Angen Graddio.
Bydd yr ymgeisiau eraill yn ymddangos ag eicon ‘Ddim yn cyfrannu at radd defnyddiwr’ ac eicon Angen Graddio.
Ni fyddwch yn gweld yr eicon "Nid yw'n cyfrannu at radd y defnyddiwr" os yw'ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn.
Pwysig: Os byddwch chi’n caniatáu pedair ymgais ac yn dewis defnyddio’r ymgais olaf ar gyfer y radd, dim ond yr eicon Angen Graddio fydd yn ymddangos gyda’r ymgais olaf a gyflwynir. Felly, os yw myfyriwr wedi cyflwyno tair ymgais, bydd y drydedd ymgais ond yn ymddangos ag eicon Angen Graddio. Os byddwch chi’n graddio’r ymgais honno, bydd y myfyriwr yn dal yn gallu gwneud ymgais arall. Bydd yr ymgais nesaf ond yn ymddangos ag eicon Angen Graddio oherwydd mai dyna’r bedwaredd ymgais a’r un olaf.
Ar gyfer rhai eitemau y gallwch eu marcio, fel aseiniadau, gallwch chi ddewis Graddio'r Ymgais a dechrau marcio. Os byddwch yn dewis ymgais nad yw’n cyfrif tuag at farc myfyriwr, bydd eicon Ddim yn cyfrannu at radd defnyddiwr yn ymddangos. Gallwch fynd i’r ymgais sy’n ymddangos ag eicon Angen Graddio yn unig.
Mwy o wybodaeth am farcio sawl ymgais o dudalen Angen Graddio.