Mae'r pwnc hwn yn berthnasol i'w sawl sy'n defnyddio rhyddhad Blackboard Learn 9.1 mis Ebrill 2014 neu'n gynharach. Os ydych chi'n defnyddio Blackboard Learn 9.1 mis Hydref 2014 neu'n hwyrach, neu Learn SaaS, nid yw'r pwnc cymorth hwn yn berthnasol. Am ragor o wybodaeth am y porwyr a gefnogir gyda'r rhyddhad o Blackboard Learn rydych chi'n ei defnyddio, edrychwch yn yr adran Porwr gyda Chefnogaeth.

Problemau cyffredin

Os ydych chi'n defnyddio Microsoft Internet Explorer i gael mynediad at Blackboard Learn, mae'n bosib y byddwch dod ar draws dau wall cyffredin:

  • Heb Fewngofnodi: Mae hyn yn digwydd pan rydych yn ceisio cael mynediad at nodweddion y Cwmwl megis Proffiliau a bod y porwr heb ei ffurfweddu i gael gweinydd y Cwmwl a gweinydd gosod Learn yn yr un Ardal Diogelwch.
  • Heb Ddod o Hyd i'r Proffil: Mae hyn yn digwydd pan rydych yn ceisio cael mynediad at y nodwedd Proffiliau a bod eich porwr wedi'i ffurfweddu i ddangos naill ai gweinydd gosod Learn neu weinydd yn y Cwmwl yn y modd Gwedd Cydnawsedd.

Gall y gwallau hyn ddigwydd hyd yn oed os ydych wedi mewngofnodi i Blackboard Learn yn eich sefydliad.

Mae'r Wedd Cydnawsedd a'r Ardaloedd Diogelwch yn nodweddion unigryw i Internet Explorer. Os ydych chi'n defnyddio porwyr eraill a gefnogir ar gyfer Blackboard Learn, ni fyddwch yn cael y problemau hyn. I ddysgu mwy am borwyr a gefnogir, gweler y pwnc Polisi Cefnogaeth Porwr yn yr adran hon.

Mae'r problemau hyn yn hawdd i'w cywiro, ond rhaid eu gwneud yn y porwr ei hun. Mae’r adrannau canlynol yn darparu cyfarwyddiadau ar gyfer nifer o fersiynau.


Ffurfweddu ardaloedd diogelwch Internet Explorer ar gyfer Blackboard Learn a'r Cwmwl

  1. O'r ddewislen Offer, dewiswch Opsiynau Rhyngrwyd. Yn fersiynau 9 a 10 Internet Explorer, gallwch gael mynediad at y ddewislen hon trwy ddethol yr eicon gêr o dan y bar chwilio. Mae’r camau canlynol yr un fath ar gyfer pob fersiwn.
  2. Dewiswch dab Diogelwch ym mlwch deialog Opsiynau Rhyngrwyd.
  3. Dewiswch Safleoedd Cymeradwy (yr eicon gyda'r tic gwyrdd.
  4. Ychwanegwch *.cloud.bb i'r Ardal Gymeradwy os nad yw eisoes wedi'i ychwanegu.
  5. Ychwanegwch eich cyfeiriad gweinydd Blackboard i’r Parth Cymeradwy os nad yw eisoes yno.
  6. Caewch flwch dialog y Safleoedd Cymeradwy.
  7. Dewiswch Iawn i gau blwch deialog Opsiynau Rhyngrwyd.


Ffurfweddu gosodiadau'r Wedd Cydnawsedd ar gyfer Blackboard Learn a'r Cwmwl

  1. O'r ddewislen Offer, dewiswch Gosodiadau'r Wedd Cydnawsedd. Yn fersiynau 9 a 10 Internet Explorer, rydych yn cael mynediad at y ddewislen hon trwy ddefnyddiol bysell Alt i wneud y ddewislen yn weladwy. Yn fersiwn 10 ar OS Windows 8, rhaid i chi fod yn y modd Bwrdd Gwaith. Mae’r camau canlynol yr un fath ar gyfer pob fersiwn.
  2. Adolygwch unrhyw safleoedd yn y rhestr Gwefannau rydych wedi'u hychwanegu i'r Wedd Cydnawsedd.
  3. Os oes unrhyw safleoedd cloud.bb neu'ch safle Blackboard Learn yn y rhestr, dewiswch nhw a dewis Tynnu.
  4. Os yw'ch safle Blackboard Learn yn eich Ardal Ddiogelwch y Mewnrwyd, cliriwch y blwch ticio Dangos safleoedd y mewnrwyd yn y Wedd Cydnawsedd.
  5. Dewiswch Cau i gau blwch deialog Gosodiadau'r Wedd Cydnawsedd.


Nodiadau

Yn dechnegol, mae’r broblem gyda’r Parth Diogelwch yn codi os yw’ch gweinydd Blackboard Learn a’r gweinydd cloud.bb Blackboard mewn dau wahanol Barth Diogelwch Internet Explorer AC mae un o’r parthau hyn yn rhedeg yn y Modd Wedi’i Ddiogelu ac nad yw’r parth arall yn rhedeg yn y Modd Wedi’i Ddiogelu. Yn y ffurfweddiad hwn, ni all y gweinydd cloud.bb a’r gweinydd Blackboard Learn gyfathrebu gyda’i gilydd i ddilysu’ch sesiwn, felly mae’r gweinydd cloud.bb yn adrodd nad ydych wedi mewngofnodi.

Oherwydd hyn, mae hefyd yn bosibl datrys y mater hwn trwy newid y gosodiad Modd Wedi’i Ddiogelu ar gyfer un o’r parthau (yn defnyddio’r tab Diogelwch a ddisgrifir uchod) fel ei fod yn cyd-fynd â’r llall, heb o reidrwydd newid y parth ar gyfer y naill weinydd na’r llall, neu ychwanegu’r naill neu’r llall i’r parth Safleoedd Dibynadwy. Fodd bynnag, gall hyn effeithio ar eich gallu i bori safleoedd eraill nad sy'n rhai Blackboard neu i bori polisïau yn y sefydliad.

Y ffordd hawsaf, a argymhellir o ffurfweddu eich porwr i weithio o amgylch y broblem hon yw trwy ychwanegu’r ddau gofnod i’r parth Safleoedd Dibynadwy a ddisgrifir uchod.

Ni ddylai fod angen y modd Gwedd Cydnawsedd ar gyfer unrhyw nodwedd yn Blackboard Learn. Wedi gosod y modd hwn, nid yw’r gweinydd Cwmwl yn gallu cyfathrebu yn ôl i’r gweinydd Blackboard Learn pan fydd yn cael gwybodaeth newydd.