Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Os oes gennych lawer o raddio i'w wneud, gall tudalen Angen Graddio eich helpu i bennu beth sydd angen eich sylw yn gyntaf. Gallwch weld yr holl eitemau sy'n barod i'w raddio neu adolygu.

Ar gyfer cyrsiau gyda nifer o fyfyrwyr wedi ymrestru arnynt a gyda nifer o eitemau graddedig, gallwch ddefnyddio tudalen Angen Graddio i drefnu'ch llwyth gwaith marcio. Gallwch adolygu a graddio'r eitemau graddedig hyn:

  • Ymgeisiau aseiniad unigol
  • Ymgeisiau aseiniad grŵp
  • Ymgeisiau profion
  • Cofnodion blog a dyddlyfr
  • Tudalennau wiki a gadwyd
  • Postiadau trafod

Gallwch bersonoli sut rydych yn gweld eitemau gyda statws Angen Graddio. Gallwch sortio, hidlo a graddio'r eitemau mwyaf brys yn gyntaf. Er enghraifft, gallwch bennu yn ôl dyddiad dyledus er mwyn sicrhau eich bod yn graddio'ch profion terfynol erbyn dyddiad cau eich sefydliad.

Pan fyddwch yn caniatáu ymgeisiau lluosog, efallai ni fydd angen i chi raddio pob un ohonynt. Gallwch guddio'r ymgeisiau nid oes angen eu graddio er mwyn trefnu'ch llwyth gwaith graddio ymhellach.

Os ydych wedi caniatáu i fyfyriwr gyflwyno prawf ar ôl y dyddiad dyledus, bydd label Hwyr yn ymddangos yng ngholofn y Dyddiad Cyflwyno. Mae'r eicon Angen Graddio yn ymddangos yng ngholofn y Ganolfan Raddau hefyd. Bydd rhaid i chi adolygu cyflwyniadau hwyr â llaw i dynnu'r statws Angen Graddio. Pan fyddwch yn mynd i gyflwyniad hwyr ac yn dewis Cadw a Gadael, caiff gradd y prawf wedi'i raddio yn awtomatig ei rhyddhau i fyfyrwyr ac ymddengys y radd yng ngholofn y Ganolfan Raddau. Nid yw'r prawf yn ymddangos ar y dudalen Angen Graddio bellach.


Ewch i'r dudalen Angen Graddio

Panel Rheoli > adran Canolfan Raddau > tudalen Angen Graddio

  1. Dewiswch Graddio Pob Un i ddechrau graddio. Bydd yr eitemau yn ymddangos yn y drefn maen nhw'n ymddangos ar dudalen Angen Graddio.

    Nid yw profion gyda statws graddio Ymgais ar Waith yn ymddangos ar dudalen Angen Graddio.

    Os mai chi yw'r graddiwr terfynol yn y llif gwaith graddio dirprwyedig, bydd tab Angen Cysoni yn ymddangos nesaf at Graddio Pob Un.

  2. Mae cyfanswm nifer yr eitemau i'w graddio yn ymddangos uwch ben y rhestr o eitemau. Ar ôl i chi raddio eitemau, nid ydynt yn ymddangos ar dudalen Angen Graddio. Bydd nifer yr eitemau yn diweddaru i adlewyrchu'r nifer cyfredol sydd angen eu graddio. Os byddwch yn hidlo'r rhestr, mae'r nifer yn adlewyrchu sawl eitem sy'n cyd-fynd â'r gosodiadau hidlo cyfredol. Er enghraifft, "12 o gyfanswm o 17 eitem yn cyd-fynd â'r hidlydd cyfredol."
  3. Rhoi hidlyddion ar waith i leihau'r rhestr yn ôl categori, eitem, defnyddiwr, a'r dyddiad cyflwyno. Os byddwch yn defnyddio hidlwr, yr eitemau a hidlwyd yn unig sy'n ymddangos yn y rhestr ac yn y rhes. Er enghraifft, gallwch ddewis elfennau o ddewislenni Categori a Defnyddiwr er mwyn dangos profion a gyflwynwyd gan ddefnyddiwr penodol. Dewiswch Iawn. Mae'r rhestr wedi'i hidlo yn aros yn weithredol tan i chi olygu'r dewisiadau hidlo neu allgofnodi. Dewiswch yr X i gau'r maes Hidlo.
  4. Sortio colofnau i drefnu'ch rhestr. I sortio colofn, dewiswch bennawd y golofn. Mae'r rhestr a ddidolwyd yn aros fel y mae tan i chi ei newid neu allgofnodi. Mae'r colofnau hyn yn ymddangos ar dudalen Angen Graddio:
    • Categori: Sortio ymgeisiau er mwyn grwpio eitemau tebyg, megis aseiniadau, gyda'i gilydd.
    • Enw Eitem: Mae'n didoli ymgeisiau yn ôl trefn yr wyddor neu drefn yr wyddor gan ddechrau o'r diwedd.
    • Ymgais Defnyddiwr: Mae'n didoli ymgeisiau yn ôl enw myfyriwr. Rhestrir nifer yr ymgeisiau ar gyfer yr eitem mewn cromfachau. Er enghraifft: "Mary Johnson (Ymgais 2 o 2)." Dewiswch enw defnyddiwr i fynd i'r ymgais.
    • Dyddiad Cyflwyno: Didolwch ymgeisiau yn ôl y dyddiad a'r amser y cyflwynwyd ymgeisiau gan fyfyrwyr. Os ydych wedi caniatáu i fyfyriwr gyflwyno prawf ar ôl y dyddiad dyledus, bydd label Hwyr yn ymddangos yn y golofn. Bydd rhaid i chi adolygu'r cyflwyniadau â llaw i dynnu'r statws Angen Graddio.
    • Dyddiad Dyledus: Os rhoddoch ddyddiad cyflwyno pan greoch yr eitem, didolwch ymgeisiau yn ôl y dyddiad cyflwyno a graddiwch eitemau sy'n ddyledus yn gyntaf.
  5. Ewch i ddewislen eitem a gwnewch eich dewis. Er enghraifft, gydag aseiniadau, gallwch ddewis Graddio Pob Defnyddiwr neu Graddio gydag Enwau Defnyddwyr wedi'u cuddio. Mae gan eitemau rhyngweithiol fel blogiau yr opsiwn i Ailosod y Cyfan, sy'n clirio'r cyfrif o weithgareddau ac yn symud yr eitem allan o statws angen graddio. Mae cyfanswm nifer yr ymgeisiau ar gyfer yr eitem a ddewiswyd wedi'i restri mewn cromfachau.
  6. Dewiswch Dangos y Cwbl i ddangos hyd at 1,000 eitem ar un tudalen. Dewiswch Golygu Tudalennu i newid nifer yr eitemau i'w gweld fesul tudalen.

Graddio ymgeisiau lluosog

Pan fyddwch yn caniatáu ymgeisiau lluosog, efallai na fydd angen i chi eu graddio i gyd. Mae tudalen Angen Graddio yn awtomatig yn dangos yr ymgeisiau y mae angen eu graddio'n seiliedig ar ba ymgais rydych wedi dewis ei raddio - cyntaf neu olaf.

Gallwch ddewis dangos pob ymgais gan bob myfyriwr neu grŵp. Dewiswch y blwch ticio ar gyfer Dangos ymgeisiau sydd ddim yn cyfrannu at radd defnyddiwr ac yna dewiswch Iawn. Bydd nifer yr eitemau sydd angen i chi eu graddio yn cynyddu i gynnwys yr eitemau a oedd yn gudd yn flaenorol. Pan fyddwch yn newid y gosodiad, bydd Learn yn cofio'r dewisiad ym mhob un o’ch sesiynau a chyrsiau.

Ni fyddwch yn gweld blwch ticio "Dangos ymgeisiau sydd ddim yn cyfrannu at radd defnyddiwr" os yw’ch sefydliad yn defnyddio fersiwn hŷn o Blackboard Learn.

Ar gyfer pob myfyriwr neu grŵp, mae pob ymgais yn ymddangos. Bydd unrhyw eitem nad sydd angen i chi raddio yn ymddangos gydag eicon Ddim yn cyfrannu at radd defnyddiwr. Os ydych wedi galluogi graddio dienw neu ddirprwyedig ar gyfer aseiniad, rheolir ymgeisiau lluosog yn yr un modd. I amddiffyn anhysbysrwydd, ni ddatgelir enwau na statysau ymgeisiau myfyrwyr.

Pan fyddwch yn dewis ymgais gyda'r eicon, bydd eicon Ddim yn cyfrannu at radd defnyddiwr yn ymddangos eto ar y dudalen graddio. Gallwch fynd i’r ymgais sy’n ymddangos ag eicon Angen Graddio yn unig.

Grade attempts

Pwysig: Os byddwch yn caniatáu pedwar ymgais ac yn dewis defnyddio'r ymgais olaf ar gyfer y radd, byddwch yn gweld pa bynnag ymgais sydd olaf fel yr un i'w raddio. Felly, os yw myfyriwr wedi gwneud tri ymgais, y trydydd ymgais yw'r un i raddio ar yr adeg honno. Os byddwch chi’n graddio’r ymgais honno, bydd y myfyriwr yn dal yn gallu gwneud ymgais arall. Bydd yr ymgais nesaf yn ymddangos fel barod i raddio gan mai'r pedwerydd ymgais a'r ymgais olaf ydyw.